(Cwrs Byr) Ysgrifennu hyderus
Manylion cwrs
- Hyd y cwrs 6 wythnos
- Lleoliad Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?
A ydych chi'n anhyderus wrth ysgrifennu, neu ydych chi'n paratoi i ymgeisio ar gyfer astudio ar lefel addysg uwch? Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i wella eich sgiliau academaidd gan ganolbwyntio'n benodol ar y sgiliau sydd eu hangen i oresgyn asesiadau ysgrifenedig.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygwch eich hyder wrth ysgrifennu.
- Gwybod sut i strwythuro'ch gwaith a pharatoi ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig.
- Rhowch y blaen ar fynd i addysg uwch neu wella'ch sgiliau presennol.
- Astudio am ddim ar-lein.
Beth fyddwch chin ei astudio
- Gorbryder wrth ysgrifennu a methu ag ysgrifennu
- Ymchwil, darllen a chymryd nodiadau
- Ysgrifennu dyddiadur ac ysgrifennu rhydd
- Cynllunio eich ysgrifennu
- Arddull ysgrifennu
- Adolygu, golygu a phrawf ddarllen eich ysgrifennu
Gofynion mynediad a gwneud cais
I wneud cais am y cwrs, ewch i'r siop ar-lein.
Addysgu ac Asesu
Bydd 2 asesiad ysgrifennu darnau byr; y cyntaf yn adlewyrchu ar eich hyder wrth ysgrifennu ar gychwyn y cwrs, a'r ail yn adlewyrchu ar eich cynnydd ar ddiwedd y cwrs. Mae Asesiad Un yn ddarn ysgrifennu 250 gair ac mae'n cyfrif am 25%, ac mae Asesiad Dau yn ddarn ysgrifennu 500 gair ac mae'n cyfrif am 75%.
Ffioedd a chyllid
Mae'r cwrs hwn yn rhad am ddim.
Dyddiadau cyrsiau
Cwrs 1: Yn dechrau’r wythnos 7 Chwefror 2022 tan yr wythnos sy’n gorffen 18 Mawrth 2022
Cwrs 2: Yn dechrau’r wythnos 15 Ebrill 2022 tan yr wythnos sy’n gorffen 3 Mehefin 2022
Cwrs 3: Yn dechrau’r wythnos 13 Mehefin 2022 tan yr wythnos sy’n gorffen 22 Gorffennaf 2022
Cwrs 4: Yn dechrau’r wythnos 1 Awst 2022 tan yr wythnos sy’n gorffen 9 Medi 2022