Close up of hands gesticulating, in front of a laptop, pen and notebook.

Manylion cwrs

Côd UCAS

IBIP

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Aelod efydd

o'r Gymdeithas Graddedigion Busnes â mynediad at amryw o fanteision gan gynnwys gwasanaethau ymgynghorol a chanolfan addysgu BGA

Lleoliadau

cyfleoedd am leoliadau gwaith ar gael

Diploma CMI

mewn arweinyddiaeth a rheolaeth ar ôl graddio

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein gradd BA achrededig mewn busnes gyda blwyddyn sylfaen yn caniatáu i fyfyrwyr weld sut mae gobleiddio wedi arwain at gysylltedd cynyddol rhwng busnes, marchnadoedd, pobl a gwybodaeth ar draws gwledydd. Yn ogystal â rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r gwahanol arferion rheoli busnes a geir ledled y byd.

Byddwch yn:

  • ysbrydoli eich craffter masnachol a sgiliau rheoli
  • datblygu eich sgiliau personol a phroffesiynol, byddwch yn ennill y wybodaeth a’r galluoedd, nid yn unig i ddod yn rheolwr busnes effeithiol, ond hefyd yr entrepreneuriaeth i ddatblygu eich busnes eich hun.
  • caiff pob un o’n myfyrwyr sy’n graddio hefyd yn derbyn Diploma lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan y CMI sydd â gwerth o dros £1,300 yn rhad ac am ddim.
  • ddatblygu’r wybodaeth a’r galluoedd sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus ym myd busnes modern
  • astudio modiwlau a gynlluniwyd gyda phwyslais ar faterion busnes rhyngwladol, cyfoes ac ymarferol, er mwyn sicrhau bod graddedigion yn barod ar gyfer y farchnad swyddi

Gallwch hefyd ddewis astudio'r cwrs hwn fel gradd pedair blynedd gyda blwyddyn lleoliad diwydiannol, UCAS code : TBC, neu fel gradd pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen BA (Anrh) Busnes Rhyngwladol (gyda blwyddyn sylfaen) 

Business Graduates Association logo

Prif nodweddion y cwrs

  • Ennill mewnwelediad eang i fyd busnes a rheolaeth ryngwladol gan academyddion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sydd â chyfoeth o brofiad.
  • Caffael y wybodaeth a'r sgiliau hanfodol sy'n ofynnol ar gyfer gweithio'n effeithiol ar draws gwahanol gyd-destunau cenedlaethol, mewn ystod o rolau busnes a rheoli.
  • Ennill dealltwriaeth o reolaeth ryngwladol, gweithrediadau busnes, strategaeth gorfforaethol ac adnoddau dynol.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes: Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o hanfodion busnes, gan gynnwys strwythur sefydliadau a natur gwaith busnesau modern. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ennill dealltwriaeth eang o reolaeth drwy archwilio sgiliau a nodweddion rheolwyr ac arweinwyr effeithiol, a thechnegau i reoli tîm yn llwyddiannus.
  • Cyflwyniad i Gyllid Busnes a Chyfrifeg: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau ac egwyddorion cyfoes cyfrifeg a chyllid er mwyn cryfhau gallu’r myfyrwyr yn y maes hwn. Gwneir hyn drwy ddefnyddio technegau cyfrifyddu rheoli, cyfrifyddu ariannol a rheoli ariannol perthnasol, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau ariannol gweithredol mwyaf priodol, a dadansoddi effeithiau’r penderfyniadau hynny ar berfformiad a sefyllfa ariannol cwmni.
  • Sgiliau Cyfathrebu Busnes: Nod y modiwl yw sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewnol ac allanol integredig ac effeithiol wrth feithrin perthynas gynaliadwy ag eraill a sicrhau gwerth i gwsmeriaid. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu’n effeithiol mewn lleoliadau busnes ac academaidd gan ddeall hanfodion sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu proffesiynol.
  • Deall Rheoli Adnoddau Dynol: Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl rheoli adnoddau dynol (HRM) mewn sefydliadau. Mae’r modiwl yn ymdrin â’r hanfodion canlynol ym maes rheoli AD:

- Mathau o sefydliadau sy’n gyffredin ym myd busnes
- Pwysigrwydd rheoli adnoddau dynol a rôl ymarferwyr AD
- Gweithgareddau AD mewn sefydliadau
- Effaith technoleg ar reoli adnoddau dynol

