A fine art student paints the finishing touches onto her work

Manylion cwrs

Côd UCAS

W000

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Gofod stiwdio o safon uchel

mewn lleoliad ysgol gelf draddodiadol

Cysylltiadau cryf

gydag orielau a mannau arddangos

Dewiswch eich cyfeiriad eich hun

wrth ichi ddatblygu eich ymarfer

Pam dewis y cwrs hwn?

Cewch archwilio lluniadu, peintio, cerflunio, celf gosod, cyfryngau fideo a lens a chreu printiau, ac yna cymryd y cyfle i arbenigo, cyfuno meysydd neu barhau gyda sail eang gyda’r radd agored, greadigol hon.

Byddwch yn:

  • gallu datblygu fel artist creadigol annibynnol gyda chyfleoedd i ymgymryd â gwaith wedi’i gomisiynu, arddangos eich gwaith mewn arddangosiadau a chystadlu mewn cystadlaethau
  • datblygu eich ymarfer celf weledol unigol eich hun a dysgu sut i ddefnyddio sgiliau yn broffesiynol a dewis deunyddiau i fynegi eich syniadau
  • mwynhau gofod stiwdio broffesiynol wedi ei lleoli mewn amgylched Ysgol Gelf draddodiadol, gan ganiatáu ichi archwilio eich syniadau drwy wneud
  • astudio mewn grwpiau bach eu maint gyda chymorth unigol
  • elwa o gysylltiadau cryf gydag ystod o orielau a mannau arddangos eraill yng Nghymru a gweddill y DU
  • cael cyfle i astudio dramor neu gymryd rhan mewn prosiectau gydag elfen ryngwladol
  • cael eich annog i arddangos eich gwaith
  • ennyn gwybodaeth gan artistiaid gwadd uchel eu proffil.

Gallwch ddewis astudio’r cwrs hwn gyda blwyddyn sylfaen BA (Anrh) Celfyddyd Gain (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen) Cod UCAS: W100

Art student painting

Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae ein gofodau stiwdio yn fywiog ac wedi eu lleoli mewn amgylchedd Ysgol Gelf draddodiadol, gan ganiatáu i fyfyrwyr archwilio eu syniadau drwy wneud.
  • Grwpiau bach eu maint gyda chymorth unigol
  • Mae ein tiwtoriaid profiadol yn frwdfrydig am eu pynciau, ac yn aml yn creu ac arddangos eu gwaith eu hunain, yn genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal ag ysgrifennu am ymarfer celf mewn llyfrau a chyfnodolion.
  • Mae gennym gysylltiadau cryf gydag ystod o orielau a mannau arddangos eraill yng Nghymru a gweddill y DU.
  • Cyfleoedd i astudio dramor neu gymryd rhan mewn prosiectau gydag elfen ryngwladol
  • Byddwch yn rhan o arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - edrychwch ar e-gylchgrawn Sioe Radd 2022, Unjammed.
  • Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i arddangos eu gwaith ac ennyn gwybodaeth gan artistiaid gwadd uchel eu proffil.
  • *astudio cwrs sydd yn 2il yng Nghymru yn nhabl cynghrair pynciau Celfyddyd Gain yn Guardian University Guide 2023.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae lefel 4 y rhaglen yn rhoi cyfle yn y lle cyntaf ichi archwilio amrywiaeth o weithgareddau arbenigol a gynigir o fewn Celfyddyd Gain fel rhagymadrodd eang ei sail. Byddwch yn archwilio sut mae artistiaid yn prosesu syniadau drwy gyfuniad o wneud  gwerthuso beirniadol gan ddysgu cysylltu eich profiadau gyda rhai artistiaid eraill  

MODIWLAU:

  • Hanes a Chyd-destun
  • Dyfodol Creadigol 1
  • Cyfathrebu Gweledol
  • Cyfryngau a Thechnegau (Celfyddyd Gain)
  • Syniadau a Chysyniadau
  • Iaith ac Ymarfer.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Yn y flwyddyn hon, mae modiwlau yn galluogi myfyrwyr i atgyfnerthu ac ehangu eu dysg gyda thechnegau a phrosesau uwch sydd yn eu herio i arbrofi gydag amrywiaeth o gyfryngau a dulliau cyfathrebu. Mae gennych y cyfle i archwilio’r meysydd o ymarfer Celfyddyd Gain sydd o’r diddordeb mwyaf ichi, mewn gweithdai dan arweiniad ymarferwyr medrus sydd yn y gweithio yn y maes. Wedi datblygu ymwybyddiaeth o’r hyn sydd yn bosib, gallwch yna ddewis arbenigo mewn maes ymarfer sefydledig megis lluniadu, peintio, fideo, cyfryngau digidol, cerflunwaith, neu wneud printiau neu fabwysiadu agwedd rhyngddisgyblaethol. 

