Criminology lecturer walking with a student carrying criminology textbooks

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

5 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

A yw rhai o’r troseddau mwyaf drwg-enwog mewn hanes yn eich cyfareddu? Os ydych chi eisiau dysgu mwy am sut mae rhai troseddau wedi newid y dirwedd cyfiawnder troseddol, hwn yw’r cwrs byr i chi.

Prif nodweddion y cwrs

  • Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ddadleuon cyfoes ynghylch gweithredu cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. 
  • Bydd y cwrs hefyd yn rhoi modd i chi adnabod grwpiau a allai fod yn agored i droseddu ac erledigaeth.  

Beth fyddwch chin ei astudio

Byddwch yn astudio naw trosedd drwg-enwog, fel: Myra Hindley, Timothy Evans, John Worboys a mwy.

Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut mae'r achosion drwg-enwog yma wedi fframio dadleuon am gyfiawnder troseddol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth am sut mae ymchwilio i droseddau a nodau eraill o ddedfrydu.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.

Nodwch bod yn rhaid i chi fod yn 18+ oed er mwyn bwcio lle ar y cwrs hwn. Mae hyn oherwydd natur sensitif a graffig aml y troseddau dan sylw.

Addysgu ac Asesu

Bydd yr asesiad yn cynnwys myfyrwyr yn cwblhau cyfraniadau ysgrifenedig ar-lein bob wythnos.

Ffioedd a chyllid

AM DDIM

Dyddiadau'r cwrs

Bydd yr holl gynnwys dysgu yn cael ei uwchlwytho i Moodle ar ddydd Llun bob wythnos. Gall myfyrwyr weithio drwy'r cynnwys yn eu hamser eu hunain, ar eu liwt eu hunain.

Ar ddiwedd y cwrs byr, bydd y rhai sy’n awyddus i barhau â’u hastudiaethau gyda Prifysgol Wrecsam yn cael y cyfle i fynychu'r campws ar gyfer sesiwn ‘camau nesaf tuag at astudio’. Sesiwn opsiynol yw hon.

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb