An illustration student works in his sketchbook

Manylion cwrs

Côd UCAS

IL19

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Tîm addysgu profiadol

o'r diwydiannau creadigol proffesiynol

Arddangoswch eich gwaith

mewn sioe radd diwedd blwyddyn

Cyfleoedd

i gystadlu ac adeiladu portffolio proffesiynol

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y radd Darlunio yn eich helpu i ddatblygu eich arddull ddarluniadol a'ch dawn ar gyfer creu delweddau creadigol. Mae'r cwrs yn ymdrin ag ochrau ymarferol, proffesiynol, ac artistig gweithio fel darlunydd gyda llais artistig unigol, gan eich arfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.

Byddwch yn:

  • Dysgu sut i greu delweddau trawiadol, gweithio i safonau proffesiynol a deall sut mae eich gwaith yn ffitio i’r diwydiant.
  • Cael eich cyflwyno i ystod eang o sgiliau creadigol, o gynhyrchu syniadau, i’w cynhyrchu’n dechnegol drwy wneud printiau, rhwymo llyfrau, deunyddiau 3D, bywluniadu, cyfryngau traddodiadol a digidol, gyda phwyslais ar ddarlunio a datblygu arddull bersonol unigryw. 
  • Cael eich cyflwyno i brosesau creadigol proffesiynol a’ch annog i ehangu eich galluoedd drwy weithdai a phrosiectau ymarferol.
  • Dysgu sut i ddadansoddi briff, adnabod a datrys problemau, datblygu eich natur greadigol unigryw eich hun a chynhyrchu portffolio proffesiynol.
  • Ennill sgiliau personol, proffesiynol ac entrepreneuraidd gan gynnwys gweithio fel arlunydd llawrydd: o farchnata i hunan-hyrwyddo i gytundebau, anfonebau a gweithio gyda chleientiaid.
  • Cael eich annog i weithio ar friffiau a chystadlaethau byw.

Mae’r cwrs yma hefyd ar gael i’w astudio gyda blwyddyn sylfaen Darlunio (gyda blwyddyn sylfaen). Cod UCAS: ILFY.

Art student painting

Celf a Dylunioym Mhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  • Byddwch yn rhan o gymuned fywiog a chreadigol o artistiaid masnachol gan gynnwys darlunwyr, animeiddwyr, a dylunwyr graffeg.
  • Cewch eich dysgu gan dîm dysgu ag iddynt ystod eang o brofiad o weithio’n broffesiynol yn y diwydiannau darlunio a chreadigol.
  • Rydym yn annog ein myfyrwyr i hunan-gyhoeddi a dysgu sut i gynhyrchu prototeipiau cynhyrchu o ansawdd uchel i’w cyflwyno i’r diwydiant cyhoeddi drwy ddefnyddio ein Rhwymfa mewnol.
  • Mae ein myfyrwyr wedi ennill gwobrau darlunio er enghraifft cystadleuaeth Darlunio Gwasg Prifysgol Rhydychen, cystadleuaeth Llyfrau Plant Macmillan, gwobrau D&AD a Chymdeithas Caldecott ac wedi eu henwebu ar gyfer Gwobrau uchel eu bri yr Eisner a’r Silver Reuben.
  • Byddwch yn rhan o arddangosfa sioe radd diwedd blwyddyn - edrychwch ar e-gylchgrawn Sioe Radd 2022, Unjammed.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4) - Sgiliau Craidd

Mae Lefel 4 yn eich cyflwyno i egwyddorion sylfaenol darlunio a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich arddull ddarluniadol. Mae hyn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o'r offer a'r technegau creadigol y byddwch yn eu defnyddio, cyd-destunau hanesyddol a damcaniaethau darlunio, argraffu, technegau cynhyrchu a dealltwriaeth o'r diwydiant darlunio.

MODIWLAU

Semester 1

  • Hanes a Chyd-destun
  • Cyfathrebu Gweledol
  • Cyfathrebu Digidol

Semester 2

  • Dylunio Cymdeithasol
  • Adrodd Stori: Theori ac Ymarfer
  • Dylunio rhyngweithiol

BLYWDDYN 2 (LEFEL 5) - Sgiliau Uwch

Mae Lefel 5 yn eich galluogi i ddatblygu eich dull unigol o rôl darlunio mewn cymdeithas, rôl darlunio mewn cymdeithas, agweddau cysyniadol darlunio, agweddau ymarferol paratoi gwaith i’w gynhyrchu yn ogystal ag archwilio hanfodion rhedeg busnes fel darlunydd llawrydd.

