Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

Amcan y cwrs yw ymgysylltu â'n cymuned leol ac ehangach ynghylch llwyddo mewn cyfnodau o argyfwng, megis y sefyllfa COVID-19 bresennol. Bydd y cwrs yn tynnu sylw at y rôl gydweithredol sydd gan y diwydiant â'r byd academaidd i chwarae mewn darparu llwyddiant i'r gymuned gyfan.

Prif nodweddion y cwrs

  • Ar hyn o brydmae'r byd yn newid yn gyflym ac mae angen i fusnesau fod yn hyblyg a gallu ymateb i'r datblygiadau hyn er mwyn sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.
  • Mae'r sefyllfa COVID-19 bresennol yn rhoi cyfle delfrydol i ymestyn datblygiad personol drwy ennill gradd mewn busnes neu bwnc sy'n gysylltiedig â busnes. 
  • Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o'r materion sy'n achosi heriau i fusnesau, a strategaethau posib ar gyfer datblygu gwytnwch busnesau yn ystod cyfnodau anodd
  • Mae'r modiwl wedi'i ddylunio i fod yn galonogolyn agored i'r holl ddysgwyr ac adlewyrchu natur newidiol y tirlun iechyd cyhoeddusyn enwedig mewn argyfwng byd-eang.  
  • Drwy gymryd rhanefallai bydd myfyrwyr yn chwilfrydig ac yn magu hyder yn eu galluoedd academaidd personol.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cynhelir y cwrs am chwe wythnosgan ei fod ar-lein ac i ganiatáu hyblygrwydd wrth i fesurau pellach cymdeithasol ddechrau llacio.
  • Ymgysylltir â myfyrwyr ar ddydd LlunMercher a Gwener am 5.30pm. Bydd bob dydd Llun yn cychwyn gyda fideo byw 20-30 munud gyda thiwtor a myfyrwyr, a bydd yn cynnwys trafodaeth
  • Bydd gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr yn cael eu huwchlwytho i'w cwblhau ganddynta'u huwchlwytho i fforwm trafod. 
  • Bydd dydd Mercher a Gwener hefyd yn cynnwys deunydd fideo (20-30 munudond wedi ei recordio ymlaen llaw) ac yn cynnwys gweithgareddau i'w cwblhau gan fyfyrwyr. 

Addysgu ac Asesu

Asesiad 250 gair yn y fforwm trafod. 

Ffioedd a chyllid

Am Ddim

Dyddiadau cyrsiau

Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ddyddiadau penodol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024, ond mae ar gael yn ôl y galw.

Os hoffech fod yn rhan o garfan ar gyfer y cwrs byr hwn, neu os hoffech gofrestru carfan o'ch gweithle, anfonwch e-bost atom enterprise@glyndwr.ac.uk.

Gall fformat y cwrs byr hwn fod yn hyblyg i ddiwallu eich anghenion chi neu anghenion eich busnes