BSc (Anrh) Biocemeg (gyda blwyddyn sylfaen)
Manylion cwrs
- Côd UCASBCFY
- Blwyddyn mynediad 2023, 2024
- Hyd y cwrs 4 BL
- Tariff UCAS 48-72
- Côd y sefydliad G53
- Lleoliad Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?
Mae ein rhaglen BSc Anrh Biocemeg wedi'i chynllunio i gyflwyno'r myfyrwyr i ystod eang o dechnegau safon diwydiant a newydd a ddefnyddir ym maes biocemeg.
Cynlluniwyd modiwlau i gwmpasu meini prawf penodol Meincnodau Biowyddorau QAA 2019 yn ogystal â'u halinio â Chyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (PSRBs) megis y Gymdeithas Biocemegol a'r Gymdeithas Fioleg Frenhinol.
Y nod yw cynhyrchu graddedigion o ansawdd uchel gyda chyfleoedd rhagorol i fynd ymlaen i astudiaeth bellach a chyflogaeth. Bydd myfyrwyr yn cael eu hintegreiddio i'r diwylliant ymchwil o gofrestru hyd at raddio lle byddant yn rhyngwynebu ag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr MPhil a PhD yn ogystal ag ymchwilwyr ôl-ddoethurol.
Yn benodol, bydd y rhaglen yn:
- Darparu cwricwlwm Biocemeg ymarferol eang .
• Datblygu cymhwysedd mewn dulliau ymholi a datrys problemau gwyddonol.
• Galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth fanwl ym maes Biocemeg ac ymwybyddiaeth feirniadol o faterion a datblygiadau cyfredol yn y pwnc.
• Paratoi myfyrwyr mewn ystod eang o dechnegau safon diwydiant a newydd sy'n berthnasol i Fiocemeg.
• Annog sgiliau beirniadol, gwybodaeth am gyfrifoldeb proffesiynol, uniondeb a moeseg ynghyd â'r gallu i fyfyrio ar gynnydd personol fel dysgwr a chynnal astudiaeth annibynnol ar lefel 6 ar gyfer y modiwl traethawd estynedig.
• Cynhyrchu graddedigion sy'n gallu gwneud gwaith ymchwil o fewn fframwaith moesegol.

AstudioBiocemeg
Mae arweinydd y rhaglen, Dr Amiya Chaudhry, yn cyflwyno ein cwrs Biocemeg BSc (Anrh) ac yn amlinellu'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.
Prif nodweddion y cwrs
- Staff profiadol iawn sydd yn ymchwil weithredol, gyda phob un yn dal gradd doethur.
- Labordai pwrpasol er mwyn i’r myfyrwyr gael profiad ymarferol.
- Datblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithle
- Cymorth prifysgol ar gael drwy gyfrwng yn Gymraeg.
- Mynediad at gyfleusterau o’r radd flaenaf yng ngrŵp ymchwil y Ganolfan Polymerau.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
Bydd y flwyddyn sylfaen yn darparu cyflwyniad i ystod o gysyniadau a dulliau gwyddonol sydd yn sail i’r gwyddorau biolegol. Fe gewch hyfforddiant trylwyr mewn sgiliau labordy a byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi a mathemategol. Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd eu hunain mewn gwyddoniaeth, gyda chronfa sylfaenol o wybodaeth ar draws y prif feysydd gwyddonol.
Modiwlau
- Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd
- Sgiliau Labordy a Maes
- Cyflwyniad i Ddylunio Arbrofol a Dadansoddi Mathemategol
- Cyflwyniad i Wyddoniaeth
- Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
- Astudiaethau Cyd-destunol
BLWYDDYN UN (LEFEL 4)
Mae'r rhaglen yn dechrau ar lefel 4 drwy ddarparu sylfaen gadarn a chyflwyniad i'r disgyblaethau eang sy'n sail i bwnc biocemeg, gan arwain at ddealltwriaeth gref o'r pwnc.
