(Cwrs Byr) Rheoli Gweithrediadau Busnes
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 8 wythnos
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae rheoli gweithrediadau busnes yn faes sy’n gofyn am sgiliau a gwybodaeth allweddol mewn oes pan fo sefydliadau yn wynebu newidiadau mawr a chymhleth sy’n ddibynnol ar ei gilydd.
Prif nodweddion y cwrs
• Dysgu sgiliau rheoli gweithrediadau busnes a sut i arwain gwaith o’r fath.
• Astudio ffyrdd i helpu eich busnes i sefydlu ei arlwy mewn marchnadoedd cystadleuol, a thyfu’r arlwy hwnnw.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno gyfnod o 8 wythnos a bydd yn mynd i'r afael yn fras â'r canlynol:
- Cyflwyniad i Reoli Gweithrediadau Busnes
- Llif prosesau a rheoli capasiti
- Gweithrediadau darbodus a rheoli ansawdd
- Rheoli cadwyn gyflenwi
- Asesu a lliniaru risg
- Pecynnau cymorth a thechnegau ar gyfer cynllunio gweithrediadau busnes
- Rhoi cynllun gweithrediadau busnes ar waith sy'n blaenoriaethu adnoddau dynol a deunyddiau
- Addasu i risgiau a chyfleoedd sy'n newid
Mae'r cwrs hwn yn cynnig dull dysgu cyfunol sy'n cyfuno hwylustod e-ddysgu â thrafodaeth a rhyngweithio hyfforddiant ystafell ddosbarth. Mae'r sesiynau grŵp personol a gynhelir ar gampws Glyndwr yn fforwm rhyngweithiol gyda'r holl fyfyrwyr yn cymryd rhan ac yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiadau. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i ddarparu dysgu ar y cyd digyfaddawd, effeithiol ac arloesol. Cefnogir myfyrwyr i ddarganfod mewnwelediadau newydd a meddwl yn wahanol am sut i fynd i'r afael â heriau sy'n dod i'r amlwg ac yn barhaus sy'n ymwneud ag Rheoli Gweithrediadau Busnes.
Addysgu ac Asesu
Portffolio - Cofnod dysgu a Dyddlyfr.
Ffioedd a chyllid
£50