  • Hanfodion Marchnata: Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â sylweddoli pa mor bwysig yw rôl marchnata wrth yrru llwyddiant a sicrhau canlyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol swyddogaethau marchnata yn yr 21ain ganrif ac yn astudio sut y gall deall ymddygiad cwsmeriaid a’r amgylchedd marchnata alluogi targedu a chynllunio effeithiol. Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr wedi dod i ddeall y gwahanol offer sydd ar gael i’r marchnatwr modern, ac yn gallu adnabod eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain, gan eu galluogi i’w defnyddio’n greadigol ac yn effeithiol mewn cyd-destun gwaith gan gynnwys sefydliadau masnachol a’r sector di-elw.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

MODIWLAU CRAIDD

  • Strategaeth Busnes Digidol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael mantais gystadleuol ddigidol mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae rheolau busnes wedi newid ac felly nid yw hi bellach yn ddigon i gwmnïoedd fod yn well neu’n rhatach i gael mantais gystadleuol. Mae’r rheolau newydd hyn yn ei gwneud yn hanfodol i gwmnïau ailedrych ar bedair elfen sylfaenol eu busnes er mwyn ffynnu yn y cyfnod digidol, sef eu strategaeth, eu cadwyn gwerth, ymgysylltu â chwsmeriaid, a strwythur y sefydliad.
  • Arweinyddiaeth Ystwyth: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion arweinyddiaeth ystwyth a’r gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn yn y byd busnes cyfoes, er mwyn creu’r amgylchedd cywir i dimoedd ystwyth lwyddo mewn sefydliad.
  • Entrepreneuriaeth ac Arloesedd: Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr weld sut mae syniadau’n cael eu datblygu, sut mae entrepreneuriaeth yn gweithredu a dod i ddeall damcaniaethau Arloesi ac entrepreneuriaeth yng nghyd-destun busnes. Bydd yn rhoi modd i fyfyrwyr wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y gweithle drwy roi dealltwriaeth iddynt o nodweddion entrepreneuriaeth ac arloesedd a sut i fynegi’r nodweddion hyn.
  • Ymddwyn yn Broffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl: Mae’r modiwl hwn yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr ddatblygu a gwella eu sgiliau a’u hymddygiad proffesiynol craidd, gan gynnwys moeseg, gwerthoedd a phroffesiynoldeb. Bydd hyn oll yn eu helpu i feithrin cyd-berthnasau cadarnhaol yn y gweithle a gwella perfformiad, cyfranogiad a lles gweithwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddeall datblygiad proffesiynol parhaus a nodi anghenion datblygu.
  • Busnes a Masnach Ryngwladol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion busnes a masnach ryngwladol a’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn i’r byd busnes rhyngwladol cyfoes. Mae’r modiwl yn esbonio prif gysyniadau, egwyddorion a swyddogaethau busnes rhyngwladol a globaleiddio ac yn cymhwyso heriau diwylliant busnes rhyngwladol i sefyllfaoedd masnachol realistig. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth ymarferol o’r system ariannol fyd-eang a gwerthuso damcaniaethau masnach ryngwladol o ran y canlyniadau masnachol. Bydd strategaeth fusnes ryngwladol hefyd yn cael ei hasesu a’i chymhwyso gan ystyried y canlyniadau masnachol.

MODIWLAU DEWISOL

  • Technegau Marchnata Digidol: Mae’r modiwl hwn yn astudio natur cysyniadau marchnata digidol wrth iddynt esblygu a’r defnydd o dechnegau digidol mewn sefydliadau. Mae tair uned i’r modiwl: mae’r uned gyntaf yn ymwneud â deall, defnyddio ac asesu offer a thechnegau digidol; mae’r ail uned yn ymwneud â datblygu gwybodaeth i ddefnyddio prosesau marchnata digidol integredig, er mwyn gwella ymgysylltiad y sefydliad â rhanddeiliaid; ac mae’r drydedd uned yn ymwneud â datblygu a gwerthuso cynlluniau marchnata digidol.
  • Rheoli Atyniadau Rhyngwladol i Ymwelwyr: Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr ynghylch datblygu a rheoli atyniadau ymwelwyr. Cyflwynir natur benodol amrywiaeth o atyniadau i ddangos yr amrywiaeth o ofynion rheoli sydd eu hangen i sicrhau cynnal yr atyniad a sicrhau bod anghenion ymwelwyr yn cael eu bodloni. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o atyniadau naturiol a rhai wedi’u creu gan ddyn ledled y byd ac yn rhoi dealltwriaeth ddofn o faterion llywodraethu, marchnata a gweithredu wrth agor atyniadau i’r cyhoedd ar yr un pryd â chynnig profiad o safon i ymwelwyr.

