BA (Anrh) Addysg
Manylion cwrs
- Côd UCASX310
- Blwyddyn mynediad 2023, 2024
- Hyd y cwrs 3 BL (llawn-amser)
- Tariff UCAS 80-112
- Côd y sefydliad G53
- Lleoliad Wrecsam

Course Highlights
3ydd yng Nghymru
ar gyfer ansawdd addysgu (Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2022)*
Yn cyfuno
astudiaeth academaidd a phrofiad gwaith
Derbyn
cefnogaeth gan dîm staff profiadol a system diwtorial academaidd
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r radd boblogaidd yma yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysg anffurfiol a ffurfiol. Byddwch yn dysgu am ofynion statudol y cwricwlwm ar gyfer addysg gynradd yng Nghymru a Lloegr, archwilio tueddiadau dysgu, a darganfod sut i gefnogi disgyblion yn academaidd a bugeiliol
Mae’r cwrs:
- yn gwrs sydd â hen hanes o ddarparu llwybr uchel ei barch, llwyddiannus ac amgen i ddysgu cynradd prif ffrwd drwy’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR - Addysg Gynradd) neu gymhwyster ôl-orfodol (AHO - Oedolion ac Addysg Bellach)
- yn cadw’r opsiynau ar agor ar gyfer ystod o gyfleoedd gyrfaol eraill o ran gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
- wedi ei anelu’n bennaf at weithio gyda phlant rhwng 3 a 13 mlwydd oed
- yn cyfuno astudiaeth academaidd a phrofiad gwaith
- yn tynnu ar safbwyntiau damcaniaethol o ystod eang o ddisgyblaethau gan gynnwys addysg, seicoleg, ffisioleg, athroniaeth, iechyd a lles/cyfiawnder cymdeithasol
- yn rhoi sylw i bolisïau, prosesau a safbwyntiau addysg sy’n ymwneud â gofynion statudol meysydd llafur y blynyddoedd cynnar a Chyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr
- yn cwmpasu ffactorau sydd yn effeithio ar les a thueddiadau dysgu plant a phobl ifanc
- *mewn maes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yng Ngymru am ansawdd yr addysgu yn nhablau cynghrair pwnc Addysg, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.

Addysg Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio pynciau cyfoes sydd yn uniongyrchol gysylltiedig ag addysg plant
- Mynd ar leoliadau estynedig o fewn y gweithlu plant
- Ymgymryd ag ymchwil tra allan ar leoliad, dan arweiniad ymarferwyr profiadol
- Defnyddio eich cyflogaeth berthnasol gyfredol fel eich lleoliad neu ganfod profiadau newydd cyffrous
- Derbyn cymorth gan dîm o staff profiadol a’r system diwtorial academaidd.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yng Ngymru am ansawdd yr addysgu yn nhablau cynghrair pwnc Addysg, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Mae lefel 4 yn cynnig dealltwriaeth eang i fyfyrwyr o rai o’r prif faterion yn ymwneud â gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae hon yn flwyddyn graidd y mae pob myfyriwr yn ei hastudio er mwyn sicrhau bod sylfaeni’r pwnc a sgiliau astudio allweddol yn eu lle ac i baratoi ar gyfer eu lleoliad.
MODIWLAU
- Dysgu sut i Ddysgu mewn Addysg Uwch
- Datblygiad Plant a Chwarae
- Cyflwyniad i ADY/AAAA
- Paratoi ar gyfer eich Lleoliad
- Lleoliad 1
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Mae lefel 5 yn adeiladu ar y sgiliau craidd a ddatblygwyd ar lefel 4 ac yn cyflwyno modiwl arbenigol yn benodol i’ch llwybr astudio a hefyd modiwl dewisol i chi ei ddewis. Rhan allweddol o lefel 5 yw’r cyflwyniad i sgiliau ymchwil a lleoliad estynedig.
MODIWLAU
- Materion Cwricwlwm 1 (Modiwl Arbenigol)
- Cynhwysiant ac Amrywiaeth (Modiwl Dewisol))
- Lles a Chydnerthedd (Modiwl Dewisol)
- Ymchwil ar sail Ymarfer
- Lleoliad 2
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Mae lefel 6 yn adeiladu ar ddysgu blaenorol, yn galw am fwy o astudiaeth annibynnol gyda myfyrwyr yn cwblhau prosiect ymchwil. Yn y flwyddyn hon byddwch yn astudio dau fodiwl arbenigol ac yn datblygu eich sgiliau arwain.
MODIWLAU
- Materion Cwricwlwm 2 (Modiwl Arbenigol)
- Dysgu ac Addysgu: Theori ac Ymarfer (Modiwl Arbenigol)
- Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol
- Prosiect Ymchwil ar sail Ymarfer
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw;
- 80-112 pwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol.
- TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf), a gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg neu Wyddoniaeth, neu gyfatebol.
Ar gyfer ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol, rhoddir ystyriaeth ar sail unigol i brofiad gwaith mewn meysydd priodol.
Cyn i gynnig o le gael ei wneud i ymgeiswyr ar y radd hon, bydd gofyn iddynt gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a elwid gynt yn CRB), i gadarnhau eu haddasrwydd i weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion bregus.
Addysgu ac Asesu
Defnyddir ystod o ddulliau asesu yn ystod eich astudiaethau a gallent gynnwys: traethodau ac adroddiadau; astudiaethau achos, arsylwadau; portffolios; cyflwyniadau a phrosiect ymchwil ar lefel 6.
Mae’r strategaethau asesu amrywiol yma yn helpu unigolion i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i weithio mewn lleoliadau addysg, plant a chymunedol.
Mae lleoliad yn ffurfio rhan bwysig o’r rhaglen ar bob lefel o astudiaeth: Blwyddyn 1 (lleiafswm o 90 awr); Blwyddyn 2 (lleiafswm o 134 awr); Blwyddyn 3 (lleiafswm o 45 awr). Bydd disgwyl ichi adlewyrchu oriau gwaith y staff yn y lleoliad rydych chi’n ei fynychu.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae yna nifer gynyddol o yrfâu mewn lleoliadau addysg a chymunedol, a chyfleoedd ar gyfer astudiaethau pellach, gan gynnwys:
- Tystysgrif Addysg i Raddedigion – Cynradd (TAR)
- Darlithydd Addysg Bellach/Uwch (AHO)
- Rhaglenni Meistr
- Cynorthwyydd Dysgu
- Addysg Arbennig
- Gweithiwr Ieuenctid Addysg
- Athro – Saesneg fel Iaith Dramor
- Gweithiwr Cymorth Ymddygiad/Bugeiliol
- Ymarferydd Hybu Iechyd
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.