Smartly dressed person making notes on a document

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae deall y defnydd strategol o reoli perfformiad i hyrwyddo a gwella effeithiolrwydd gweithiwr yn faes sgil a gwybodaeth allweddol mewn oes lle mae sefydliadau yn wynebu newidiadau mawr, cymhleth a rhyngddibynnol lle mae'r hyn oedd yn sicr yn nhermau modelau busnes, grymoedd y farchnad a galluoedd sy'n ofynnol gan ddoniau bellach yn ofer.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae'r cwrs hwn yn cynnig dull strwythuredig o gefnogi unigolion wrth iddynt hwy a'u sefydliadau groesi'r heriau presennol i alluogi sefydliad i ryddhau ei bŵer a'i berfformiad trwy ryddhau potensial llawn ei weithwyr unigol.
  • Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau i adolygu, asesu, dadfriffio a datblygu gweithwyr.
  • Bydd myfyrwyr yn cynyddu eu gallu i ddarparu rheolaeth tîm effeithiol, a darparu eu sefydliad â'r offer a'r technegau sydd eu hangen i ymateb yn fwy effeithiol i hwyluso lefelau uchel o effeithiolrwydd gweithwyr.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r canlynol:

  • Cyflwyniad i Ddadansoddi Perfformiad
  • Gwerthfawrogi pobl trwy’r broses rheoli perfformiad
  • Ymarfer rheoli perfformiad
  • Sut i gynnal sgyrsiau anodd a delio â thanberfformio

Bydd dilyn y cwrs hwn yn golygu:

  • 16 awr o Oriau Dysgu ac Addysgu wedi’u hamserlennu
  • 2 awr o ddosbarthiadau Ymarferol
  • 82 awr o Astudiaeth Annibynnol dan Arweiniad

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

 

Addysgu ac Asesu

Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau myfyrwyr ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad.  Y lleiafswm ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau.

Ffioedd a chyllid

£50

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes.