BA (Anrh) Animeiddio

Manylion cwrs

  • Côd UCAS259B
  • Blwyddyn mynediad 2023, 2024
  • Hyd y cwrs 3 BL (LlA)
  • Tariff UCAS 80-112
  • Côd y sefydliad G53
  • Lleoliad Wrecsam
A student arranges props and models for a stop-motion animation shoot

Course Highlights

Wedi'i ddylunio

a'i ddatblygu yn seiliedig ar ofynion y diwydiant gyda phwyslais ar gyflogadwyedd

Cyfleoedd

i gystadlu ac adeiladu portffolio proffesiynol

Dull trawsddisgyblaethol

o gyflwyno cyrsiau, efelychu ymarfer stiwdio proffesiynol

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhaglen astudio ymarferol, sy'n eich galluogi i ddod â chymeriadau'n fyw. Bydd y rhaglen Animeiddio arbenigol hon yn eich trawsnewid yn ymarferydd amlbwrpas ym maes celf y ddelwedd symudol.

Byddwch yn gorffen eich astudiaethau gyda'r sgiliau proffesiynol a'r strategaethau meddwl creadigol i geisio am swyddi mewn stiwdios, weithio fel arlunydd llawrydd, neu gychwyn eich stiwdio eich hunan.

Bydd myfyrwyr yn:

  • Dysgu egwyddorion cyfathrebu gweledol a darlunio a'u cymhwyso i ddyluniad cymeriad, ddyluniad cefnfwrdd, creu bwrdd stori a gosod golygfeydd.
  • Archwiliwch egwyddorion animeiddio a datblygu sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Datblygu syniadau a gwaith tuag at greu ffilm fer i'w chyflwyno i wyliau ffilm, a hynny'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Archwilio technegau animeiddio i greu rîl sioe broffesiynol.
  • Arbenigo a datblygu project gradd derfynol a fydd yn gwthio ar ffiniau eich sgiliau i sicrhau eich bod yn sefyll.

Mae’r cwrs yma hefyd ar gael i’w astudio gyda blwyddyn sylfaen Animeiddio (gyda Blwyddyn Sylfaen). Cod UCAS: 259D.

A student arranges props and models for a stop-motion animation shoot

Celf a Dylunioyn PGW

Prif nodweddion y cwrs

  • Meddalwedd diweddaraf o safon diwydiant a ddefnyddir megis, Toon Boom Harmony, a'r ystafell Creative Cloud. 
  • Mynediad at dabledi Wacom Cintiq a gofod stiwdio.
  • Ymweliadau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant er mwyn cael cipolwg uniongyrchol ar sut mae cwmnïau cyfryngau creadigol yn gweithredu a'r amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael wrth ddatblygu eich dyheadau gyrfaol. Mae yna hefyd deithiau astudio eraill i wyliau ac Expos.
  • Cyfleoedd i gystadlu ac adeiladu eich portffolio proffesiynol.
  • Bod yn rhan o arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - edrychwch ar e-gylchgrawn Sioe Radd 2022, Unjammed.
  • Ceir gofal bugeiliol cryf mewn cymuned greadigol gyfeillgar gyda phwyslais ar adeiladu tîm a gwaith ar y cyd.
  • Amser cyswllt rheolaidd â staff brwdfrydig a chefnogol.

 

 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd eich astudiaethau yn eich galluogi i gael profiad mewn sgiliau a thechnegau digidol a ddefnyddir i ddod â'ch dychymyg o syniadau i'r sgrin drwy, technegau animeiddio amrywiol, yn dibynnu ar ba rai rydych chi'n dewis arbenigo ynddo.

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4) - Sgiliau Craidd

MODIWLAU

Semester 1

  • Hanes a Chyd-destun
  • Cyfathrebu Gweledol
  • Cyfathrebu Digidol

Semester 2

  • Dylunio Cymdeithasol
  • Adrodd Stori: Theori ac Ymarfer
  • Dylunio rhyngweithiol

BLYWDDYN 2 (LEFEL 5) - Sgiliau Uwch

MODIWLAU

Semester 1

  • Dylunio Symudiad
  • Argraffu a Chynhyrchu
  • Meddwl yn feirniadol

Semester 2

  • Dyfodol Creadigol: Gwneud bywoliaeth
  • Prosiect Dylunio: Animeiddio

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6) - Arbenigedd

MODIWLAU

Semester 1

  • Prosiect Arbenigol: Animeiddio

Semester 2

  • Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
  • Briff Byw

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Cod UCAS: 259B

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG lefel A neu gyfwerth. Caiff cymwysterau lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried hefyd.

Mae tîm y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.

Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith. Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.

Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Caiff gwahanol gymwysterau eu hystyried, gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Bagloriaeth Cymru, y Fagloriaeth Ryngwladol, cyrsiau Mynediad, BTEC, VCE, GNVQ, lefelau A ac AS yn ogystal â chymwysterau tramor eraill. 

 

Addysgu ac Asesu

Nid oes arholiadau gosodedig. Mae asesu yn barhaus ac yn ymwneud â phob agwedd ar y rhaglen, gan roi pwyslais a ddiffinnir yn fwy gofalus ar asesu ffurfiannol ac adborth ar eich gwaith cwrs trwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwn yn eich cynghori ar lefel eich cyrhaeddiad ac yn eich cyfeirio tuag at strategaeth ar gyfer dilyniant pellach wrth i aseiniadau a modiwlau gael eu cwblhau.

Mae fformatau amrywiol o asesu i annog eich dysgu trwy seminarau grŵp, ymdriniaethau a thiwtorialau. Gall hyn fod trwy ryngweithio grŵp gyda dadansoddiad beirniadol lle byddwch yn cyflwyno ystod o waith gan gynnwys llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gwaith celf gorffenedig, gwaith ar sail sgrin, ffeiliau technegol / cynhyrchu, cyfnodolion, traethodau, a chyflwyniadau clyweledol. Mae adolygiadau o waith ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg ac mae hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio ar eich cynnydd cyn asesiad diwedd blwyddyn terfynol neu grynodol.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu ac entrepreneuraidd, fel eich bod yn gymwys iawn i fynd i mewn i ddiwydiant amrywiol sy'n newid yn gyflym. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau fel y BBC, Channel 4, S4C, Disney, Molinare, McKinnon & Saunders, Pictures Passion, Asylum Models and Effects, EA Games, Splash Damage Games a TT Games, gan gymryd rolau blaenllaw megis uwch ddylunwyr, artistiaid/animeiddwyr VFX, gan weithio ar deitlau megis A Bug’s Life,  The Corpse Bride, Frankenweenie a gemau cyfres Harry Potter.

Mae cyfleoedd gyrfaol ym mhob maes animeiddio, gan gynnwys: artistiaid cysyniad, artistiaid byrddau stori, animeiddwyr cynorthwyol, animeiddwyr llawrydd, dylunwyr cymeriadau, artistiaid gemau, datblygwyr rhyngweithiol, artistiaid amgylchedd a chefndir, delweddwyr llawrydd, gwneud modelau, dylunio setiau, celf gwead cyfryngau digidol, paentio digidol, cysodi, goleuo, rigio, effeithiau gweledol ac ôl-gynhyrchu.

Mae'r radd hon hefyd yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Mae cyfleoedd astudio pellach ar gael ar lefel MDes /PMA neu TAR hefyd.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

 

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

 

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.
You didn't select a valid both link for Staff 2