Civil engineering student

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

2 BL (llawn-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol, Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Course Highlights

Cymeradwywyd

gan y Cydbwyllgor Cymedrolwyr (JBM) fel dysgu pellach.

Ychwanegwch

at eich cymhwyster i radd BSc.

Partneriaeth

gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Pam dewis y cwrs hwn?

Wedi ei ddylunio ar gyfer pobl sydd eisoes wedi ennill HNC mewn Peirianneg Sifil, bydd y cwrs atodol hwn yn datblygu eich sgiliau dadansoddi a datrys problemau yn ogystal ag ehangu eich gwybodaeth yn y maes i’ch galluogi i arbenigo yn eich astudiaeth gan ychwanegu at eich profiad cyfredol.

  • Cymeradwywyd gan y Cydbwyllgor Cymedrolwyr fel dysgu pellach i ddarparu sail academaidd ar gyfer ymgeiswyr Peiriannydd Corfforedig sydd â chymhwyster cyntaf wedi ei chymeradwyo gan IEng.
  • Arweiniad, cefnogaeth a mentora arbenigol gan Ddarlithwyr Peirianneg Sifil Siartredig gyda phrofiad maith yn y diwydiant.
  • Cysylltiadau gwych gyda chyrff proffesiynol a chyflogwyr.
  • Mynediad at ystafelloedd Dylunio Trwy Gymorth Cyfrifiadur, meddalwedd arbenigol a labordai hydroleg a strwythurau.
  • Ymweliadau safle â phrosiectau Peirianneg Sifil/Adeiladu mawr drwy gydol y cwrs.
Chartered Institution of Highways & Transportation logoInstitute of Civil Engineers logoInstitute of Highway Engineers logo
model building

Yr Amgylchedd Adeiledigyn Prifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Rhaglen Dysgu Bellach: Mae’r rhaglen hon wedi ei chymeradwyo o ran cwrdd â gofynion Dysgu Pellach i fod yn Beiriannydd Corfforedig ar gyfer ymgeiswyr sydd â chymhwyster cyntaf a gymeradwyir gan IEng.
  • Mae’r bartneriaeth academaidd rhwng Prifysgol Wrecsam a Sefydliad y Peirianwyr Sifil yn darparu cysylltiadau cryf rhwng y brifysgol, y Sefydliad a chyflogwyr ar draws Gogledd Cymru.
  • Arweiniad, cefnogaeth a mentora arbenigol gan Ddarlithwyr Peirianneg Sifil Siartredig gyda phrofiad maith yn y diwydiant.
  • Cysylltiadau gwych gyda chyrff proffesiynol a chyflogwyr.
  • Grwpiau tiwtorial bach sy’n galluogi cefnogaeth agos gan diwtoriaid, gan gynnwys sesiynau ychwanegol i gynorthwyo gyda mathemateg.
  • Mae grwpiau tiwtorial bach yn caniatáu cymorth tiwtorial agos, gan gynnwys sesiynau ychwanegol i helpu gyda mathemateg.
  • Mynediad at ystafelloedd Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur, data Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM), dadansoddi ac efelychu meddalwedd.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 5)

Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf (lefel 5) yn adeiladu ar wybodaeth a ddysgwyd ar lefel HNC, gan gynnig cyfleoedd heriol sy’n galluogi myfyrwyr i arddangos eu cyrhaeddiad mewn dylunio, datrys problemau, dadansoddi ac asesu, gweithredu arfer gwaith, manylebau a safonau, a gofynion iechyd a diogelwch.

Mae’r modiwl Cysylltiedig â Gwaith yn elfen bwysig o'r rhaglen ac yn cynnig cyfle i fyfyrwyr werthuso eu hanghenion datblygiad proffesiynol eu hunain. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gwrdd â'r 29 deilliant dysgu sy'n ofynnol gan y Cydbwyllgor Cymedrolwyr. Mae cwblhau'r deilliannau yma gyda dilysiad gan eich cyflogwr ynghyd â gweddill y modiwlau yn darparu'r sail academaidd gymeradwy ar gyfer Peiriannydd Corfforedig. Diben pellach y modiwl yma yw galluogi myfyrwyr i fyfyrio ynghylch a datblygu eu heffeithiolrwydd eu hunain o ran eu harfer cyflogaeth gyfredol.

