(Cwrs Byr) Sgiliau Cyfathrebu Busnes
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 4 wythnos
- Lleoliad Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn cynnig dull strwythuredig i fyfyrwyr o gefnogi unigolion wrth iddyn nhw a'u sefydliadau drawslinio’r heriau cyfredol o amgylchedd busnes sy’n newid yn gyflym lle mae gofyn i arweinwyr busnes gyfathrebu’n effeithiol i osgoi gwrthdaro a rheoli diwylliant sefydliadol ystwyth.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio arlein.
- Dysgwch sgiliau cyfathrebu busnes effeithiol i roi'r offer a'r technegau sydd eu hangen ar eich sefydliad i gyfathrebu'n fwy effeithiol â'u rhanddeiliaid allweddol.
- Archwiliwch deallusrwydd emosiynol, siarad cyhoeddus, sgiliau cyflwyno a chyfathrebu corfforaethol.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyflwyniad i Busnes a Chyfathrebu
- Y grefft o gydweithredu a gwaith tȋm: Ymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol
- Cyfathrebu cyhoeddus a cyhymdeithasol: Siarad cyhoeddus, sgiliau cyflwyno a chyfathrebu corfforaethol
- Cyfathrebu ysgrifenedig a darllen rhwng y llinellau
Bydd ymrwymo i’r cwrs hwn yn golygu:
- 16 awr o Ddysgu wedi’u trefnu ac Oriau Dysgu
- 2 awr o ddosbarthiadau Ymarferol
- 82 awr o Astudiaeth Annibynnol dan Arweiniad
Addysgu ac Asesu
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau fforwm trafod ar-lein ar bob pwnc a gyflwynir yn wythnosol. Bydd y fforymau yn galluogi myfyrwyr i fyfyrio a dangos yr hyn a ddysgwyd. Bydd log dysgu a myfyrdodau myfyrwyr ar drafodaethau am y pynciau gwahanol bob wythnos yn cyfuno i greu’r asesiad. Y lleiafswm ar gyfer cyfanswm y nifer geiriau yw 2,000 o eiriau. Dyddiad cyflwyno’r asesiad yw 13eg Mai 2022.
Ffioedd a chyllid
£50
Dyddiadau'r cwrs
Bydd y cwrs hwn yn dechrau ar 4ydd Ebrill 2022 ac yn gorffen ar 2il Mai 2022. Bydd gan y cwrs hwn gyfnod cynefino wyneb yn wyneb ar y campws o 30ain Mawrth 2022 o 6yh tan 8yh. Bydd y sesiwn fyw ar-lein ar gyfer y cwrs hwn yn digwydd ar 5ed Ebrill 2022 o 6yh tan 8yh.