childcare student

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

6 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae polisi a deddfwriaeth yng Nghymru yn cydnabod fwy a mwy yr angen am gysylltu unigolion â ffynonellau cymorth anfeddygol yn y gymuned a gwerth hynny er mwyn hyrwyddo a gwella iechyd a lles. Mae hyn wrth wraidd rhagnodi neu bresgripsiynu cymdeithasol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd y cwrs yn cyflwyno’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i weithio ym maes rhagnodi cymdeithasol, gan gynnwys:
    • Elfennau cyd-destunol; megis y cefndir gwleidyddol a deddfwriaethol, beth yw rhagnodi cymdeithasol a sut mae’n gweithio.
    • Elfennau damcaniaethol; megis deall ymddygiadau iechyd a newid mewn ymddygiad.
    • Elfennau cymhwysol; megis ymddygiad proffesiynol, cyfweld i ysgogi a dulliau sy’n canolbwyntio ar atebion.
  • Caiff y cwrs ei addysgu trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol, a fydd yn cynnwys sleidiau darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp.
  • Rhoddir cymorth â thasgau a gwaith darllen annibynnol, ynghyd â thiwtorialau unigol fel y bo’n briodol a rhoddir deunyddiau ar-lein trwy’r amgylchedd dysgu rhithwir.

Beth fyddwch chin ei astudio

  • Cefndir a sail resymegol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.
  • Deall ymddygiadau iechyd a newid ymddygiad.
  • Rhagnodi cymdeithasol - beth ydyw a sut i'w wneud.
  • Sgiliau cyfathrebu ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.
  • Ymgymryd â chyngor byr ac ymddygiad proffesiynol.
  • Egwyddorion cyfweld ysgogol a dulliau sy'n canolbwyntio ar atebion.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.

Addysgu ac Asesu

Yn ystod y modiwl bydd myfyrwyr yn cwblhau portffolio o waith, gan gynnwys:

  • Fforwm drafod ar gefndir a chyd-destun rhagnodi cymdeithasol.
  • Astudiaeth achos yn archwilio'r seiliau damcaniaethol ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.
  • Traethawd myfyriol yn ystyried y sgiliau sydd eu hangen i weithio ym maes rhagnodi cymdeithasol.

Efallai y bydd elfennau'r portffolio yn destun newid i adlewyrchu unrhyw ddatblygiadau newydd mewn rhagnodi Cymdeithasol.

Ffioedd a chyllid

£195

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Dyddiadau'r cwrs

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.