(Cwrs Byr) Llunio Cerameg â Llaw
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 9 wythnos
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
O gerflunwaith i siandelïer, o deils addurniadol i waith ffiguraidd, mae ein dosbarth nos 9 wythnos yn eich cyflwyno i fyd cerameg wedi’i gwneud â llaw.
Cewch eich dysgu mewn dosbarthiadau bychain gan y ceramegydd enwog Wendy Lawrence, a chewch eich tywys trwy bob agwedd ar gerameg wedi’i chreu â llaw, o baratoi’r clai amrwd i ddarnau gwydrog gorffenedig.
Prif nodweddion y cwrs
- Sesiynau ymarferol yn ein gweithdai yn Ysgol Gelf Stryt y Rhaglaw.
- Astudio amrywiaeth o dechnegau cerameg.
- Dylunio a chynhyrchu eich creadigaethau personol eich hun.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i rai o brosesau taflu llunio cerameg â llaw. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu tywys trwy amrywiaeth o ddulliau cerameg, o baratoi’r clai amrwd i ddarnau wedi’u gwydro gorffenedig.
Cewch arweiniad i gynhyrchu eich syniadau dylunio eich hun gan ddefnyddio dulliau arbrofol wedi’u harwain gan arddangosiadau.
Gofynion mynediad a gwneud cais
I gadw lle ewch i'n siop ar-lein.
Mae’r cwrs yn amodol ar isafswm o gyfranogwyr a bydd taliadau yn cael eu had-dalu'n llawn os na fydd y cwrs yn recriwtio’r isafswm yma.
Addysgu ac Asesu
Gall y portffolio o waith a gasglwyd yn ystod y cwrs byr gael ei gyflwyno i’w asesu, gan ddarparu 10 credyd AU.
Ffioedd a chyllid
£165
Mae’r ffi yn cynnwys mynychu a thiwtora, gan gynnwys asesu a deunyddiau sylfaenol. Mae’n bosib y codir ffioedd ychwanegol os bydd y cyfranogwyr yn dewis gweithio gyda deunyddiau ansafonol neu’n defnyddio llawer ohonynt neu mewn fformat mawr.
dyddiadau cyrsiau
Bydd y cwrs byr 8 wythnos hwn yn rhedeg nos Iau rhwng 6pm-8pm yn y blociau canlynol ar draws y flwyddyn:
- Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022 - Dydd Mawrth 21 Mehefin 2022
- Dydd Iau 28 Ebrill 2022 - Dydd Iau 7 Gorffennaf 2022 (wedi'i archebu'n llawn)
- Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 - Dydd Mawrth 23 Awst 2022