MODIWLAU:

  • Meddwl yn Greadigol
  • Dyfodol Creadigol: Gwneud Bywoliaeth
  • Deunydd, Ffurf a Chynnwys
  • Ymarfer Celfyddyd Weledol (Celfyddyd Gain)
  • Astudiaeth Arbenigol (Celfyddyd Gain)

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Mae modiwlau’r flwyddyn olaf yn gofyn am astudiaethau mwy beirniadol, dadansoddol a hirach a negodwyd, ble gall myfyrwyr bennu eu llwybr gyrfa eu hunain a chael y cyfle i negodi cynllun blwyddyn sydd yn gosod mwy o gyfrifoldeb arnynt dros ba brosiectau maent yn ymgymryd â hwy. Caiff hyn ei fonitro’n agos drwy feirniadaethau, seminarau a thiwtorialau rheolaidd.

MODIWLAU:

  • Traethawd Estynedig
  • Dyfodol Creadigol 3
  • Ymarfer a Negodwyd (Celfyddyd Gain)
  • Prosiect Gradd Celfyddyd Gain

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion mynediad safonol ar gyfer BA (Anrh) yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar TAR Safon Uwch neu gyfatebol.

Mae tîm y rhaglen Celfyddyd Gain yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n gallu dangos ymrwymiad i’r pwnc a’r potensial i gwblhau’r rhaglen o’u dewis yn llwyddiannus. Gellir sefydlu hyn drwy ddangos cyraeddiadau academaidd priodol neu drwy ddangos fod ganddynt y wybodaeth a’r gallu sydd yn cyfateb i’r cymwysterau academaidd.

Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Bydd pob ymgeisydd naill ai’n cael eu cyfweld yn unigol neu eu gwahodd i ddiwrnod ymgeiswyr ble bydd ganddynt gyfle i ddangos portffolio o’u gwaith.

Gall profiad hefyd gael ei ystyried, yn enwedig ar gyfer yr ymgeiswyr hynny nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth o’r pwnc.

Addysgu ac Asesu

Mae’r rhan helaeth o’r gwaith yn cael ei wneud yn y stiwdio/gweithdy ac yn ymarferol ei natur gyda darlithoedd, areithiau gan siaradwyr gwadd, arddangosiadau, tiwtorialau, seminarau a beirniadaethau yn cefnogi hyn. Mae’r asesu yn barhaus, ac mae yna gyfres o aseiniadau sydd wedi eu gosod a’u dewis (yn unigol a chan dîm) ble mae myfyrwyr yn dysgu ystod o sgiliau a thechnegau a’u rhoi ar waith yn greadigol i ddatrys problemau celf a dylunio.

Mae’r asesu wedi ei ddylunio i alluogi myfyrwyr i fod yn rhan o’r broses o fesur eu cynnydd eu hunain, gyda nodau amlwg yn cael eu darparu ar ddechrau pob modiwl, adborth rheolaidd a rhyngweithio mewn grwpiau gyda dadansoddiad beirniadol gydol y cwrs, gan roi’r cyfleoedd y mae myfyrwyr eu hangen i lwyddo.

Mae prifysgol Wrecsam Glyndŵr wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o'u potensial academaidd. 

Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Rhagolygon gyrfaol

Mae gan Gelfyddyd Gain, fel ein holl raglenni israddedig Celf a Dylunio, ethos galwedigaethol ac academaidd cryf â'r nod o sicrhau bod graddedigion yn datblygu ystod o fedrau galwedigaethol perthnasol. Yn rhan annatod o'r ethos hwn yw'r cyfrifoldeb i sicrhau fod gan ein graddedigion bortffolio o alluoedd a rhinweddau fydd yn eu galluogi i ffynnu yn y gweithle yn yr 21ain Ganrif. Mae'n ystyried y ffaith bod anghenion y diwydiannau creadigol yn y dyfodol yn debygol o fod yn wahanol iawn, a'r nod yw paratoi 'dysgwyr annibynnol' sydd, ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn gallu ffynnu o fewn cyd-destunau proffesiynol fwyfwy amrywiol.

Rydym yn ymfalchïo yn y lefel uchel o brofiad realistig ac ymarferol o weithio yn yr amgylchedd creadigol proffesiynol y gallwch ei gael ar y rhaglen. Anogir myfyrwyr i gychwyn, trefnu a chymryd rhan mewn prosiectau oddi ar y safle a chymryd rhan mewn cyfleoedd proffesiynol gan gynnwys gweithgareddau masnachol sydd â'r potensial i lansio eu gyrfa ym maes Celfyddyd Gain.

Mae llawer o raddedigion Celfyddyd Gain yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn: 

  • Ymarfer celf annibynnol 
  • Cadwraeth celfyddyd gain  
  • Addysgu mewn addysg bellach neu uwch   
  • Addysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd 
  • Gweithio mewn oriel neu fathau eraill o waith arddangosfa 
  • Celfyddydau cyhoeddus neu gymunedol  
  • Fel swyddogion addysg 
  • Therapyddion celf 
  • Ymchwilwyr 
  • Asiantau i artistiaid 
  • Technegwyr  
  • Ym maes rheoli celfyddydol 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl Pentref Wrecsam.