Close up of hands on a laptop keyboard

Manylion cwrs

Côd UCAS

8BR6

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 4 BL (lleoliad diwydiannol)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ddilysu

Course Highlights

Aelod efydd

o'r gymdeithas y Graddedigion Busnes sydd â mynediad at ystod o fuddion gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori a'r hwb e-Ddysgu BGA

Achrededig

gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig

Diploma CMI

mewn arweinyddiaeth a rheolaeth ar ôl graddio

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein BA (Anrh) mewn Busnes a Rheolaeth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau'r byd busnes modern. Yn ogystal, cryfhau a datblygu eu sgiliau personol a phroffesiynol yn ehangach.

Bydd myfyrwyr yn: 

  • cael mewnwelediad eang i fyd busnes a rheolaeth gan academyddion a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant sydd â chyfoeth o brofiad.
  • astudio modiwlau wedi'u cynllunio gyda phwyslais ar faterion busnes rhyngwladol, cyfoes ac ymarferol, i sicrhau bod graddedigion yn barod ar gyfer y farchnad swyddi.
  • ennill y wybodaeth a’r galluoedd nid yn unig i ddod yn rheolwr busnes effeithiol ond hefyd yr entrepreneuriaeth i ddatblygu eu busnes eu hunan.
  • datblygu dealltwriaeth o reoli, gweithredoedd busnes, strategaeth gorfforaethol, cyfraith busnes ac adnoddau dynol.
  • ymgymryd â lleoliad gwaith i gael profiad gwaith ymarferol.
  • wedi iddynt raddio, byddant yn derbyn Diploma/Tystysgrif lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) gwerth £1,300 heb unrhyw gost ychwanegol.
  • astudio cwrs ble mae 93.1% o raddedigion mewn gwaith taledig neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio* *dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi.

Gallwch hefyd ddewis astudio’r cwrs yma gyda blwyddyn sylfaen BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth (gyda Lleoliad Diwydiant). Côd UCAS: W3L7

 
Person sat on a laptop

Busnes ymMhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae gan y Brifysgol gysylltiadau rhagorol â chyrff proffesiynol ac arbenigwyr busnes sy'n cyfoethogi ein haddysgu gyda darlithoedd gwadd. 
  • Mae cyfleoedd lleoliad gwaith ar gael i bob un o'n myfyrwyr sy'n dangos safon dda o ymgysylltu a phroffesiynoldeb yn ystod eu hastudiaethau.
  • Mae pob myfyriwr yn derbyn profiad uniongyrchol o gymhwyso'u gwybodaeth wrth iddynt weithio gyda busnes go iawn ar brosiectau perthnasol.
  • Mae’r radd hon wedi ei hachredu gan y CMI, a bydd pob myfyriwr yn derbyn Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheoli gan y CMI gwerth tros £1,3000.
  • Mae 93.1% o raddedigion y cwrs hwn mewn gwaith taledig neu'n astudio* *arolygwyd graddedigion 15 mis ar ôl graddio, dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi.

Beth fyddwch chin ei astudio

Ar Lefel 4, bydd myfyrwyr yn cymryd sawl pwnc rhagarweiniol mewn rheoli a busnes, cyllid, RhAD, marchnata a dadansoddeg. Wrth i fyfyrwyr symud ymlaen i Lefel 5 a 6, byddant yn ennill dealltwriaeth o wasanaeth cwsmeriaid, busnes digidol, arweinyddiaeth ystwyth, rheoli risg gorfforaethol, strategaeth ac adnoddau dynol rhyngwladol, ynghyd â chael opsiwn i gymryd lleoliad diwydiannol a fydd yn gwella eich CV a rhagolygon cyflogaeth. Mae traethawd hir wedi'i ymgorffori yn rhan olaf eu hastudiaethau i roi'r gallu i'n holl fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymchwil.

