BSc (Anrh) Cyfrifiadura
Manylion cwrs
- Côd UCASI674
- Blwyddyn mynediad 2023, 2024
- Hyd y cwrs 3 BL (llawn-amser) 6 BL (rhan-amser)
- Tariff UCAS 80-112
- Côd y sefydliad G53
- Lleoliad Wrecsam

Course Highlights
1af yng Nghymru
am foddhad ag addysgu (The Guardian University Guide 2022)
2il yn y DU
am foddhad cwrs (The Guardian University Guide 2022)
4ydd yn y DU
am profiad myfyrwyr (Times and Sunday Times Good University Guide 2022)
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae galw mawr am arbenigwyr cyfrifiadura am fod technoleg bellach chwarae rôl ym mron popeth a wnawn. Mae ein gradd cyfrifiadura yn cyfuno egwyddorion craidd y maes ynghyd ag ymagwedd flaengar tuag groesawu a sbarduno datblygiadau newydd.
Bydd myfyrwyr yn:
- Cael eu paratoi ar gyfer gyrfa mewn diwydiant cyffrous gyda sgiliau y mae llawer yn chwilio amdanynt mewn rhaglennu cyfrifiadurol, datblygu cronfeydd data, rhwydweithio, datblygu gwefannau a chynllunio systemau gwybodaeth.
- Datblygu sgiliau ymarferol sydd yn ddefnyddiol mewn unrhyw faes busnes, megis datrys problemau, gwaith tîm, rheoli prosiect a sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth yn effeithiol a deal meddalwedd arbenigol.
- Ennill profiad ymarferol drwy leoliadau gwaith a gweithio ar brosiectau go iawn.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad ag addysgu ac yn ail yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad gyda’r cwrs yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth, The Guardian University Guide 2022.
- *Astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadura, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.

Prif nodweddion y cwrs
- Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Gymdeithas Cyfrifaduron Prydain.
- Mae’r cwrs hwn yn ymateb i fylchau sgiliau adnabyddedig, gan roi’r ddealltwriaeth, y wybodaeth, a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth lwyddiannus.
- Mae Cynllunio Datblygiad Personol wedi'i integreiddio trwy’r cwrs cyfan er mwyn datblygu'r fframwaith sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli effeithiol yn bersonol, yn academaidd ac o ran gyrfa.
- Mae’r Brifysgol yn gartref i ARCLab (Labordai ar gyfer Ymchwil Gymhwysol mewn Cyfrifiadura), sydd yn arbenigo mewn ymchwil ym maes Cyfrifiadura a Gwyddor Gyfrifiadurol.
- Labordai TG ar eu newydd wedd.
- Lleoliad i’r gynhadledd ymchwil rhyngrwyd a gynheli pob yn ddwy flynedd sydd yn denu cynrychiolwyr o bob cwr o’r byd.
- Mae’r Flwyddyn Lleoliad Diwydiannol opsiynol yn rhoi cyfle i brofi’r gweithle ac ennill profiad gwerthfawr i’r dyfodol.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad ag addysgu ac yn ail yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad gyda’r cwrs yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth, The Guardian University Guide 2022.
- *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadura, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Mae Lefel 4 yn cynnwys deunydd sylfaenol hanfodol sydd yn berthnasol i bob un o’n rhaglenni cyfrifiadura. Byddwch yn dysgu sgiliau sy’n benodol i’r pwnc ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd.
Gyda chefnogaeth eich tiwtoriaid, byddwch yn dysgu am rai o’r ffeithiau, cysyniadau, egwyddorion a damcaniaethau hanfodol sy’n berthnasol i gyfrifiadura a chymwysiadau cyfrifiadurol. Byddwch yn gallu arddangos gwybodaeth ymarferol am rai o’r offer, arferion a methodolegau a ddefnyddir i lunio manylebau, dylunio, gweithredu a phrofi systemau meddalwedd cyfrifiadurol.
