BEng (Anrh), MSc  Beirianneg Drydanol ac Electronig MEng

Students in engineering lab

Manylion cwrs

Côd UCAS

MM23

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser) / 8 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

120

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-achredu

Course Highlights

Mynediad

i labordai electronig a pheirianneg, a hefyd meddalwedd safonol y diwyd.

Arbenigo

mewn Pŵer, Electroneg, Offeryniaeth a Rheolaeth.

Gysylltiadau agos

gyda diwydiant yn lleol a chenedlaethol, gyda chyfleoedd i gael ymweliadau safle.

Students in engineering lab

Peirianneg ymMhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae rhaglen Gradd Meistr Integredig Peirianneg Drydanol ac Electronig MEng yn cynnwys addysgu addas i'r diben a phrofiad ymchwil sy'n darparu cefndir cadarn ar gyfer gyrfa yn y sector peirianneg drydanol ac electronig.

Dyluniwyd yr astudiaeth o Beirianneg Drydanol ac Electronig MEng fel rhaglen integredig o fynediad i'w chwblhau, gan bara 4 mlynedd, gyda'r rhannau cynharach yn cael eu darparu'n gyffredin â'r rhaglen BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig cyfochrog. Mae'r radd MEng yn cwrdd â disgwyliadau'r cymwysterau sy'n cael eu harysgrifio ar gyfer graddau meistr. Mae'r cyfnod astudio ar y lefel is yn cwrdd â disgwyliadau'r BEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig. 

O drafnidiaeth ac ynni adnewyddadwy i awyrofod a roboteg, mae'r radd hon yn rhoi'r sgiliau poblogaidd i chi weithio ar flaen y gad ym maes technolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg. Mae'r cwrs, sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Peirianneg, yn archwilio sut mae peirianwyr trydanol yn llywio dyfodol y sectorau hyn drwy arloesi a dylunio.

Byddwch yn:

  • Cael mynediad at labordai dylunio a phrofi electronig, labordy electroneg pŵer, rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy (PLC) a labordai dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD).
  • Ennill profiad ymarferol ar becynnau meddalwedd safon diwydiant, gan ddatblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y diwydiant
  • Datblygu sgiliau dadansoddi, cyfrifiadol, dylunio a trosglwyddadwy gan gynnwys ymwybyddiaeth o oblygiadau cymdeithasol, amgylcheddol a moesegol
  • Elwa o gysylltiadau agos gyda diwydiant yn lleol a chenedlaethol, gyda chyfleoedd i gael ymweliadau safle
  • Canolbwyntio ar arbenigeddau mewn Pŵer, Electroneg, Offeryniaeth a Rheoli
  • Gallu teilwrio eich dewis modiwlau i arbenigo naill ai mewn Peirianneg Drydanol neu Electronig, yn dibynnu ar eich nodau a’ch diddordebau.
  • Astudio cwrs ble mae 85.7% o raddedigion mewn gwaith taledig neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio* *dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi.

Prif nodweddion y cwrs

  • Canolbwyntio ar astudiaeth ymarferol yn ogystal ag academaidd, gyda mynediad at y cyfleusterau yn ein labordai dylunio a phrofi electronig, labordy electroneg pŵer, rheolyddion rhesymeg rhaglenadwy (PLC) a labordai dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD).
  • Ennill profiad ymarferol ar becynnau meddalwedd safon diwydiant, gan gynnwys Arduino, Raspberry Pi, MATLAB a Simulink, Multisim ac Ultiboard, Texas Instruments Code Composer Studio, Microchip MPLAB, Keysight Vee Pro a meddalwedd Siemens Step 7.
  • Mae cysylltiadau cryf gyda diwydiant yn darparu cyfleoedd i ymweld â chwmnïau lleol a rhanbarthol i ennill profiad gwaith amhrisiadwy yn y diwydiant peirianneg.
  • Ffocws ar arbenigeddau Pŵer, Electroneg, Offeryniaeth a Rheoli.
  • Canolfan cymorth mathemateg bwrpasol ar gyfer myfyrwyr.
  • Mae’r rhaglen radd yma wedi ei hachredu gan Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), gan helpu i wella cyflogadwyedd graddedigion.
  • Mae 85.7% o raddedigion y cwrs hwn mewn gwaith taledig neu'n astudio* *arolygwyd graddedigion 15 mis ar ôl graddio, dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Bydd modiwlau lefel 4 yn gosod y sylfaeni ar gyfer gweddill eich rhaglen gradd ac yn eich arfogi gyda’r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol sydd eu hangen arnoch i gwblhau’n llwyddiannus y blynyddoedd astudio sydd yn weddill gennych.

