(Cwrs Byr) Hanfodion Marchnata Digidol
Manylion cwrs
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i hanfodion marchnata digidol. Byddwch yn dysgu’r arferion gorau ynghylch sut i ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau marchnata digidol, cynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddeg a mesur.
Prif nodweddion y cwrs
- Creu eich cynllun marchnata eich hun ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, yn seiliedig ar sefydliad neu fusnes o’ch dewis (eich cyflogwr fel rheol).
- Cael cymorth yn ogystal â chyfleoedd i drafod gyda chydfyfyrwyr drwy drafodaethau dan arweiniad ar y fforymau ar-lein.
- Defnyddio amrywiaeth o adnoddau marchnata digidol, cynllunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddeg a mesur.
- Astudio ar-lein yn ddi-dâl.
Beth fyddwch chin ei astudio
Gofynion mynediad a gwneud cais
I wneud cais am y cwrs, ewch i'r siop ar-lein.
Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs. Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk.
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiect sy'n cynnwys datblygu cynllun marchnata digidol, yn seiliedig ar wella perfformiad marchnata digidol sefydliad o'u dewis, fel arfer eu sefydliad eu hunain. Mae'r cynllun yn adlewyrchu'r cynnwys wythnosol ac yn seiliedig ar dempled ymarferol a ddarperir. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos eu dysg. Y disgwyliad ar gyfer nifer geiriau'r cynllun gwella yw 500 - 1,000 gair.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau'r cwrs
Mai 16 2022 am 4 wythnos