(Cwrs Byr) Sgiliau Datblygu Gyrfa
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 4 wythnos
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
Os ydych chi’n ystyried datblygu eich sgiliau a’u trosglwyddo i broffesiwn arall neu os yw diswyddo wedi effeithio arnoch chi, gall y cwrs byr hwn eich helpu i gymryd camau i ddod o hyd i gam nesaf eich gyrfa.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygu eich sgiliau am ddim.
- Astudio ar-lein yn eich amser eich hun.
- Cymorth i ddod o hyd i gam nesaf eich gyrfa drwy sgiliau datblygiad personol sy’n gryfach.
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs byr yn digwydd dros 4 wythnos, gyda phob wythnos yn rhoi sylw i wahanol agwedd ar ddatblygu gyrfa, fel y nodir isod.
- Elfennau allweddol gweithdrefnau gwneud cais am swydd.
- Cyflwyniad i dechnegau a pharatoi at gyfer cyfweliad.
- Sgiliau cyflwyno effeithiol, gan gynnwys dewis cynnwys, a chyflwyno hyderus.
- Offer a modelau i gynorthwyo datblygiad personol.
Bydd deunydd ar gael ar-lein drwy Moodle, a bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at y cynnwys, fel darlithoedd wedi'u recordio, podlediadau ac erthyglau, ac astudio yn eu hamser eu hunain, er bod rhywfaint o ddisgwyl iddynt geisio cael gafael ar y wybodaeth ddiweddaraf yn wythnosol. (h.y. bod tasgau ar gyfer wythnos 1 yn cael eu cwblhau rhywbryd o fewn wythnos 1)
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Mae'r cwrs byr hwn yn mynnu y gall y myfyriwr ddyrannu 3 awr yr wythnos i'w hastudiaeth, ond nid oes gofyn i fod ar-lein ar adeg benodol.
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau. Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk
Addysgu ac Asesu
Bydd yr asesiadau yn 4 x cyfraniadau 250 gair i fforwm trafod, a byddant yn cynnwys tasgau seiliedig ar farn, ymchwil neu brofiad sy'n gysylltiedig â'r cynnwys wythnosol. Cynghorir bod myfyrwyr yn cwblhau un fforwm bob wythnos, ac ni ddylai ymestyn eu hamser astudio yn hirach na 30 munud yr wythnos. Bydd canllawiau clir yn cael eu rhoi i fyfyrwyr ynghylch disgwyliadau ac asesiadau myfyrwyr. Ni fydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio dull cyfeirio Harvard, ond bydd angen iddynt restru eu ffynonellau gwybodaeth.
Ffioedd a chyllid
Am ddim
dyddiadau cyrsiau
5 Mehefin 2023