(Cwrs Byr) Rheoli Adnoddau Dynol mewn Busnes
Manylion cwrs
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gynnig gwir ddealltwriaeth i fyfyrwyr o’r byd Rheoli Adnoddau Dynol a’i berthnasedd i fyd busnes heddiw. Mae’n gwrs delfrydol i’r rheiny sydd eisiau gwybod mwy am y pwnc cyn dilyn cwrs mwy hirdymor.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygu eich dealltwriaeth o Reoli Adnoddau Dynol a’i rôl strategol bwysig wrth ddatblygu, rheoli a defnyddio cyfalaf dynol cwmni neu sefydliad
- Mae’r cwrs yn edrych ar feysydd megis trefnu a dylunio swydd, recriwtio a dethol, y berthynas seicolegol ac amodol rhwng cyflogwr a gweithiwr, hyfforddiant a datblygu, iechyd a lles, a gwobrwyo gweithwyr – cyfle i chi gael blas go iawn o fywyd gweithiwr proffesiynol Adnoddau Dynol.
- Llwybr gwych i astudio ymhellach ar ein BA (Anrh) mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cefndir hanesyddol a natur y swyddogaeth RhAD
- Damcaniaethau a chysyniadau RhAD yn y gweithle
- Deall y berthynas gyflogaeth
- Arweinyddiaeth a rheolaeth
- Recriwtio a detholiad
- Datblygiad a pherfformiad gweithwyr
- Diwylliant gweithle a ffactorau cymhellol
- Deddfwriaeth cyflogaeth
- Gwybodaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y gweithle
Gofynion mynediad a gwneud cais
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Emma Taylor, darlithydd ac arweinydd modiwl taylorem@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Mae asesu drwy amryw o ddulliau sydd wedi eu dylunio i fod yn berthnasol i fusnes ac wedi eu gyrru gan ganlyniadau dysgu.
Ffioedd a chyllid
£195
Mae hyn yn cynnwys ffioedd ar gyfer y cwrs yn unig. Bydd unrhyw lyfrau neu ddeunyddiau dysgu eraill mae myfyrwyr eisiau eu prynu ar gost eu hunain. Mae gan lyfrgell y brifysgol fynediad i ddeunyddiau dysgu perthnasol. Nid oes raid i fyfyrwyr fod yn aelod o CIPD i wneud y cwrs.