A student uses laboratory equipment while other students observe

Manylion cwrs

Côd UCAS

BC21

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (Llawn-amser) 6 BL (Rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein gradd BSc (Anrh) Biocemeg yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o dechnegau newydd o safon diwydiant sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu graddedigion o ansawdd uchel sydd â chyfleoedd rhagorol o ran astudio pellach a chyflogaeth.

Mae modiwlau wedi’u cynllunio i gynnwys meini prawf penodol Meincnodau Biowyddorau 2019 y QAA yn ogystal ag yn alinio â chyrff allanol fel y Gymdeithas Biocemegol a Chymdeithas Frenhinol Bioleg 

Dyma nodweddion y cwrs:  

  • Cwricwlwm Biocemeg ymarferol ac eang
  • Bydd yn datblygu eich gallu mewn dulliau ymholi gwyddonol a datrys problemau
  • Bydd yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth fanwl ym maes Biocemeg a chael ymwybyddiaeth feirniadol o faterion a datblygiadau cyfredol yn y pwnc 
  • Cewch ddefnyddio’r labordai newydd sbon ar gampws Plas Coch i ddysgu sgiliau ymarferol 
  • Cewch eich integreiddio i’r diwylliant ymchwil o adeg cofrestru hyd at raddio ac ymwneud ag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr MRes a PhD yn ogystal ag ymchwilwyr Ôl-ddoethurol ar brosiectau ymchwil annibynnol yn yr ail flwyddyn ac ym mlwyddyn olaf y cwrs 
  • Mae’r dysgu a’r addysgu yn dilyn ein Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF), sy’n coleddu pwysigrwydd bod yn hyblyg, yn hygyrch a meithrin ymdeimlad o gymuned 
  • Mae’n eich paratoi i weithio gydag ystod eang o dechnegau newydd o safon diwydiant sy’n berthnasol mewn Biocemeg

 

Students in a lab

AstudioBiocemeg

Mae arweinydd y rhaglen, Dr Amiya Chaudhry, yn cyflwyno ein cwrs Biocemeg BSc (Anrh) ac yn amlinellu'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.

Prif nodweddion y cwrs

  • Staff hynod brofiadol sydd wrthi’n ymchwilio
  • Labordai pwrpasol i’ch galluogi i gael profiad ymarferol
  • Datblygu’r sgiliau sydd eu hangen mewn gweithle
  • Mynediad i gyfleusterau o’r radd flaenaf mewn labordai llawn offer 
  • Mae’r addysgu yn gynhwysol a chefnogol ac mae cymorth tiwtorial drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael. 
  • Mae’r cynnwys yn seiliedig ar Feincnodau Biowyddorau 2019 y QAA yn ogystal ag yn alinio â chyrff allanol fel y Gymdeithas Biocemegol a Chymdeithas Frenhinol Bioleg

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN UN (LEFEL 4)

Mae'r rhaglen yn dechrau ar lefel 4 drwy ddarparu sylfaen gadarn a chyflwyniad i'r disgyblaethau eang sy'n sail i bwnc biocemeg, gan arwain at ddealltwriaeth gref o'r pwnc.

Mae Blwyddyn un y rhaglen yn sefydlu llwyfan o wybodaeth graidd ar draws meysydd pwnc allweddol gan gynnwys bioleg, cemeg, mathemateg ac ystadegau, gyda chyflwyniad hefyd i imiwnoleg a microbioleg.

