(Cwrs Byr) Hanes Cartrefi a Gerddi
Manylion cwrs
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Tybed ydych chi wedi crwydro o gwmpas eiddo hanesyddol yn edmygu’r cartrefi a’r gerddi hardd, gan ddyheu am wybod rhagor am eu hanes? Ymunwch â’r cwrs cyffrous hwn a fydd yn eich cyflwyno i bwysigrwydd cartrefi a gerddi, o gestyll canoloesol i dai teras Fictorianaidd.
Prif nodweddion y cwrs
• Dysgu am y prif ddylanwadau cymdeithasol a diwylliannol ar adeiladu a datblygu cartrefi a gerddi.
• Astudio’r ffordd y mae swyddogaeth cartrefi a gerddi yn adlewyrchu’r cyfnod hanesyddol
• Cael y cyfle i ymweld â thai a gerddi i ystyried y dystiolaeth gorfforol sydd ynddynt ac i ddarganfod mwy am y ffordd y mae cartrefi a gerddi yn adlewyrchu statws a ffasiwn gyfoes.
• Bydd y modiwl hwn hefyd yn gam ymlaen i unrhyw un sy’n ystyried symud ymlaen i’r astudiaeth hanesyddol fwy datblygedig ar ein rhaglen BA (Anrh) Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu am:
- Pwysigrwydd lleoliad ac amddiffyn: astudiaethau achos o gestyll Cymreig e.e. Dolwyddelan and Caernarfon
- ‘Yr Ailadeiladu Mawr’: Dylanwadau’r Dadeni a phwysigrwydd dylunio
- Dylunio gerddi a dehongli artistig
- Cartrefi a gerddi cyfnod Fictoria: gerddi muriog, mynwentydd tirluniedig a rhandiroedd
- Rheoli cartrefi a gerddi: o fentrau preifat i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Addysgu ac Asesu
Asesir myfyrwyr trwy bortffolio a fydd yn dogfennu'r gweithgareddau a gyflawnir yn ystod y cwrs. Bydd y rhain yn cynnwys:
- ymarferion ar ffynonellau ysgrifenedig
- dadansoddiad o dystiolaeth weledol a dogfennol
Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cynnwys gwerthusiad o un o'r ymweliadau a gynhaliwyd yn ystod y modiwl gyda ffocws ar bensaernïaeth, dylunio gerddi a diwylliant materol
Ffioedd a chyllid
£150