BA (Anrh)  Celfyddyd Gymhwysol (gyda blwyddyn sylfaen)

Students sitting in a workshop, hand modelling ceramics

Manylion cwrs

Côd UCAS

W202

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Course Highlights

Cysylltiadau cryf

ag orielau a sefydliadau masnachol

1af yn y DU

ar gyfer yr addysgu ar fy nghwrs (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

Y 10 uchaf yn y DU

a 1af allan o brifysgolion Cymru am foddhad cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

Pam dewis y cwrs hwn?

Datblygwch eich sgiliau deunyddiau a dylunio gan ddefnyddio gwydr, cerameg, metel, gemwaith a chyfryngau cymysg. Mae'r cwrs Celfyddyd Gymhwysol hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau crefft o ansawdd uchel sydd eu hangen i fod yn grëwr proffesiynol.

  • Rydym yn annog creadigrwydd, arloesedd a sgiliau entrepreneuraidd i gynhyrchu graddedigion a all gyfuno eu sgiliau cysyniadol a thechnegol mewn Celfyddydau Cymhwysol gyda'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i fod yn wneuthurwr llwyddiannus.
  • Gosodir pwyslais cryf ar iaith dylunio drwy archwilio a mynegi syniadau a defnyddio deunyddiau, prosesau ac ymarferion.
  • Mae ein cyrsiau'n hybu sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r agweddau proffesiynol o ymarfer ac yn annog defnydd arloesol a rhyngddisgyblaethol o gyfryngau a deunyddiau. Mae yna hefyd bwyslais cryf ar ddatbygu sgiliau rhyngbersonol drwy brosiectau ar y cyd a gwaith tîm.
  • *Astudiwch gwrs sy’n rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn safle 1af yn y DU am addysgu ar fy nghwrs ac yn 6ed yn y DU ac yn 1af allan o brifysgolion Cymru am boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Gallwch chi hefyd ddewis astudio'r cwrs hwn fel rhaglen dros dair blynedd heb y flwyddyn sylfaen BA (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol Cod UCAS: W202 

 

Art student painting

Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Yn cynnwys blwyddyn sylfaen i'ch paratoi ar gyfer blynyddoedd pellach o astudio.
  • Cysylltiadau masnachol da a chysylltiadau gwych gydag orielau, gyda'r ffocws ar sgiliau crefft i'ch galluogi i ddod yn wneuthurwyr o'r radd flaenaf.
  • Mae pwyslais yn cael ei osod ar ddatblygu'ch sgiliau busnes mewn ardaloedd megis prisio, cyhoeddusrwydd a marchnata; cawn ein canmol gan arholwyr allanol am barodrwydd ein myfyrwyr ar gyfer bywyd proffesiynol.
  • Cewch eich addysgu gan dîm ymroddedig o ymarferwyr ymchwil-weithredol sy’n arddangos eu gwaith eu hunain yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Gweithio ar brosiectau byw, arddangosfeydd, cystadleuthau a chomisiynau ar gyfer cleientiaid cyhoeddus a phreifat; bydd hyn yn rhoi’r hyder i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, er enghraifft, wrth fynd â’ch gwaith i orielau a llefydd manwerthu.
  • Byddwch yn rhan o arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - edrychwch ar e-gylchgrawn Sioe Radd 2022, Unjammed.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Bydd y flwyddyn sylfaen yn eich cyflwyno i brif elfennau celf a dylunio, gan gynnwys ymarfer dylunio, celf gymhwysol a chelf gain. Byddwch yn archwilio'r broses meddwl yn greadigol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o ddisgyblaethau celf a dylunio, gan ddatblygu'ch gallu i drosglwyddo'ch syniadau ar bapur yn gyflym.  Bydd ystod o aseiniadau ymarferol a fydd yn cynyddu'ch adnabyddiaeth o syniadau cadarn a chysyniadau gwreiddol.

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Gelf a Dylunio
  • Cyflwyniad i Gelf Gymhwysol
  • Cyflwyniad i Gelf Gain
  • Meddwl yn Greadigol
  • Y Sgiliau Syss Arnoch eu Hangen

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Yn eich cyflwyno i'r ystod eang o ddeunyddiau a thechnegau mewn Celfyddydau Cymhwysol, lle cewch y cyfle i weithio ar draws yr holl feysydd deunyddiau, gan arbrofi gyda gwydr, cerameg, metel a chyfryngau cymysg.

MODIWLAU

  • Hanes a Chyd-destun
  • Dyfodol Creadigol 1
  • Cyfathrebu Gweledol
  • Archwiliad Deunydd
  • Prosesau Crefft
  • Deunydd a Iaith

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Estyn eich sgiliau creu yn eich prif ddewis deunyddiau, gan ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn am ddeunyddiau sgiliau crefft sy'n eich galluogi i ddatblygu eich arddull creadigol eich hunan. Datblygir y prif sgiliau proffesiynol sef deall marchnadoedd, cyhoeddusrwydd a phrisio trwy brosiectau ymarferol.

MODIWLAU

  • Meddwl yn Feirniadol
  • Dyfodol Creadigol: Ennill Bywoliaeth
  • Ymarfer Estynedig (Celfyddydau Cymhwysol)
  • Ymarfer Celf
  • Ymarfer mewn Cyd-destun
  • Astudiaeth Arbenigol (Celfyddydau Cymhwysol)

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Yn eich galluogi i wireddu'ch syniadau yn y cyfeiriad o'ch dewis, gyda myfyrwyr yn datblygu eu themâu unigol eu hunain i gynhyrchu casgliadau, gan ddangos sgiliau gwneud a datrysiadau dylunio arloesol o ansawdd uchel.

MODIWLAU

  • Traethawd Hir
  • Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
  • Ymarfer Wedi'i Drafod
  • Prosiect Gradd Celf Gymhwysol

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Côd UCAS: W202

Y gofynion academaidd ar gyfer BA  (Anrh) Celfyddydau Cymhwysol (pedair blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS.  Rydym hefyd yn ystyried unrhyw brofiad gwaith sydd gennych a allai fod yn berthnasol i gwrs penodol.

Mae tîm y rhaglen Celfyddydau Cymhwysol yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.

Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith, Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. 

Os byddwch chi wedi astudio mewn gwlad Ewropeaidd arall, edrychwch ar y Gofynion Mynediad ar gyfer eich cymhwyster.

Addysgu ac Asesu

Asesir yn bennaf trwy waith ymarferol a gwaith dylunio megis maquettes, llyfrau braslunio, samplau, a gwrthrychau gorffenedig. Cyflwynir y gwaith i diwtoriaid, a rhoddir adborth llafar ar unwaith, wedi’i ddilyn gan atborth ysgrifenedig mwy eang.

Fe’ch asesir ar gyfer pob modiwl. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i fonitro cynnydd a gellir eu cynnal unrhyw adeg. Mae’r rhain yn cynnwys graddoli band, ynghyd â sylwadau arfarnol a thiwtorial adborth os yn briodol. Ni chwblheir y graddoli tan ddiwedd y flwyddyn, pan fydd gwaith yn cael ei adolygu a’i safoni gan arholwr allanol.

Yr oriau cyswllt yw 16 awr yr wythnos yn Lefel 4, 14 awr yr wythnos yn Lefel 5, a 12 awr yr wythnos yn Lefel 6.  Mae cyfleusterau'r gweithdai ar agor ac wedi eu staffio 5 niwrnod yr wythnos ac mae gan fyfyrwyr fynediad parhaus.

DYSGU AG ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyrywyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael. 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cynogor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae galw mawr o hyd am ddylunwyr a all ymateb yn greadigol i broblemau celf a dylunio cymhwysol.

Mae gan ein graddedigion yrfaoedd mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys addysg, gwaith adfer, amgueddfeydd a manwerthu. Mae cyfran uchel yn mynd mlaen i weithio mewn neu sefydlu eu horielau eu hunain.

Mae'r radd hon yn eich dysgu i fod yn wneuthurwr dylunwyr medrus iawn, gan ddefnyddio sgiliau crefft traddodiadol i greu gwrthrychau i'w harddangos a'u gwerthu. Ochr yn ochr â'r sgiliau ymarferol y byddwch yn eu dysgu, bydd y cwrs yn datblygu eich dealltwriaeth o'r sgiliau busnes craidd sydd eu hangen fel gwneuthurwr proffesiynol, gyda chyfleoedd i ddangos eich gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau a gwerthu i'r cyhoedd. 

Mae gradd mewn Celf Gymhwysol yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i raddedigion yn y dyfodol. Mae swyddi'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

  • Gwneuthurwr Annibynnol
  • Perchennog Busnes Creadigol 
  • Gof Arian 
  • Gemydd 
  • Ceramegydd 
  • Gof 
  • Curadur Oriel
  • Athro 

Mae yna hefyd opsiynau ar gyfer astudio pellach gan gynnwys ein MA Ymarferydd Celf Broffesiynol, MA Ymarfer Celf Rhyngddisgyblaethol a chyrsiau TAR. 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.