Modiwlau

  • Cyflwyniad i Gemeg (Craidd): Nod y modiwl hwn yw rhoi digon o wybodaeth gefndir a dealltwriaeth i chi mewn cemeg, sydd hefyd yn angenrheidiol i ymdopi â’r modiwlau dilynol yn y rhaglen rydych chi’n ei hastudio. 
  • Bioleg Celloedd, Biocemeg a Geneteg (Craidd): Nod y modiwl hwn eich cael i ymgyfarwyddo â rhannau strwythurol celloedd, biocemeg a sut mae celloedd yn gweithredu, gyda phwyslais arbennig ar geneteg a strwythur DNA.
  • Mathemateg ac ystadegau ar gyfer gwyddoniaeth (Craidd): Mae dealltwriaeth briodol o wyddoniaeth (pur a chymhwysol), yn gofyn i chi fod â gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol dda o fathemateg. Bydd y modiwl hwn yn eich codi i’r lefel gofynnol ar gyfer rhaglenni gwyddoniaeth prifysgol. 
  • Sgiliau hanfodol ar gyfer Gwyddorau Bywyd (Craidd): Nod y modiwl yw datblygu sgiliau hanfodol mewn gweithdrefnau a thechnegau labordy, a chyflawnir rhain gan roi sylw dyledus i ddiogelwch a moeseg.
  • Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd (Craidd): Nod y modiwl yw eich cyflwyno i elfennau damcaniaethol, ymarferol a phroffesiynol y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd. Cyflwyniad i Imiwnoleg a Microbioleg (craidd): Nod y modiwl hwn yw rhoi’r wybodaeth graidd i chi ym meysydd microbioleg ac imiwnoleg a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen yn llwyddiannus i astudio’r pynciau yn ddyfnach ar lefelau 5 a 6.

BLWYDDYN DAU (LEFEL 5)

Mae ail flwyddyn y rhaglen gan mwyaf yn cynnwys modiwlau arbenigol i raddau helaeth i roi'r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr ym meysydd allweddol biocemeg. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael mwy o wybodaeth am fethodoleg ymchwil a byddant yn cynllunio ac yn cynnal prosiect bychan i'w paratoi ar gyfer prosiect y flwyddyn olaf.

Modiwlau

  • Biocemeg Uwch (Craidd): Mae hwn yn adeiladu ar y cysyniadau craidd a addysgir ar lefel 4 ac mae’n rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o amrywiaeth o bynciau gan gynnwys biomacromoleciwlau allweddol, strwythur protein/cysylltiadau swyddogaethau, mecanweithiau/cinetig ensymatig, y sylfeini biocemegol syn gysylltiedig â chlefydau amrywiol, a chemeg bio-organig ai gymwysiadau.
  • Bioleg Foleciwlaidd a Chelloedd (Craidd): Nod y modiwl yw datblygu gwybodaeth ymhellach am fioleg foleciwlaidd a chelloedd sy’n adeiladu ar anatomeg, ffisioleg a bioleg celloedd a ddysgwyd ar Lefel 4.
  • Dulliau Dadansoddi mewn Theori, Ymarfer a Dulliau Ymchwilio Gwyddoniaeth Gymhwysol (Craidd): Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r prif dechnegau a ddefnyddir ar gyfer ynysu a dadansoddi cemegol ar ddeunyddiau hybrin. 
  • Microbioleg gymhwysol a meddygol (Craidd): Cewch wybodaeth ddofn ac eang am ystod o organebau microbaidd, eu strwythur, eu cylchoedd bywyd a sut maent yn rhyngweithio ag organebau lletyol.
  • Sgiliau Labordy Uwch ar gyfer Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol (Craidd): Mae’r modiwl yn eich cyflwyno i dechnegau labordy uwch Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol, er mwyn datblygu dealltwriaeth o Faterion Rheoleiddio, Iechyd a Diogelwch, a chymhwyso gwybodaeth academaidd mewn cyd-destun Labordy Patholeg. 

BLWYDDYN TRI (LEFEL 6)

Mae blwyddyn olaf yr astudiaeth yn canolbwyntio ar bynciau sydd ar flaen y gad o ran ymchwil gyfredol mewn biocemeg gan ddatblygu ymhellach sgiliau hanfodol a dadansoddi'r myfyrwyr. Rhan sylweddol o’r flwyddyn olaf yw prosiect ymchwil gwerth 40 credyd lle mae myfyrwyr yn gwneud darn annibynnol o ymchwil mewn maes o ddiddordeb arbennig iddynt.

