A student arranges props and models for a stop-motion animation shoot

Manylion cwrs

Côd UCAS

259D

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 BL (LlA)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Wedi'i ddylunio

a'i ddatblygu yn seiliedig ar ofynion y diwydiant gyda phwyslais ar gyflogadwyedd

Cyfleoedd

i gystadlu ac adeiladu portffolio proffesiynol

Dull trawsddisgyblaethol

o gyflwyno cyrsiau, efelychu ymarfer stiwdio proffesiynol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhaglen astudio ymarferol, sy'n eich galluogi i ddod â chymeriadau'n fyw. Bydd y rhaglen Animeiddio arbenigol hon yn eich trawsnewid yn ymarferydd amlbwrpas ym maes celf y ddelwedd symudol.

Byddwch yn gorffen eich astudiaethau gyda'r sgiliau proffesiynol a'r strategaethau meddwl creadigol i geisio am swyddi mewn stiwdios, weithio fel arlunydd llawrydd, neu gychwyn eich stiwdio eich hunan.

Bydd myfyrwyr yn:

  • Dysgu egwyddorion cyfathrebu gweledol a darlunio a'u cymhwyso i ddyluniad cymeriad, ddyluniad cefnfwrdd, creu bwrdd stori a gosod golygfeydd.
  • Archwiliwch egwyddorion animeiddio a datblygu sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Datblygu syniadau a gwaith tuag at greu ffilm fer i'w chyflwyno i wyliau ffilm, a hynny'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Archwilio technegau animeiddio i greu rîl sioe broffesiynol.
  • Arbenigo a datblygu project gradd derfynol a fydd yn gwthio ar ffiniau eich sgiliau i sicrhau eich bod yn sefyll.

Mae’r cwrs yma hefyd ar gael i’w astudio heb flwyddyn sylfaen Animeiddio. Cod UCAS: 259D.

Art student painting

Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Os ydych wedi bod allan o addysg ers tro neu'n chwilio am newid gyrfa a heb benderfynu pa ddisgyblaeth i'w dewis, mae blwyddyn sylfaen yn gyfle i archwilio a datblygu sgiliau craidd mewn celf a dylunio.
  • Cyfleusterau eithriadol, gan gynnwys stiwdio stop-symud gyda meddalwedd Dragonframe, offer camera proffesiynol, a llwyfannau wedi'u rigio ymlaen llaw gyda gafaelion, standiau a goleuadau. 
  • Mynediad i ystafelloedd cyfrifiadurol sy'n cynnwys meddalwedd diweddaraf Adobe, Toon Boom, a Maya CG.
  • Tanysgrifiad am ddim i Adobe Creative Cloud trwy gydol eich astudiaeth.
  • Cefnogaeth barhaus, gan dynnu ar ein gwybodaeth, profiad a chysylltiadau helaeth â diwydiant i roi popeth sydd ei angen arnoch i esblygu i fod yn storïwr ac artist arloesol. 
  • Dosbarthiadau bychan a neilltuedig, cyswllt 1-2-1 yn aml, polisi stiwdio agored a mannau gwaith hyblyg.
  • Cysylltiadau masnachol rhanbarthol a chenedlaethol cryf, cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, a rhyngweithio rheolaidd â diwydiant a chyswllt â chyrff Dylunio, er enghraifft D&AD, IOA, Gŵyl Animeiddio Manceinion gyda phwyslais ar friffiau cystadlu a chydweithio.
    Ar ddiwedd y cwrs, bydd eich prosiect terfynol yn cael ei gynnwys mewn oriel mewn arddangosfa wedi’i churadu’n ffurfiol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd eich astudiaethau yn eich galluogi i gael profiad mewn sgiliau a thechnegau digidol a ddefnyddir i ddod â'ch dychymyg o syniadau i'r sgrin drwy, technegau animeiddio amrywiol, yn dibynnu ar ba rai rydych chi'n dewis arbenigo ynddo.

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Bydd y flwyddyn sylfaen yn eich cyflwyno i brif elfennau celf a dylunio, gan gynnwys ymarfer dylunio, celf gymhwysol a chelf gain. Byddwch yn archwilio'r broses meddwl yn greadigol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o ddisgyblaethau celf a dylunio, gan ddatblygu'ch gallu i drosglwyddo'ch syniadau ar bapur yn gyflym. Bydd ystod o aseiniadau ymarferol a fydd yn cynyddu'ch adnabyddiaeth o syniadau cadarn a chysyniadau gwreiddol.

