A fine art student paints the finishing touches onto her work

Manylion cwrs

Côd UCAS

W100

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Course Highlights

Gofod stiwdio o safon uchel

mewn lleoliad ysgol gelf draddodiadol

Cysylltiadau cryf

gydag orielau a mannau arddangos

Dewiswch eich cyfeiriad eich hun

wrth ichi ddatblygu eich ymarfer

Pam dewis y cwrs hwn?

Cewch archwilio lluniadu, peintio, cerflunio, celf gosod, cyfryngau fideo a lens a chreu printiau, ac yna cymryd y cyfle i arbenigo, cyfuno meysydd neu barhau gyda sail eang gyda’r radd agored, greadigol hon.

Byddwch yn:

  • gallu datblygu fel artist creadigol annibynnol gyda chyfleoedd i ymgymryd â gwaith wedi’i gomisiynu, arddangos eich gwaith mewn arddangosiadau a chystadlu mewn cystadlaethau
  • datblygu eich ymarfer celf weledol unigol eich hun a dysgu sut i ddefnyddio sgiliau yn broffesiynol a dewis deunyddiau i fynegi eich syniadau
  • mwynhau gofod stiwdio broffesiynol wedi ei lleoli mewn amgylched Ysgol Gelf draddodiadol, gan ganiatáu ichi archwilio eich syniadau drwy wneud
  • astudio mewn grwpiau bach eu maint gyda chymorth unigol
  • elwa o gysylltiadau cryf gydag ystod o orielau a mannau arddangos eraill yng Nghymru a gweddill y DU
  • cael cyfle i astudio dramor neu gymryd rhan mewn prosiectau gydag elfen ryngwladol
  • cael eich annog i arddangos eich gwaith
  • ennyn gwybodaeth gan artistiaid gwadd uchel eu proffil

Gallwch ddewis astudio’r cwrs hwn heb flwyddyn sylfaen BA (Anrh) Celfyddyd Gain, Cod UCAS: W000

Art student painting

Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Yn cynnwys blwyddyn sylfaen i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach
  • Mae ein gofodau stiwdio yn fywiog ac wedi eu lleoli mewn amgylchedd Ysgol Gelf draddodiadol, gan ganiatáu i fyfyrwyr archwilio eu syniadau drwy wneud.
  • Grwpiau bach eu maint gyda chymorth unigol
  • Mae ein tiwtoriaid profiadol yn frwdfrydig am eu pynciau, ac yn aml yn creu ac arddangos eu gwaith eu hunain, yn genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal ag ysgrifennu am ymarfer celf mewn llyfrau a chyfnodolion.
  • Mae gennym gysylltiadau cryf gydag ystod o orielau a mannau arddangos eraill yng Nghymru a gweddill y DU.
  • Cyfleoedd i astudio dramor neu gymryd rhan mewn prosiectau gydag elfen ryngwladol
  • Byddwch yn rhan o arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - edrychwch ar e-gylchgrawn Sioe Radd 2022, Unjammed.
  • Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i arddangos eu gwaith ac ennyn gwybodaeth gan artistiaid gwadd uchel eu proffil.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Mae lefel 4 o’r rhaglen yn darparu sylfaen eang sy’n eich cyflwyno i ddulliau dysgu a chyfryngau celfyddydol amrywiol. Canolbwyntir ar feithrin sgiliau technegol craidd, ynghyd â datblygiad cysyniadol, hanfodion cyd-destunol, y gallu i gyfathrebu ac ymarfer annibynnol. Mae’r sylfaen hon yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu deheurwydd ymarferol a meddwl beirniadol ar gyfer bwrw ymlaen â’u gradd.

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Ymarfer Celfyddyd Gain
  • Y Stiwdio Estynedig
  • Datblygu eich Hunaniaeth Artistig 1 
  • Cyd-destunau 1

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Yn ystod y flwyddyn hon, bydd y modiwlau’n datblygu eich hanfodion cyd-destunol, eich galluoedd o ran myfyrio beirniadol, cymryd risgiau, a’ch gallu i gyfathrebu. Bydd y sylw ar esblygu iaith weledol bersonol, ynghyd â lleoli eich ymarfer o safbwynt proffesiynol trwy gyfranogiad cyhoeddus.

MODIWLAU

  • Lleoli Ymarfer ym Maes Celfyddyd Gain
  • Datblygu Ymarfer ym Maes Celfyddyd Gain
  • Datblygu eich Hunaniaeth Artistig 2
  • Cyd-destunau 2

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Mae modiwlau’r flwyddyn olaf yn rhoi’r pwyslais ar archwiliadau hunangyfeiriedig a fydd yn diweddu mewn casgliadau terfynol o waith, gan ysgrifennu i fynegi mewnwelediadau, a lleoli ymarfer o safbwynt proffesiynol trwy gyfrwng gwaith hyrwyddol a rhwydweithiau. Ceir pwyslais ar gynnal llwybrau creadigol y tu hwnt i raddio.

