(Cwrs Byr) Rheoli Heriau AD mewn Gweithle sy’n Datblygu
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 4 wythnos
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs Rheoli Newid a Newid Sefydliadol yn cynnig dull strwythuredig i fyfyrwyr o gefnogi unigolion wrth iddynt a'u sefydliadau lywio'r newidiadau sy'n ofynnol i greu momentwm mewn amgylchedd busnes dyrys.
Prif nodweddion y cwrs
- Deall heriau AD ac archwilio arferion rheoli AD sy'n dod i'r amlwg.
- Dysgwch sgiliau i adnabod a rheoli'r heriau hyn a chynyddu eich gallu i fynd i'r afael â heriau AD lluosog ar unwaith
- Ennill yr offer a'r technegau sydd eu hangen i ymateb yn fwy effeithlon i weithle sy'n esblygu.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyflwyniad i reoli heriau AD mewn gweithle sy’n datblygu
- Datblygu ystwythder i weithredu strategaethau addasol AD yn y gweithle
- Rheoli cylch gwaith y gweithiwr sy’n datblygu mewn gweithle sy’n datblygu
- Goblygiadau a gweithrediad strategaethau addasol AD yn y gweithle
Bydd dilyn y cwrs hwn yn golygu:
- 16 awr o Oriau Dysgu ac Addysgu wedi’u hamserlennu
- 2 awr o ddosbarthiadau Ymarferol
- 82 awr o Astudiaeth Annibynnol dan Arweiniad
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau myfyrwyr ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad. Y lleiafswm ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau. Dyddiad cyflwyno’r aseiniad ydi’r 15fed Gorffennaf 2022.
Ffioedd a chyllid
£50
Dyddiadau'r cwrs
I gael ei gadarnhau