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes: Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o hanfodion busnes, gan gynnwys strwythur sefydliadau a natur gwaith busnesau modern. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ennill dealltwriaeth eang o reolaeth drwy archwilio sgiliau a nodweddion rheolwyr ac arweinwyr effeithiol, a thechnegau i reoli tîm yn llwyddiannus. 
  • Cyflwyniad i Gyllid Busnes a Chyfrifeg: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau ac egwyddorion cyfoes cyfrifeg a chyllid er mwyn gwella gallu’r myfyrwyr yn y maes hwn. Gwneir hyn drwy ddefnyddio technegau cyfrifyddu rheoli, cyfrifyddu ariannol a rheoli ariannol perthnasol, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau ariannol gweithredol mwyaf priodol, a dadansoddi effeithiau’r penderfyniadau hynny ar berfformiad a sefyllfa ariannol cwmni. 
  • Sgiliau Cyfathrebu Busnes: Nod y modiwl yw sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewnol ac allanol integredig ac effeithiol wrth feithrin perthynas gynaliadwy ag eraill a sicrhau gwerth i gwsmeriaid. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu’n effeithiol mewn lleoliadau busnes ac academaidd gan ddeall hanfodion sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu proffesiynol. 
  • Deall Rheoli Adnoddau Dynol: Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl rheoli adnoddau dynol (HRM) mewn sefydliadau. Mae’r modiwl yn ymdrin â’r hanfodion canlynol ym maes rheoli AD: 

- Mathau o sefydliadau sy’n gyffredin ym myd busnes 

- Pwysigrwydd rheoli adnoddau dynol a rôl ymarferwyr AD 

- Gweithgareddau AD mewn sefydliadau 

- Effaith technoleg ar reoli adnoddau dynol 

  • Hanfodion Marchnata: Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â sylweddoli pa mor bwysig yw rôl marchnata wrth yrru llwyddiant a sicrhau canlyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol swyddogaethau marchnata yn yr 21ain ganrif ac yn astudio sut y gall deall ymddygiad cwsmeriaid a’r amgylchedd marchnata alluogi targedu a chynllunio effeithiol. Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr wedi dod i ddeall y gwahanol offer sydd ar gael i’r marchnatwr modern, ac yn gallu adnabod eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain, gan eu galluogi i’w defnyddio’n greadigol ac yn effeithiol mewn cyd-destun gwaith gan gynnwys sefydliadau masnachol a’r sector di-elw. 
  • Dadansoddeg Busnes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion dadansoddeg yn ogystal â datblygu’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn er mwyn mynd ati’n systematig i ddadansoddi data yn y byd busnes cyfoes. 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