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Gelf a Dylunio
  • Cyflwyniad i Gelf Gymhwysol
  • Cyflwyniad i Gelf Gain
  • Meddwl yn greadiol
  • Y Sgiliau Rydych eu Hangen
  • Astudiaethay Cyd-destunol

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4) - Sgiliau Craidd

MODIWLAU

Semester 1

  • Hanes a Chyd-destun
  • Cyfathrebu Gweledol
  • Cyfathrebu Digidol

Semester 2

  • Dylunio Cymdeithasol
  • Adrodd Stori: Theori ac Ymarfer
  • Dylunio rhyngweithiol

BLYWDDYN 3 (LEFEL 5) - Sgiliau Uwch

MODIWLAU

Semester 1

  • Dylunio Symudiad
  • Argraffu a Chynhyrchu
  • Meddwl yn feirniadol

Semester 2

  • Dyfodol Creadigol: Gwneud bywoliaeth
  • Prosiect Dylunio: Animeiddio

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6) - Arbenigedd

MODIWLAU

Semester 1

  • Prosiect Arbenigol: Animeiddio

Semester 2

  • Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
  • Briff Byw

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Cod UCAS: 259D

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 48-72 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol yn ogystal â chymhelliant a'r potensial i lwyddo.

Mae tîm y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.

Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith. Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.

Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Caiff gwahanol gymwysterau eu hystyried, gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Bagloriaeth Cymru, y Fagloriaeth Ryngwladol, cyrsiau Mynediad, BTEC, VCE, GNVQ, lefelau A ac AS yn ogystal â chymwysterau tramor eraill. 

 

Addysgu ac Asesu

Nid oes arholiadau gosodedig. Mae asesu yn barhaus ac yn ymwneud â phob agwedd ar y rhaglen, gan roi pwyslais a ddiffinnir yn fwy gofalus ar asesu ffurfiannol ac adborth ar eich gwaith cwrs trwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwn yn eich cynghori ar eich lefel o gyrhaeddiad ac yn eich cyfeirio at strategaeth ar gyfer dilyniant pellach wrth i chi cwblhau aseiniadau a modiwlau.

Mae fformatau amrywiol o asesu i annog eich dysgu trwy seminarau grŵp, ymdriniaethau a thiwtorialau. Gall hyn fod trwy ryngweithio grŵp gyda dadansoddiad beirniadol lle byddwch yn cyflwyno ystod o waith gan gynnwys llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gwaith celf gorffenedig, gwaith ar sail sgrin, ffeiliau technegol / cynhyrchu, cyfnodolion, traethodau, a chyflwyniadau clyweledol. Mae adolygiadau o waith ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg ac mae hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio ar eich cynnydd cyn asesiad diwedd blwyddyn terfynol neu grynodol.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu ac entrepreneuraidd, fel eich bod yn gymwys iawn i fynd i mewn i ddiwydiant amrywiol sy'n newid yn gyflym. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel y BBC, Channel 4, S4C, a Disney, gan weithio ar deitlau megis A Bug’s Life,  The Corpse Bride, Frankenweenie a gemau cyfres Harry Potter. 

Mae cyfleoedd gyrfaol ym mhob maes animeiddio, gan gynnwys:  

  • Blaenllaw megis uwch ddylunwyr 
  • Artistiaid/animeiddwyr VFX 
  • Artistiaid cysyniad 
  • Artistiaid byrddau stori 
  • Animeiddwyr cynorthwyol 
  • Animeiddwyr llawrydd 
  • Dylunwyr cymeriadau 
  • Artistiaid gemau 
  • Datblygwyr rhyngweithiol 
  • Artistiaid amgylchedd a chefndir 
  • Delweddwyr llawrydd 
  • Gwneud modelau 
  • Dylunio setiau 
  • Celf gwead cyfryngau digidol 
  • Paentio digidol 
  • Cysodi 
  • Goleuo, rigio, effeithiau gweledol ac ôl-gynhyrchu

Mae'r radd hon hefyd yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Mae cyfleoedd astudio pellach ar gael ar lefel MDes /PMA neu TAR hefyd.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.