 MODIWLAU

  • Mathemateg Beirianyddol
  • Cyflwyniad i Wyddoniaeth Drydanol a Mecanyddol
  • CAD a Gwyddoniaeth Cynhyrchu
  • Datblygiad Proffesiynol Peirianneg
  • Datrys Problemau gyda Rhaglennu
  • Electroneg Analog a Digidol

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Yn y flwyddyn hon byddwch yn arbenigo yn y llwybr o’ch dewis. Byddwch yn astudio cyfuniad o fodiwlau craidd a naill ai’r modiwlau trydanol neu electronig ar lefel 5, yn ddibynnol ar y llwybr astudio a ddewiswyd gennych.

MODIWLAU

  • Peirianneg Bellach Mathemateg
  • Dyfodol Peirianneg – Ymchwil, Moeseg a Chynaliadwyedd
  • Dylunio System Reoli Deallus
  • Peirianneg Pŵer Trydanol
  • Automations Diwydiannol & PLCs
  • Systemau Mewnblanedig

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Bydd ffocws eich blwyddyn olaf ar eich prosiect peirianneg dan oruchwyliaeth. Bydd hyn yn gyfle ichi ddangos y sgiliau peirianneg rydych wedi eu datblygu yn y blynyddoedd blaenorol. Bydd gweddill y credydau lefel 6 ar gyfer eich blwyddyn olaf yn dod naill ai o fodiwlau trydanol neu electronig, yn ddibynnol ar y llwybr astudio a ddewiswyd gennych. 

MODIWLAU

  • Prosiect (40 credyd)
  • Peirianneg Broffesiynol
  • Dylunio a Phrofi Electronig
  • Prosesu Signal Digidol

Y Llwybr Electronig (dewisol)

  • Cyfathrebu ac Antenau Di-wifr

Y Llwybr Trydanol (dewisol)

  • Electroneg Pŵer a Pheiriannau Trydanol

BLWYDDYN 4 (LEFEL 7)

  • Prosiect Grŵp (40 credyd)
  • Modelu ac Efelychu Systemau Peirianneg
  • Troswyr, Gyriannau a Systemau Ynni
  • Dadansoddi a Phrofi Cynlluniau Cylchrediad 
  • Technoleg Adnewyddadwy a Pheirianneg Integreiddio Storio
  • Peirianneg Dylunio a Rheoli System Ddeallus (dewisol)

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Gofynion academaidd y cwrs yw 120 pwynt tariff UCAS ar TAG, Safon Uwch neu gyfwerth, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg. 

Gall ymgeiswyr fynd i mewn i'r rhaglen ar wahanol lefelau gyda Chydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) neu Gydnabyddiaeth o ddysgu drwy brofiad blaenorol (RPEL) yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y Brifysgol.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir nifer o ddulliau asesu; ymysg y rhain mae profion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos o  waith labordy, a CAD. Gall cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ochr yn ochr ag arholiadau dan gyfyngiad amser. Mae pob modiwl yn cael ei asesu drwy ddulliau amrywiol, gan alluogi’r myfyrwyr i ddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r cwrs yn eich arfogi gyda gwybodaeth a sgiliau trylwyr mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw hi i dechnolegau newydd a’r rhai sy’n dod i’r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr pwnc yn y diwydiant neu fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.

Mae yna brinder peirianwyr trydanol/electronig cymwys yn y DU ar hyn o bryd. O ganlyniad bydd cymhwyster yn y maes hwn yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr ar unwaith. Bydd gennych y sgiliau i gyfrannu i’r gwaith o ddylunio a datblygu systemau a phrosesau electronig. Mae cyfleoedd cyflogaeth ar gael yn y diwydiant awyrofod mewn systemau offeryniaeth electronig (lefel technegydd neu beiriannydd) neu yn y lluoedd arfog. 

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.

 

Yn amodol ar ail-achredu

Rhaid adnewyddu achrediad/cydnabyddiaeth allanol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (CPSRh) o dro i dro ar gyfer cyrsiau sy’n bodoli eisoes. Mae’r manylion ar y wefan yn seiliedig ar achrediad fersiwn flaenorol neu gyfredol y cwrs, a gwneir y diweddariadau a ragwelir cyn gynted ag y gwyddom amdanynt.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod ‘yn amodol ar ail-achredu’ yn cael eu hachredu yn ôl y disgwyl, fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na chaiff yr achrediad ei gymeradwyo yn ôl y disgwyl, neu ei newid neu ei ohirio’n sylweddol, cewch eich hysbysu gan y Brifysgol.