Mae Blwyddyn un y rhaglen yn sefydlu llwyfan o wybodaeth graidd ar draws meysydd pwnc allweddol gan gynnwys bioleg, cemeg, mathemateg ac ystadegau, gyda chyflwyniad hefyd i imiwnoleg a microbioleg.
Modiwlau
- Cyflwyniad i Gemeg
- Bioleg Celloedd, Biocemeg a Geneteg
- Mathemateg ac ystadegau ar gyfer gwyddoniaeth
- Sgiliau Hanfodol ar gyfer y Gwyddorau Bywyd
- Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
- Cyflwyniad i Imiwnoleg a Microbioleg
BLWYDDYN DAU (LEFEL 5)
Mae’r flwyddyn hon yn cynnwys modiwlau arbenigol i raddau helaeth i roi'r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr ym meysydd allweddol biocemeg. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael mwy o wybodaeth am fethodoleg ymchwil a byddant yn cynllunio ac yn cynnal prosiect bychan i'w paratoi ar gyfer prosiect y flwyddyn olaf.
Modiwlau
- Biocemeg Uwch
- Bioleg Celloedd a Moleciwlaidd
- Dulliau Dadansoddol mewn Dulliau Ymchwil, Theori ac Ymarfer Gwyddoniaeth Gymhwysol
- Microbioleg Gymhwysol
- Uwch Sgiliau Labordy ar gyfer y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
BLWYDDYN TRI (LEFEL 6)
Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn canolbwyntio ar bynciau sydd ar flaen y gad o ran ymchwil gyfredol mewn biocemeg gan ddatblygu ymhellach sgiliau hanfodol a dadansoddi'r myfyrwyr. Rhan sylweddol o’r flwyddyn olaf yw prosiect ymchwil gwerth 40 credyd lle mae myfyrwyr yn gwneud darn annibynnol o ymchwil mewn maes o ddiddordeb arbennig iddynt.
Modiwlau
- Prosiect Ymchwil
- Biocemeg Strwythurol a Gweithredol
- Biowybodeg
- Datblygiadau Nanofeddygaeth a Biocemeg i’r Dyfodol mewn Meddygaeth: Cyffuriau a Thocsicoleg.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 48-72 pwynt tariff UCAS ar TAR Safon Uwch neu gyfatebol.
Addysgu ac Asesu
Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu; mae'r rhain yn cynnwys dyddiaduron dysgu, prosiectau grŵp, portffolios, gwaith cwrs, adolygiadau llenyddiaeth, cyflwyniadau llafar a phosteri, astudiaethau achos ac adroddiadau labordy, ac arholiadau ysgrifenedig/profion yn y dosbarth. Asesir pob modiwl gan amrywiaeth o ddulliau (e.e. astudiaethau achos, traethodau, adroddiadau labordy, cyflwyniadau, ac ati), gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd prosiect yn un o rannau olaf eich asesiad.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae cyfleoedd gyrfa ar gael nid yn unig yn y sector biowyddorau, ond mae galw mawr mewn llawer o sectorau diwydiannol eraill am y sgiliau datrys problemau a dadansoddi allweddol a ddatblygir yn y rhaglen.
Y prif gyflogwyr ar gyfer graddedigion biocemeg yn y sector cyhoeddus yw; Asiantaeth yr Amgylchedd, adrannau'n llywodraeth; y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG); sefydliadau ymchwil ac addysg. Cyflogir graddedigion biocemeg hefyd ym myd diwydiant. Ymhlith y cyflogwyr nodweddiadol mae cwmnïau fferyllol, biotechnoleg, bwyd, dŵr ac amaethyddol. Ymhlith y cyflogwyr eraill mae cyhoeddwyr gwyddonol a meddygol a'r Swyddfa Eiddo Deallusol (fel archwilwyr patentau).
Oherwydd y cydbwysedd o sgiliau a gwybodaeth gall myfyrwyr hefyd gael gwaith mewn meysydd fel gwerthu a marchnata, cwmnïau technolegol a chwmnïau cyfreithiol.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Mae ffioedd dysgu 2023/24 Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau Ffioedd a Chyllido.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.