Modiwlau

  • Prosiect Ymchwil (Craidd): Mae’r modiwl hwn yn gyfle i chi integreiddio a defnyddio gwybodaeth a gawsoch yn ystod eich astudiaethau gradd, gan eu defnyddio mewn modd hunanysgogol ac ymarferol i ymchwilio a datrys problemau, ac ymestyn eich dysgu i faes penodol mewn gwyddoniaeth gymhwysol. Bydd hefyd yn datblygu eich arbenigedd ymchwil ymarferol ac yn eich paratoi at astudio ôl-radd/cyflogaeth ar lefel graddedigion mewn maes gwyddoniaeth gymhwysol. 
  • Biocemeg Strwythurol a Gweithredol (Craidd): Nod y modiwl hwn yw dwyn ynghyd wybodaeth am gonglfeini bywyd: e.e. asidau amino, peptidau, proteinau, lipidau a pholysacgaridau a datblygu dealltwriaeth gyflawn o sut y caiff y rhain eu trefnu mewn celloedd.
  • Bioleg Clefydau (Craidd): Nod y modiwl hwn yw datblygu eich dealltwriaeth o'r cysyniad o glefyd yng nghyd-destun y mecanweithiau ffisiolegol arferol.
  • Nanofeddygaeth a Biocemeg: Datblygiadau mewn Meddygaeth yn y Dyfodol (Craidd): Dewch i astudio disgyblaeth gyffrous a newydd nanofeddygaeth ac ymchwil a chymwysiadau biocemeg blaenllaw eraill, gan gynnwys diagnosteg, therapiwteg, biosynhwyrau a nanotechnolegau ar gyfer meddygaeth aildyfu a pheirianneg meinweoedd. 
  • Cyffuriau a Thocsicoleg (Craidd): Cewch ehangu eich gwybodaeth wyddonol a thechnegol drwy archwilio astudiaethau achos enwog sy’n gysylltiedig â chyffuriau. 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar TAR Safon Uwch neu gyfatebol.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu; mae'r rhain yn cynnwys dyddiaduron dysgu, prosiectau grŵp, portffolios, gwaith cwrs, adolygiadau llenyddiaeth, cyflwyniadau llafar a phosteri, astudiaethau achos ac adroddiadau labordy, ac arholiadau ysgrifenedig/profion yn y dosbarth. Asesir pob modiwl gan amrywiaeth o ddulliau (e.e. astudiaethau achos, traethodau, adroddiadau labordy, cyflwyniadau, ac ati), gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd prosiect yn un o rannau olaf eich asesiad.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'r cwrs yn creu cyfleoedd eang ar gyfer cyflogaeth yn y meysydd canlynol: 

  • Diwydiant biotechnoleg (ymchwil a datblygu) 
  • Diwydiant fferyllol (ymchwil a datblygu)
  • Diwydiant bwyd a dŵr (profi, ymchwil a datblygu)
  • Diwydiant colur a llunio
  • Asiantaeth amgylcheddol
  • Gwerthu Meddygol
  • Gweithiwr cymorth gofal iechyd
  • Gweithiwr labordy milfeddygol
  • Ymchwilydd academaidd
  • Addysgu 

Bydd y sgiliau a ddatblygir yn eich astudiaethau hefyd yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth y tu allan i feysydd biowyddoniaeth uniongyrchol, megis rolau rheoli a chyllid. 

  
Mae'r cwrs BSc (Anrh) Biocemeg yn berthnasol ac yn barod i gyflogwyr, gan ddarparu cwricwlwm Biocemeg eang ac ymarferol. Mae'r cynnwys yn cael ei lywio gan Meincnodau 2019 QAA Biowyddorau, yn ogystal â chael ei alinio â PSRBs fel y Gymdeithas Biocemegol a'r Gymdeithas Bioleg Frenhinol. 

Mae'r addysgu'n cael ei wneud yn ein labordai newydd sbon ar gampws Plas Coch. Mae ein cyfleusterau newydd yn sicrhau bod gan fyfyrwyr yr offer mewn ystod eang o dechnegau newydd a safonol y diwydiant sy'n berthnasol ym maes Biocemeg. 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.