(Cwrs Byr) Rheoli Newid a Newid Sefydliadol
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 8 wythnos
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae rheoli newid yn faes allweddol o ran y sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol mewn oes pan fo sefydliadau’n mynd trwy newidiadau mawr a chymhleth sy’n ddibynnol ar ei gilydd.
Trwy ddysgu sgiliau rheoli newid a sut i fynd ati’n effeithiol i arwain newid sefydliadol, bydd myfyrwyr yn medru cryfhau eu gallu i fynd i’r afael â sawl newid ar yr un pryd, a rhoi’r offer a’r technegau sydd eu hangen ar eu sefydliad i ymateb yn fwy effeithlon i amgylchiadau sy’n newid.
Prif nodweddion y cwrs
- Dysgu sgiliau rheoli newid busnes a sut i adnabod cyfleoedd ar gyfer newid a’u rhoi ar waith.
- Astudio ffyrdd i helpu eich busnes i ddatblygu ei arlwy mewn marchnadoedd cystadleuol.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd cynnwys y modiwl yn cael ei gyflwyno gyfnod o 8 wythnos a bydd yn mynd i'r afael yn fras â'r canlynol:
- Cyflwyniad i reoli newid a newid sefydliadol
- Theorïau newid a sut maent yn llywio ymarfer
- Defnyddio chi eich hun fel offeryn ar gyfer newid
- Egluro ymddygiad a gweithredoedd unigol mewn ymateb i newid
- Datblygu pecyn cymorth newid - Diagnosis
- Datblygu pecyn cymorth newid - Gweithredu
- Arferion rheoli newid a newid sefydliadol
- Gwerthuso newid a'i effaith ar ganlyniadau sefydliadol
Bydd y ddarpariaeth ar gyfer y cwrs byr wyth wythnos yn cynnwys:
- 1 x darlith wedi'i recordio bob wythnos
- Cefnogi atgyfeiriadau i ddeunydd dysgu ar Moodle, dolenni i fideos (e.e. sgyrsiau TED), llyfr Moodle os yw'n briodol a darllen pellach
- Deunydd i gefnogi darpariaeth 6 x tiwtorial anghydamserol
- Darpariaeth 2 x fforwm deialogaidd 2 awr o hyd
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Portffolio - Cofnod dysgu a Dyddlyfr
Ffioedd a chyllid
£75
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
dyddiadau cyrsiau
I gael ei gadarnhau