(Cwrs Byr) Hanfodion TG
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 9 wythnos
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs byr hwn am sicrhau fod gan y myfyrwyr y sgiliau TG sydd eu hangen arnynt mewn gwaith graddedig a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae’n rhoi’r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr feithrin eu hyder a gwella eu gallu TG i fod yn effeithiol wrth ddefnyddio MS Office.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio ar-lein yn ddi-dâl.
- Datblygu eich sgiliau TG yn bersonol neu’n broffesiynol.
- Meithrin hyder wrth ddefnyddio rhaglenni MS Office.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Hanfodion TGCh a Rheoli Ffeiliau (MS Windows) – helpu myfyrwyr gyda sgiliau cadw trefn gyfrifiadurol sylfaenol, a darparu dealltwriaeth hanfodol ar sut i ddefnyddio cyfrifiadur mewn modd diogel a chyfrifol.
- Prosesu Word (MS Word) – helpu'r myfyrwyr i ddefnyddio amrywiaeth o offer prosesu word sylfaenol i gynhyrchu dogfennau priodol, uniongyrchol a rheolaidd.
- Cyflwyniadau (MS PowerPoint) – darparu'r sgiliau i ddefnyddio amrywiaeth o offer cyflwyno sylfaenol. Bydd y myfyrwyr yn gallu creu cyflwyniadau priodol, a sioeau sleid.
- Taenlenni (MS Excel) – galluogi myfyrwyr i ddefnyddio amrywiaeth o offer taenlen sylfaenol i gynhyrchu taenlenni priodol.
- Rhyngrwyd/Cysylltiadau - helpu'r myfyrwyr i ddeall sut i ddefnyddio'r Rhyngrwyd ac e-bostio mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.
Gofynion mynediad a gwneud cais
I archebu lle, ewch i'n siop ar-lein. Cysylltwch â enterprise@glyndwr.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Mae archebion ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad dechrau'r cwrs.
Addysgu ac Asesu
- Asesiad un: Gwaith Cwrs (pwysoli 80%)
- Asesiad dau: Cwis Ar-lein (Pwysoli 20%)
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau'r Cwrs
Cwrs 1: Bydd y Cwrs hwn yn cychwyn wythnos yn dechrau’r 31ain Ionawr 2022.
Cwrs 2: Bydd y Cwrs hwn yn cychwyn wythnos yn dechrau’r 25ain Ebrill 2022.
Cwrs 3: Bydd y Cwrs hwn yn cychwyn wythnos yn dechrau’r 4ydd Gorffenaf 2022.
Bydd angen i chi fewngofnodi bob wythnos i gael mynediad at gynnwys Cwrs a chael eich astudiaethau.
* Sylwch * Dim ond unwaith y mae angen i unigolion archebu’r cwrs, mae’r gwahanol gyrsiau’n cyfeirio at wahanol ddyddiadau cychwyn ac mae gan bob un yr un cynnwys.