MODIWLAU

  • Rheoli Troseddu a Risg Corfforaethol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o gysyniadau ac egwyddorion rheoli risg a throseddu corfforaethol a datblygu’r gallu i gymhwyso’r rhain i fyd busnes. Mae risg yn rhan annatod o fusnes, ac fel rhan o’r modiwl hwn byddwch yn archwilio’r broses rheoli risg gan gynnwys adnabod risg sefydliadol, dadansoddi effaith debygol y risgiau hynny, cynllunio a dewis mesurau rheoli a monitro a gwerthuso’r mesurau hyn. Byddwch yn ymchwilio i risg mewn perthynas â chyllid, iechyd a diogelwch, dynladdiad corfforaethol, dwyn yn y gweithle, ymhlith pethau eraill. Byddwch hefyd yn ystyried sgandalau busnes diweddar/cyfoes, ac yn ystyried y datblygiadau diweddaraf sydd ar y gweill ym maes llywodraethu a chyfrifoldeb corfforaethol. 
  • Strategaeth Busnes Digidol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael mantais gystadleuol ddigidol mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae rheolau busnes wedi newid ac nid yw hi bellach yn ddigon i gwmnïoedd fod yn well neu’n rhatach i gael mantais gystadleuol. Mae’r rheolau newydd hyn yn ei gwneud yn hanfodol i gwmnïau ailedrych ar bedair elfen sylfaenol eu busnes er mwyn ffynnu yn y cyfnod digidol, sef eu strategaeth, eu cadwyn gwerth, ymgysylltu â chwsmeriaid, a strwythur y sefydliad.  
  • Arweinyddiaeth Ystwyth: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion arweinyddiaeth ystwyth a’r gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn yn y byd busnes cyfoes, er mwyn creu’r amgylchedd cywir i dimoedd ystwyth lwyddo mewn sefydliad. 
  • Entrepreneuriaeth ac Arloesedd: Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr weld sut mae syniadau’n cael eu datblygu, sut mae entrepreneuriaeth yn gweithredu a dod i ddeall damcaniaethau Arloesi ac entrepreneuriaeth yng nghyd-destun busnes. Bydd yn rhoi modd i fyfyrwyr i wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y gweithle drwy roi dealltwriaeth iddynt o nodweddion entrepreneuriaeth ac arloesedd a sut i fynegi’r nodweddion hyn. 
  • Busnes a Masnach Ryngwladol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion busnes a masnach ryngwladol a’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn i’r byd busnes rhyngwladol cyfoes. Mae’r modiwl yn esbonio prif gysyniadau, egwyddorion a swyddogaethau busnes rhyngwladol a globaleiddio ac yn cymhwyso heriau diwylliant busnes rhyngwladol i sefyllfaoedd masnachol realistig. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth ymarferol o’r system ariannol fyd-eang a gwerthuso damcaniaethau masnach ryngwladol o ran y canlyniadau masnachol. Bydd strategaeth fusnes ryngwladol hefyd yn cael ei hasesu a’i chymhwyso gan ystyried y canlyniadau masnachol. 
  • Ymddwyn yn Broffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl: Mae’r modiwl hwn yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr ddatblygu a gwella eu sgiliau a’u hymddygiad proffesiynol craidd, gan gynnwys moeseg, gwerthoedd a phroffesiynoldeb. Bydd hyn oll yn eu helpu i feithrin cyd-berthnasau cadarnhaol yn y gweithle a gwella perfformiad, cyfranogiad a lles gweithwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddeall datblygiad proffesiynol parhaus a nodi anghenion datblygu. 
  • Lleoliad mewn Diwydiant (opsiwn): Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr ac uniongyrchol yn y gweithle, a hynny’n ymwneud yn benodol ag arbenigedd y myfyriwr. Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd allan am gyfnod estynedig at gyflogwr i weithio ar un neu fwy o brosiectau neu amcanion diffiniedig. Bydd disgwyl i’r myfyriwr ddod o hyd i gyfle lleoliad addas mewn cydweithrediad ag Ysgol Fusnes Gogledd Cymru. Bydd y Lleoliad mewn Diwydiant fel arfer yn digwydd dros flwyddyn academaidd arferol, yn ystod y ddau semester prifysgol arferol. Fodd bynnag, pan fo angen, gall ddechrau’n gynharach a gorffen yn gynharach yn ôl anghenion y diwydiant, ond dylai bara am tua 40 wythnos fel arfer, yn dibynnu ar yr oriau gwaith. 

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

MODIWLAU CRAIDD:

  • Rheolaeth Strategol: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno dull systematig o astudio rheolaeth strategol, gan adeiladu ar amrywiaeth o syniadau a damcaniaethau a’r rheiny yn amrywio o theori sefydliadau diwydiannol i economeg sefydliadol. Mae’r uned hon yn amlinellu hanfodion rheolaeth strategol ac yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i’r maes pwysig hwn o reoli busnes. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y materion perthnasol a’r technegau y mae rheolwyr yn eu defnyddio. Bydd yr offer a’r technegau yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae sefydliadau yn sicrhau mantais gystadleuol sy’n gynaliadwy. 
  • Cyfraith Cyflogaeth: Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr ynghylch maes cynyddol gymhleth cyfraith cyflogaeth y Deyrnas Unedig. Bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae’r gyfraith yn effeithio ar gyflogwyr a gweithwyr o’r camau recriwtio dechreuol hyd at ddiswyddo a dileu swyddi. Bydd y modiwl yn ymchwilio i ddarnau allweddol deddfwriaethau a chodau ymarfer y DU a’r UE, gan eu cyflwyno ochr yn ochr ag astudiaethau achos sy’n dangos pwysigrwydd cyfraith cyflogaeth yn y gweithle. Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth i fyfyrwyr o’u hawliau fel cyflogai neu weithiwr yn y gweithle, yn ogystal â bod yn amhrisiadwy os ydynt yn cyflogi staff neu’n gweithio mewn adran Adnoddau Dynol. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i’r rheiny sy’n ystyried gweithio fel cynrychiolwyr undebau llafur. 
  • Marchnata Strategol: Nod y modiwl hwn yw adeiladu ar y sylfeini marchnata a astudiwyd yn flaenorol ac mae’n mynd ati mewn camau i astudio natur marchnata strategol sy’n cyfrannu at sicrhau mantais gystadleuol. Bydd yn cyflwyno’r agweddau ehangach ar farchnata strategol sy’n adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn eiriolaeth a moeseg. 
  • Rheoli Pobl mewn Cyd-destun Rhyngwladol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o reoli pobl mewn cyd-destun rhyngwladol. Rhan o’r modiwl hwn fydd astudio effaith amgylchiadau cenedlaethol a diwylliannol, dulliau rheoli adnoddau dynol yn rhyngwladol (IHRM) yn ogystal â dyfodol y maes hwn. 
  • Traethawd hir: Nod y modiwl traethawd hir yw cael myfyrwyr i ddangos eu bod yn gallu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ganddynt ym mhob llwybr yn y rhaglen astudio israddedig, a’u cymhwyso mewn modd annibynnol a hunanysgogol wrth ymholi a datrys problemau. Drwy hyn, byddant yn ymestyn, yn ategu ac yn gwella eu dysg drwy nodi problem busnes/rheoli naill ai mewn busnes, cyfrifeg a chyllid, Rheoli Lletygarwch, Twristiaeth ac Adloniant, Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata neu unrhyw faes arall sy’n gysylltiedig â busnes sy’n gofyn am ymchwil ddamcaniaethol, casglu data strwythuredig a dadansoddi’r data hwnnw er mwyn arwain at gasgliadau ac argymhellion. 

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol, o leiafswm o ddau Lefel A a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar radd C/4 neu gyfatebol. Bydd cymwysterau Sgiliau Allweddol Lefel UG a Lefel 3 hefyd yn cael eu hystyried.

Addysgu ac Asesu

Caiff myfyrwyr eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd wrth gwblhau eu hastudiaethau israddedig. Caiff y cydbwysedd rhwng ffurfiau gwahanol asesu ei bennu gan nodau a deilliannau gwahanol y modiwlau craidd a dewisol. Mae dulliau asesu’n cynnwys traethodau academaidd, cyflwyniadau, adroddiadau, ymarferion efelychu ac arholiadau.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae gyrfaoedd busnes ar gael ym mron pob sector y gallwch chi feddwl amdano; mae angen arweinwyr, rheolwyr, cynghorwyr ariannol a llunwyr penderfyniadau cryf ar y farchnad ar bob diwydiant. Fodd bynnag, i lawer o'n graddedigion Busnes a Rheolaeth, mae'r llwybrau traddodiadol yn dal i apelio yn gryf - gan gynnwys gyrfaoedd yn y sectorau bancio ac ariannol, ymgynghoriaeth, adnoddau dynol a rolau marchnata.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

 

Yn amodol ar ddilysu

Mae cyrsiau sy’n cael eu dangos fel rhai “amodol ar ddilysu” yn gyrsiau newydd sy’n cael eu cwblhau ac mae manylion y cyrsiau yma yn y broses o gael eu penderfynu drwy’r gylchred gymeradwyo, a elwir yn broses ‘ddilysu’. Cyn gynted ag y bo’r rhaglenni wedi eu dilysu bydd manylion y cwrs yn cael eu cadarnhau.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod yn ‘amodol ar ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.