MODIWLAU

  • Dylunio Priffyrdd
  • Peirianneg Dŵr
  • Mathemateg Peirianneg Sifil
  • Mecaneg Peirianneg a Deunyddiau
  • Dysgu Cysylltiedig â Gwaith 1

BLWYDDYN 2 ( LEFEL 6)

Yn y flwyddyn olaf, mae Rheoli Prosiect yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos sgiliau technegol, ariannol, rheoli amser a phobl, sydd eu hangen wrth weithredu prosiectau Peirianneg Sifil nodweddiadol. Mae Rheoli Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yn rhoi mewnwelediad i fyfyrwyr i’r dechnoleg arloesol yma a ddefnyddir i gydlynu cylch llawn y datblygiad, o’r dechreuad, drwy’r prosesau dylunio ac adeiladu tuag at reoli’r prosiect gorffenedig, ei addasiad posibl ac yn y pen draw, y dadadeiladu.

Bydd y Prosiect Unigol yn galluogi myfyrwyr i arddangos dysgu annibynnol, dadansoddi beirniadol a sgiliau syntheseiddio, ac arddangos eu dealltwriaeth o ymchwil, dadansoddi ac adnoddau hanfodol sydd eu hangen i gynnig datrysiadau cynaliadwy i broblemau peirianneg sifil. Bydd y modiwl yma hefyd yn darparu myfyrwyr gyda sgiliau trosglwyddadwy fel y rhai sy’n ofynnol wrth greu adroddiadau technegol a pharatoi a chyflwyno dogfennau adolygu i Gyrff Proffesiynol.

MODIWLAU

  • Dylunio ar gyfer Gwydnwch Hinsawdd
  • Technolegau Rheoli Prosiect a Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM)
  • Prosiect Unigol
  • Dysgu Seiliedig ar Waith 2

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Lleiafswm arferol y gofynion mynediad i’r rhaglen yw Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil.

Gofynnir i ymgeiswyr fod yn gyflogedig mewn disgyblaeth peirianneg sifil sy’n gysylltiedig ag adeiladu.

Addysgu ac Asesu

Mae’r strategaethau asesu yn fodiwl-benodol ac yn cyfuno themâu diwydiannol ble bynnag y bo’n ymarferol. Paratoir defnyddiau asesu i gwrdd ag anghenion y modiwl a’u cyflwyno i fyfyrwyr mewn sesiynau briffio rhyngweithiol. Bydd gwaith gorffenedig yn cael ei asesu ac yna fe ddarperir adborth er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth dechnegol ymhellach.

Trafodir cynnydd grwpiau ac unigolion mewn tiwtorialau rheolaidd fel rhan o strategaeth tuag at adborth adeiladol trwy gydol y cwrs.

Mae nodweddion eraill yr arfer o asesu yn cynorthwyo i ddatblygu sgiliau proffesiynol a phwnc gan ddefnyddio sefyllfaoedd efelychu seiliedig ar senarios ble mae prosiectau dylunio yn galw am ddatrysiadau creadigol ac adrodd yn eglur ar y canlyniadau. Mae datrysiadau o’r fath yn cael eu cyflwyno i a’u hystyried gan ‘gleientiaid’ unigol o fewn lleoliad ‘ystafell fwrdd’ ffurfiol.

Mae’r mathau o asesu a ddefnyddir yn eang ar draws y rhaglen yn cynnwys traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau grŵp ac unigol, profion dosbarth, arbrofion labordy, cyflwyniadau seminar, tasgau seiliedig ar senarios o fewn amser penodol, tasgau ymarferol ac ymchwil unigol a ymgymerir wrth baratoi adolygiadau a dadansoddiadau o astudiaethau achos.

Dysgu ac Addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r rhaglen yma wedi ei chynllunio ar gyfer pobl sydd eisoes yn y diwydiant peirianneg neu adeiladu ac yn dymuno hybu eu gyrfaoedd. Mae’r opsiynau gyrfaol posibl yn cynnwys: 

  • Dylunio Peirianneg Sifil
  • Contractio Peirianneg Sifil
  • Peirianneg Strwythurol
  • Peirianneg Geodechnegol
  • Peirianneg Priffyrdd
  • Peirianneg Rheilffyrdd
  • Peirianneg Arfordirol/Afonol
  • Rheoli Prosiect
  • Isadeiledd a Chyflenwad Dŵr
  • Tirfesur Topograffig
  • Iechyd a Diogelwch Adeiladu

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

 

 

 

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.