People walking along the Great wall of China

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

13 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae dysgu iaith newydd yn gallu agor llawer o ddrysau. Boed chi eisiau gwella eich rhagolygon gyrfa neu eisiau ymgolli yn niwylliant Tsieina wrth deithio, mae dysgu’r iaith hon yn ddewis gwych.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dysgu gwybodaeth sylfaenol am yr iaith Mandarin
  • Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad
  • Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o Mandarin.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r dosbarth hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o'r iaith.

Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu:

Cyfathrebu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd syml.Arddangos dealltwriaeth a defnyddio ymadroddion dydd i ddydd cyfarwydd a brawddegau sylfaenol iawn, Cyflwyno eu hunain a gofyn ac ateb cwestiynau ynglŷn â gwybodaeth bersonol fel ble mae rhywun yn byw, beth yw swydd rhywun ayyb.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!

Os hoffech chi ddysgu mwy am ddyddiadau’r cwrs hwn yn y dyfodol, cysylltwch ag enterprise@glyndwr.ac.uk

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesiad yn cynnwys y tasgau a restrir isod:
• sgiliau sgwrsio: defnyddio 3 enghreifftiau byr o natur bob dydd a tthrafodaeth rydd
• sgiliau ysgrifennu: testun byr, er enghraifft, cerdyn post neu lythyr
• sgiliau darllen: darllen a deall testun byr ac ateb cwestiynau yn Saesneg
• sgiliau gwrando: gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg

Ffioedd a chyllid

£195 ar gyfer myfyrwyr a staff Prifysgol Glyndŵr nad ydynt yn Wrecsam

Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@glyndwr.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

 
 
 
 
 
 
 

dyddiadau dechrau cyrsiau

Dydd Llun 30ain Hydref - 5-7yp