Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs byr hwn wedi'i ddylunio i wella prosesau a thwf busnes eich sefydliad, gwella perfformiad gweithwyr, gwella eich diwylliant yn y gweithle a chyflwyno dull strwythuredig o gefnogi unigolion i hwyluso newid ymddygiad drwy ddefnyddio profiadau hyfforddiant i hyrwyddo a gwella effeithiolrwydd gweithwyr.

Yn y farchnad sy'n newid yn barhaus heddiw, ni fu pwysigrwydd hyfforddi swyddi erioed yn fwy. Mae hyfforddiant gweithlu yn ffordd hollbwysig o gadw'ch sefydliad yn gystadleuol yn ogystal â chryfhau sgiliau sydd eu hangen ar eich gweithlu neu sydd gennych yn bresennol i lwyddo

Prif nodweddion y cwrs

  • Cynyddu eich gallu i ddarparu hyfforddiant effeithiol
  • Dysgu sgiliau i gyflwyno ymyriadau hyfforddi sy'n canolbwyntio ar bobl
  • Ennill yr offer a'r technegau sydd eu hangen i ymateb yn fwy effeithlon i hwyluso lefelau uchel o effeithiolrwydd gweithwyr.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Sylfaeni cynllun hyfforddi ar gyfer newid ymddygiad
  • Defnyddio prosesau dynol a grŵp wella perfformiad
  • Defnyddio “yr hunan fel offeryn” i hwyluso dysgu
  • Sut i gynllunio ymyraethau hyfforddi effeithiol

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

 

Addysgu ac Asesu

Bydd gofyn i chi gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol a fydd yn eich galluogi i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad terfynol.

Ffioedd a chyllid

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.