MODIWLAU

  • Ymarfer Celfyddyd Gain ar Ffurf Ymchwil
  • Cyflwyno’r Hyn a Ymarferwyd i Gynulleidfa

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS ond mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol a byddwn yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.

Mae tîm y rhaglen Celfyddyd Gain yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n gallu dangos ymrwymiad i’r pwnc a’r potensial i gwblhau’r rhaglen o’u dewis yn llwyddiannus. Gellir sefydlu hyn drwy ddangos cyraeddiadau academaidd priodol neu drwy ddangos fod ganddynt y wybodaeth a’r gallu sydd yn cyfateb i’r cymwysterau academaidd.

Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Bydd pob ymgeisydd naill ai’n cael eu cyfweld yn unigol neu eu gwahodd i ddiwrnod ymgeiswyr ble bydd ganddynt gyfle i ddangos portffolio o’u gwaith.

Gall profiad hefyd gael ei ystyried, yn enwedig ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth o’r pwnc.

Addysgu ac Asesu

Mae’r rhan helaeth o’r gwaith yn cael ei wneud yn y stiwdio/gweithdy ac yn ymarferol ei natur gyda darlithoedd, areithiau gan siaradwyr gwadd, arddangosiadau, tiwtorialau, seminarau a beirniadaethau yn cefnogi hyn. Mae’r asesu yn barhaus, ac mae yna gyfres o aseiniadau sydd wedi eu gosod a’u dewis (yn unigol a chan dîm) ble mae myfyrwyr yn dysgu ystod o sgiliau a thechnegau a’u rhoi ar waith yn greadigol i ddatrys problemau celf a dylunio.

Mae’r asesu wedi ei ddylunio i alluogi myfyrwyr i fod yn rhan o’r broses o fesur eu cynnydd eu hunain, gyda nodau amlwg yn cael eu darparu ar ddechrau pob modiwl, adborth rheolaidd a rhyngweithio mewn grwpiau gyda dadansoddiad beirniadol gydol y cwrs, gan roi’r cyfleoedd y mae myfyrwyr eu hangen i lwyddo.

Mae prifysgol Wrecsam Glyndŵr wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o'u potensial academaidd.

Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae gan Gelfyddyd Gain, fel ein holl raglenni israddedig Celf a Dylunio, ethos galwedigaethol ac academaidd cryf â'r nod o sicrhau bod graddedigion yn datblygu ystod o fedrau galwedigaethol perthnasol. Yn rhan annatod o'r ethos hwn yw'r cyfrifoldeb i sicrhau fod gan ein graddedigion bortffolio o alluoedd a rhinweddau fydd yn eu galluogi i ffynnu yn y gweithle yn yr 21ain Ganrif. Mae'n ystyried y ffaith bod anghenion y diwydiannau creadigol yn y dyfodol yn debygol o fod yn wahanol iawn, a'r nod yw paratoi 'dysgwyr annibynnol' sydd, ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn gallu ffynnu o fewn cyd-destunau proffesiynol fwyfwy amrywiol.

Rydym yn ymfalchïo yn y lefel uchel o brofiad realistig ac ymarferol o weithio yn yr amgylchedd creadigol proffesiynol y gallwch ei gael ar y rhaglen. Anogir myfyrwyr i gychwyn, trefnu a chymryd rhan mewn prosiectau oddi ar y safle a chymryd rhan mewn cyfleoedd proffesiynol gan gynnwys gweithgareddau masnachol sydd â'r potensial i lansio eu gyrfa ym maes Celfyddyd Gain.

Mae llawer o raddedigion Celfyddyd Gain yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn: 

  • Ymarfer celf annibynnol 
  • Cadwraeth celfyddyd gain  
  • Addysgu mewn addysg bellach neu uwch   
  • Addysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd 
  • Gweithio mewn oriel neu fathau eraill o waith arddangosfa 
  • Celfyddydau cyhoeddus neu gymunedol  
  • Fel swyddogion addysg 
  • Therapyddion celf 
  • Ymchwilwyr 
  • Asiantau i artistiaid 
  • Technegwyr  
  • Ym maes rheoli celfyddydol 

Mae llawer o raddedigion Celf Gain yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd yn

  • rheoli'r celfyddydau
  • ymarfer curadurol
  • hwyluso celfyddydau cyhoeddus neu gymunedol
  • therapi celf
  • ymarfer celf annibynnol
  • cadwraeth celf gain
  • addysgu mewn addysg bellach neu uwch
  • addysgu mewn ysgolion cynradd neu uwchradd
  • ymchwil sy'n seiliedig ar ddiwylliant
  • timau technegol oriel/digwyddiadau
  • beirniadaeth gelf

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.