MODIWLAU
- Systemau Cyfrifiadurol
- Rheoli Data
- Datrys Problemau gyda Rhaglennu
- Peirianneg Gwybodaeth a Systemau
- Dylunio a Datblygu Gwefannau
- Datblygu Asedau Gêm
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Yn lefel 5 byddwch yn parhau i ddysgu hanfodion y ddisgyblaeth, gyda modiwlau mwy arbenigol yn dechrau cael eu cyflwyno. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect grŵp lle byddwch yn datblygu sgiliau pwysig mewn technegau rheoli prosiectau a materion proffesiynol a moesegol rheoli prosiect. Byddwch hefyd yn dyfnhau eich gwybodaeth o gysyniadau a dulliau rhaglennu yn ogystal â chael cyflwyniad i dechnegau datblygu systemau a materion proffesiynol, cyfreithiol a moesegol sydd yn berthnasol i’r diwydiant cyfrifiadura a TG.
MODIWLAU
- Cronfeydd Data a Systemau Gwybodaeth Ar-lein
- Cynllunio Profiad Defnyddiwr
- Datblygu Apiau Rhyngrwyd a Symudol
- Cyfrifiadura Cyfrifol
- Rhaglennu Cymhwysol
- Prosiect Grŵp.
BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)
Unwaith ichi gyrraedd eich blwyddyn olaf, byddwch yn datblygu eich sgiliau ymhellach drwy fodiwlau a addysgir ac ymchwil, gan ganolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf yn y ddisgyblaeth o’ch dewis. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect blwyddyn olaf unigol, a fydd yn eich paratoi ar gyfer y math o dasgau a sefyllfaoedd y gallech ddod ar eu traws yn y gweithle. Bydd y gwaith ymarferol a gwaith prosiect yn eich blwyddyn olaf yn gofyn am y math o werthuso o ffactorau technegol ac annhechnegol a rheoli methodolegau a thechnegau datblygu systemau y mae gweithwyr TG proffesiynol yn eu defnyddio yn gynnar yn eu gyrfaoedd.
MODIWLAU
- Rheoli Prosiect TG
- Data Gwasgaredig a Dadansoddeg Data
- Datblygu Symudol Uwch
- Technolegau’r Dyfodol
- Prosiect.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol, gan gynnwys TG, cyfrifiadura, mathemateg neu ffiseg.
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn cwrdd â meini prawf uchod yn cael eu hasesu’n unigol drwy gyfweliad.
Addysgu ac Asesu
Ystyrir asesu fel rhan annatod o ddysgu ac mae meini prawf asesu yn gysylltiedig â deilliannau dysgu modiwlau unigol.
Mae'r dulliau asesu yn cynnwys asesiadau ymarferol, adroddiadau a thraethodau, dadansoddi astudiaethau achos, cyflwyniadau llafar, papurau seminar, gwaith prosiect, portffolio datblygiad personol, arholiadau a phrofion dosbarth dibaratoad. Bydd asesu yn cynnwys aseiniadau unigol a rhai grŵp/tîm.
Yn y modiwlau diogelwch arbenigol, bydd myfyrwyr yn gallu cael profiad ymarferol o asesu ymarferol lle byddant yn ffurfweddu ystod o systemau cyfrifiadurol a mynd trwy brosesau profion hacio a hacio moesegol.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cyfrifiadura yn hanfodol i’r rhan fwyaf o yrfaoedd y dyddiau hyn, bodd bynnag, bydd y cwrs hwn yn eich paratoi yn benodol ar gyfer nifer o swyddi penodol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, megis:
- Dylunydd rhwydwaith/cronfeydd data
- Rheolwr rhwydwaith/cronfeydd data
- Datblygwr gwefannau
- Datblygwr / datblygwr apiau meddalwedd
- Rolau rhyngweithiol amlgyfrwng
- Cymorth TG
- Ymgynghoriaeth TG
- E-fasnach.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.