Diabetes management

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Nod y modiwl hwn yw datblygu gallu a dulliau beirniadol o roi strategaethau ar waith sy’n mynd i’r afael â chymhlethdod gofalu am unigolyn sydd â diabetes drwy ddefnyddio theorïau cyfredol, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a datblygiadau technolegol. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i uwchsgilio nyrsys i reoli diabetes.

Prif nodweddion y cwrs

  • Yn ymarferol a rhyngweithiol.
  • Gwella’ch gwybodaeth am reoli diabetes mewn amrywiaeth o rolau nyrsio cofrestredig.
  • 20 credyd ar lefel 6/7 ar ôl ei gwblhau.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae’r modiwl hwn yn ymarferol ac yn rhyngweithiol, yn mynd i’r afael ag agweddau gwahanol ar reoli diabetes fel meddyginiaeth, inswlin, dulliau dietegol, gofal traed, retinopathi a monitro glwcos gwaed. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw nyrsys ôl-gofrestru sy'n gofalu am gleifion â diabetes gan gynnwys nyrsys practis, nyrsys ysbyty cymunedol, nyrsys ardal a nyrsys ward.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

I gadw lle ar y cwrs hwn cysylltwch ag postregadmissions@glyndwr.ac.uk.

Addysgu ac Asesu

Traethawd

Dyddiadau'r Cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cysylltwch ag postregadmissions@glyndwr.ac.uk.