MODIWLAU

Semester 1

  • Dylunio Symudiad
  • Argraffu a Chynhyrchu
  • Meddwl yn feirniadol

Semester 2

  • Dyfodol Creadigol: Gwneud bywoliaeth
  • Prosiect Dylunio: Darlunio

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6) - Arbenigedd

Mae lefel 6 i’w negodi. Byddwch yn gweithio gyda staff i gyflwyno’r prosiectau sy’n arddangos eich arddull darluniol, eich sgiliau a’ch gallu, eich uchelgais a’ch dealltwriaeth o’r diwydiant darlunio.

MODIWLAU

Semester 1

  • Prosiect Arbenigol: Darlunio

Semester 2

  • Dyfodol Creadigol: Ymarfer Proffesiynol
  • Briff Byw

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs hwn yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG lefel A neu gyfwerth. Caiff cymwysterau lefel UG a Sgiliau Allweddol Lefel 3 priodol eu hystyried hefyd.

Mae tîm y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan unrhywun a all ddangos ymroddiad i'r pwnc a'r potensial i gwblhau eu rhaglen yn llwyddiannus. Gall hyn gael ei gadarnhau drwy ddangos cyflawniadau academaidd priodol neu drwy ddangos bod yr unigolyn yn meddu ar yr wybodaeth a'r gallu sy'n gyfateb i'r cymwysterau academaidd.

Caiff pob ymgeisydd naill ai ei gyfweld yn unigol neu ei wahodd i ddiwrnod ymgeiswyr lle cânt y cyfle i ddangos portffolio o'u gwaith. Mae'n bosibl y caiff profiad ei ystyried hefyd, yn enwedig yn achos yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion academaidd uchod, yn dibynnu ar faint a dyfnder eu gwybodaeth pwnc. Gofynnir i fyfyrwyr dramor, nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad, anfon eu portffoio o waith yn ddigidol er mwyn iddo gael ei ystyried.

Mae tiwtor derbyn yn ystyried pob cais yn unigol. Caiff gwahanol gymwysterau eu hystyried, gan gynnwys Cymwysterau Uwch yr Alban, Tystysgrif Ymadael Iwerddon, Bagloriaeth Cymru, y Fagloriaeth Ryngwladol, cyrsiau Mynediad, BTEC, VCE, GNVQ, lefelau A ac AS yn ogystal â chymwysterau tramor eraill. 

Addysgu ac Asesu

Nid oes arholiadau gosodedig. Mae asesu yn barhaus ac yn ymwneud â phob agwedd ar y rhaglen, gan roi pwyslais a ddiffinnir yn fwy gofalus ar asesu ffurfiannol ac adborth ar eich gwaith cwrs trwy gydol y flwyddyn academaidd. Byddwn yn eich cynghori ar lefel eich cyrhaeddiad ac yn eich cyfeirio tuag at strategaeth ar gyfer dilyniant pellach wrth i aseiniadau a modiwlau gael eu cwblhau.

Mae fformatau amrywiol o asesu i annog eich dysgu trwy seminarau grŵp, ymdriniaethau a thiwtorialau. Gall hyn fod trwy ryngweithio grŵp gyda dadansoddiad beirniadol lle byddwch yn cyflwyno ystod o waith gan gynnwys llyfrau braslunio, taflenni dylunio, gwaith celf gorffenedig, gwaith ar sail sgrin, ffeiliau technegol / cynhyrchu, cyfnodolion, traethodau, a chyflwyniadau clyweledol. Mae adolygiadau o waith ar adegau allweddol cyn y Nadolig a chyn y Pasg ac mae hyn yn rhoi amser i chi fyfyrio ar eich cynnydd cyn asesiad diwedd blwyddyn terfynol neu grynodol.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Rhoddir pwyslais ar eich datblygiad personol a phroffesiynol, sgiliau cyfathrebu ac entrepreneuraidd, fel eich bod yn gymwys iawn i fynd i mewn i ddiwydiant amrywiol sy'n newid yn gyflym. Mae myfyrwyr sy'n astudio Darlunio yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o swyddi gan gynnwys: 

  • Darlunwyr llawrydd 
  • Dylunwyr llyfrau 
  • Artistiaid coming 
  • Artistiaid byrddau stori 
  • Dylunwyr cymeriadau 
  • Rolau yn y diwydiant animeiddio a gemau 

Mae'r radd hon hefyd yn eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth. Mae cyfleoedd astudio pellach ar gael ar lefel MDes /PMA neu TAR hefyd.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau. I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl Pentref Wrecsam.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.