BLWYDDYN 3 (LLEOLIAD DIWYDIANT)

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

MODIWLAU CRAIDD

  • Rheolaeth Strategol: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno dull systematig o astudio rheolaeth strategol, gan adeiladu ar amrywiaeth o syniadau a damcaniaethau a’r rheiny yn amrywio o ddamcaniaeth sefydliadau diwydiannol i economeg sefydliadol. Mae’r uned hon yn amlinellu hanfodion rheolaeth strategol ac yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i’r maes pwysig hwn o reoli busnes. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y materion perthnasol a’r technegau y mae rheolwyr yn eu defnyddio. Bydd yr offer a’r technegau yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae sefydliadau yn sicrhau mantais gystadleuol sy’n gynaliadwy.
  • Rheoli Cynaliadwyedd Rhyngwladol: Nod y modiwl yw codi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr o ystyr cynaliadwyedd mewn ystyr fyd-eang, ond yn enwedig yng nghyd-destun busnes. Bydd y modiwl yn ymchwilio i dair colofn cynaliadwyedd ac yn gwerthuso ac yn asesu’n feirniadol brif egwyddorion a damcaniaethau rheoli cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy ledled y byd. Caiff rôl cynaliadwyedd mewn sefydliadau ei gwerthuso yn ogystal â chyfraniad cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy byd-eang i ganlyniadau ehangach sefydliadau.
  • Rheoli Pobl mewn Cyd-destun Rhyngwladol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o reoli pobl mewn cyd-destun rhyngwladol. Rhan o’r modiwl hwn fydd astudio effaith amgylchiadau cenedlaethol a diwylliannol, dulliau rheoli adnoddau dynol yn rhyngwladol (IHRM) yn ogystal â dyfodol y maes hwn.
  • Traethawd hir: Nod y modiwl traethawd hir yw cael myfyrwyr i ddangos eu bod yn gallu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ganddynt ym mhob llwybr yn y rhaglen astudio israddedig, a’u cymhwyso mewn modd annibynnol a hunanysgogol wrth ymholi a datrys problemau. Drwy hyn, byddant yn ymestyn, yn ategu ac yn gwella eu dysg drwy nodi problem busnes/rheoli naill ai mewn busnes, cyfrifeg a chyllid, Rheoli Lletygarwch, Twristiaeth ac Adloniant, Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata neu unrhyw faes arall sy’n gysylltiedig â busnes sy’n gofyn am ymchwil ddamcaniaethol, casglu data strwythuredig a dadansoddi’r data hwnnw er mwyn arwain at gasgliadau ac argymhellion.

MODIWLAU DEWISOL

  • Marchnata Strategol: Nod y modiwl hwn yw adeiladu ar y sylfeini marchnata a astudiwyd yn flaenorol ac mae’n mynd ati mewn camau i astudio natur marchnata strategol sy’n cyfrannu at sicrhau mantais gystadleuol. Bydd yn cyflwyno’r agweddau ehangach ar farchnata strategol sy’n adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn eiriolaeth a moeseg.
  • Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi Ryngwladol: Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o reoli cadwyn gyflenwi yn rhyngwladol. I’r perwyl hwn, mae’n galluogi myfyrwyr i fynd ati’n feirniadol i werthuso caffael mewn ffordd wahanol, trefniadau cytundebol a phrosesau cadwyn gyflenwi o ran mewnbynnau, offer, technegau ac allbynnau. Mae hefyd yn cynorthwyo i ddysgu dadansoddi problemau a datblygu atebion creadigol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwyntiau tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol, o leiafswm o ddau Lefel A a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar radd C/4 neu gyfatebol. Bydd cymwysterau Sgiliau Allweddol Lefel UG a Lefel 3 hefyd yn cael eu hystyried.

Addysgu ac Asesu

Caiff myfyrwyr eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd wrth gwblhau eu hastudiaethau israddedig. Caiff y cydbwysedd rhwng ffurfiau gwahanol asesu ei bennu gan nodau a deilliannau gwahanol y modiwlau craidd a dewisol. Mae dulliau asesu’n cynnwys traethodau academaidd, cyflwyniadau, adroddiadau, ymarferion efelychu ac arholiadau.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae ein gradd busnes rhyngwladol yn agor amrywiaeth o yrfaoedd a gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio eu gwybodaeth i ryngwladoli eu syniadau busnes eu hunain. Mae gyrfaoedd penodol yn cynnwys:

  • Cynghorydd Busnes
  • Dadansoddwr Busnes
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Swyddog Gweithredol Marchnata
  • Banciwr Buddsoddi Corfforaethol

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Person sat on a laptop

Busnes ymMhrifysgol Wrecsam