A student draws out their art concept on a tablet

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dylunio ar gyfer y diwydiant gemau cyfrifiadurol ac mae'n darparu blas o'r hyn a gynigwn ar ein cyfres o gyrsiau Gemau Cyfrifiadurol, felly pam na wnewch chi roi cynnig arni.

Prif nodweddion y cwrs

Mynediad Gemau: Celf Gysyniadol - Wrexham Glyndŵr University

  • Mae'r diwydiant Gemau Cyfrifiadurol yn ddiwydiant prysur sydd werth biliynau bob blwyddyn. Bydd y cwrs byr hwn yn eich cyflwyno i arferion cyfredol y diwydiant a llifau gwaith dylunio a ddefnyddir gan stiwdios gemau yn y diwydiant modern.
  • Bydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau artistig mewn modd sy'n canolbwyntio mwy ar gemau gyda pherthnasedd i Gelf a Dylunio Gemau.
  • Bydd yn eich galluogi i weithio ar eich portffolio eich hun o waith creu a dylunio. Gallwch hefyd yn gallu dangos i ddarpar gyflogwyr yn y diwydiannau gemau fideo a dylunio.

 

 

Beth fyddwch chin ei astudio

Mynediad Gemau: Celf Gysyniadol - Wrexham Glyndŵr University

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r canlynol:
 
Arferion y diwydiant:
• Llifau Gwaith Cysyniadol yn y Diwydiant Gemau
• Datrysiadau Dylunio ar Gyfer Cysyniadoli
• Rheoli Amser
• Cyflwyno Gwaith yn Broffesiynol
 
Hanfodion Celf a Dylunio:
• Y Broses Dylunio a Llif Gwaith Creadigol
• Theori Lliw a Siâp
• Sgiliau Lluniadu a'r Cyfryngau Traddodiadol
• Peintio Digidol a Phecynnau Meddalwedd
• Datblygu Syniad a Braslunio Cysyniad
• Cyfuno Delweddau a Sgil Technegol ar Gyfer Gwaith Cysyniadol
 
Gweler isod ar gyfer amserlen y cwrs:
Wythnos 1: Cyflwyniad ac Astudiaethau Achos yn y Diwydiant
Wythnos 2: Creu a Chyflwyno Llif Gwaith Arfaethedig
Wythnos 3: Hanfodion Celf a Dylunio ar Gyfer Celf Gysyniadol
Wythnos 4 Dylunio Datrysiadau a Gwaith Portffolio
Wythnos 5: Peintio Digidol a Chyfuno Delweddau
Wythnos 6: Cyflwyno Portffolio Proffesiynol
 
Mae'r cwrs hwn yn gofyn am 6 awr o ddysgu ar-lein yr wythnos (2 floc o 3 awr yr wythnos gyda rhywfaint o astudio hunangyfeiriedig).

 

Addysgu ac Asesu

Mynediad Gemau: Celf Gysyniadol - Wrexham University

  • Bydd asesu ar gyfer y modiwl hwn yn seiliedig ar y portffolio parhaus o waith a grëir drwy gydol y cwrs. 
  • Bydd disgwyl i fyfyrwyr adolygu/myfyrio ar a/neu anodi eu gwaith o fewn eu portffolio a chynhyrchu'r portffolio hwn fel prosiect unigol. 
  • Dylid cyflwyno'r darn asesu olaf fel llif gwaith unigol sy'n arddangos y daith ddylunio a gallai fod ar ffurf blog neu mewn fformat PDF.

 

Ffioedd a chyllid

£95 yw'r ffi safonol

AM DDIM i fyfyrwyr presennol

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.