(Cwrs Byr) Pencampwyr Cwympiadau: Atal Cwympiadau
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 2 mis
- Lleoliad Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?
Nod y modiwl yw addysgu eiriolwyr atal cwympiadau i ddefnyddio offer a phrosesau i atal cwympiadau rhag digwydd a’u rheoli o dderbyniad hyd at adael. Bydd y cwrs yn cyflwyno gwybodaeth allweddol a fydd yn helpu myfyrwyr i ddeall a lleihau’r risgiau o bobl yn cwympo yn yr ysbyty a gartref.
Bydd y cwrs hwn yn:
- Cefnogi myfyrwyr yn eu darpariaeth o ofal, asesiad risg ac yn allweddol bwysig, lleihau risgiau cwympiadau
- Cefnogi dysg myfyrwyr drwy gydol yr amser a’u hannog i gymhwyso eu dysg yn ymarferol
- Galluogi myfyrwyr i ddod yn eiriolwyr atal cwympiadau yn eu hamgylchedd clinigol
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio yn rhad ac am ddim
- Darperir mewn partneriaeth â’r Athro Anil Mane o’r BCUHB (Ymgynghorydd Gofal Henoed) a ddyluniodd y rhaglen hon
- Bydd arbenigwyr yn y maes yn cyflwyno darlithoedd allweddol a rhoddir sylw arbennig i’r dull amlddisgyblaethol o atal cwympiadau.
Beth fyddwch chin ei astudio
Sesiwn 1:
- Cofrestru a chyflwyniad i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam (Adnoddau llyfrgell, Cyflwyniad i Moodle, Cyflwyniad i'r modiwl a'i asesiadau, Sgiliau astudio; cynllunio amser astudio a dysgu a gwasanaethau Cynhwysiad)
Sesiwn 2:
- Maint a goblygiadau cwympiadau
- Egwyddorion asesiadau a rheolaeth cleifion
- Rhesymau fferyllol a chorfforol dros gwympiadau
- Darlith glinigol: Gwybodaeth sylfaenol ar Anymataliaeth, Osteoporosis, Llewygu, Epilepsi, Dementia
Sesiwn 3:
- Mecanweithiau cwympiadau, gwendid, colli cydbwysedd, profion, ac ymarferion i atal cwympiadau
- Peryglon yn y cartref, ac egwyddorion addasiadau
- Darlith glinigol: Pwysedd gwaed isel orthostatig: prawf bwrdd yn gogwyddo etc.
- Rôl y tîm cwympiadau
Sesiwn 4:
- Arfau i fod o gymorth i atal cwympiadau
Sesiwn 5:
- Cefnogaeth diwtorial
Sesiwn 6:
- Asesiad (Papur Aml-ddewis ar-lein)
Bydd y myfyrwyr yn derbyn ystod o dasgau gwaith cartref drwy gydol yr wythnosau dysgu a byddant yn cyfrannu i fforymau ar-lein lle bydd disgwyl iddynt drafod cynnydd ac arferion arloesol yn eu maes. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref am nifer o oriau bob wythnos rhwng eu dyddiau astudio er mwyn ategu at eu dysgu. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gynnal dadansoddiad cwympiadau dros amser yn eu ward/uned.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Yr unig ofyniad mynediad yw eich bod yn teimlo'n gryf ynghylch lleihau'r risg o glaf yn cwympo yn eich amgylcheddau gwaith clinigol.
Addysgu ac Asesu
Bydd yr addysgu yn digwydd wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda darlithoedd arweiniol yn cael eu darparu gan arbenigwyr yn y maes.
Byddwch yn derbyn cymorth gan arweinydd y modiwl a rhwydweithiau cymorth ehangach y brifysgol gan gynnwys gwasanaethau llyfrgell a staff sgiliau astudio drwy gydol y cwrs. Byddwch yn cymhwyso'ch gwybodaeth yn ymarferol gan wneud asesiad ymarferol o'ch amgylchedd clinigol, gan asesu'r risg o gwympiadau cleifion.
Bydd yr arholiad aml ddewis ar-lein yn asesu eich dysgu.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
Dyddiadau’r Cwrs
I gael ei gadarnhau