BSc (Anrh) Datblygu Gemau Cyfrifiadurol (Gyda Lleoliad Diwydiant)

A student tests out a computer game using a handheld controller, while another student watches the monitor

Manylion cwrs

Côd UCAS

CGIP

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae cwrs yma, sydd yn rhan o faes pwnc sydd wedi ei farnu’n gyntaf yn y DU o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, wedi ei gynllunio i ddatblygu sgiliau cryf mewn datblygu gemau technegol a rheoli prosiectau i wella eich cyflogadwyedd.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Cronfa Gemau’r DU, Gemau Cymru a BAFTA Cymru i sicrhau bod gan ein myfyrwyr fynediad at hyfforddiant a gwybodaeth flaengar sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. 

Rydym yn gartref i raglen Talent Gemau Cymru ac yn hwb Tranzfuser rhanbarthol, sydd wedi’i noddi a’i gefnogi gan Gronfa Gemau’r DU a Thalent Gemau’r DU. Mae ein canolfan deori busnes yn gartref i sawl stiwdio gemau gwobrwyol sydd yn eiddo i fyfyrwyr.

 Mae'r cwrs, sydd wedi esblygu dros y degawd diwethaf, yn gyfle i fyfyrwyr:

  • Ddatblygu’r sgiliau technegol sydd yn sail i ddylunio gemau, rhaglennu a phiblinell dechnegol celfyddyd gemau.
  • Elwa o ymgysylltiad agos gyda’r diwydiant gydag ymweliadau cyson, siaradwyr gwadd nodedig, cyflwyniadau, grwpiau trafod a digwyddiadau cymdeithasol.
  • Ennill profiad a mewnwelediad gwerthfawr i’r broses o ddatblygu gemau a rheoli stiwdio annibynnol.
  • Cael cymorth gan fentor personol gyda phrofiad ym maes datblygu gemau er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth.
  • Mynediad at ein canolfan deori gemau a’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf mewn stiwdio arbenigol ar gyfer datblygu gemau.
  • Datblygu portffolio a sgiliau cyflogadwyedd hollbwysig.
  • Gael opsiwn Blwyddyn Lleoliad Diwydiant.

 

Global Game Jam logo - with the tagline Innovation, Experimentation, Collaboration

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae ein canolfan Diwydiannau Creadigol pwrpasol yn cynnwys cyfleusterau arbenigol gan gynnwys labordai gemau a stiwdios sydd ag ystod eang o feddalwedd megis Unreal Engine 5, Unity, Maya, Mudbox, Substance Painter/Designer, Visual Studio a Creative Cloud ar gyfer maes eang cynhyrchu gemau.
  • Byddwch yn datblygu arbenigedd technegol mewn amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu a meddalwedd i weithredu mecaneg gymhleth mewn cynhyrchion gemau cyflawn.
  • Cyswllt rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant gemau a chyfryngau trwy ddarlithoedd gwadd, seminarau a digwyddiadau cenedlaethol.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm addysgu arobryn sydd â chefndiroedd a phrofiad proffesiynol yn y diwydiant.
  • Byddwch yn dysgu sut i reoli tîm datblygu gemau proffesiynol wrth ddefnyddio methodoleg ac ymarferion a ddefnyddir yn y diwydiant.
  • Byddwch yn gweithio gyda’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf mewn dwy stiwdio datblygu gemau sydd yn arbenigo mewn cynllunio, cynhyrchu, cipio symudiadau a realiti rhithwir.
  • Mae gan y cwrs hanes rhagorol ar gyfer cyflogaeth i raddedigion gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio yn rhai o stiwdios gemau mwyaf adnabyddus y byd.
  • Byddwch yn ennill profiad a mewnwelediad gwerthfawr i'r broses gynhyrchu gemau a rheoli stiwdio gêm annibynnol. 
  • Byddwch yn elwa o gael mentor personol gyda phrofiad o ddatblygu gemau i helpu i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth.
  • Ceir cymorth i ddatblygu cwmni annibynnol yn deillio drwy gefnogaeth, cyngor a chyllid posibl drwy Games Talent Wales
  • Cyfle i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, cyfathrebu a mentergarwch fel eich bod mewn sefyllfa dda i fynd i mewn i ddiwydiant amrywiol sy'n newid yn gyflym.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae lefel 4 yn cyflwyno sgiliau damcaniaethol ac ymarferol gan y byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bach i ddatblygu gemau ac yn dysgu hanfodion rheoli cynhyrchu ynghyd â datblygu dealltwriaeth o ddylunio a datblygu 2D a 3D. Byddwch hefyd yn ehangu ar eich gwybodaeth am iaith raglennu C++ ac yn archwilio’r berthynas rhwng sgriptio gweledol ac anweledol mewn peiriannau gemau megis Unreal Engine 5.

Byddwch hefyd yn archwilio cyd-destun ehangach datblygu gemau a'r materion allweddol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu heddiw.

MODIWLAU

  • Dylunio Gemau a Rhyngweithio
  • Cynhyrchu Asedau Gêm
  • Amgylchfydoedd Gemau a Dylunio Naratif
  • Technoleg Gemau
  • Y Diwydiant Gemau a Methodoleg Cynhyrchu Ystwyth
  • Agweddau Sylfaenol ar gyfer Rhaglennu

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Mae Lefel 5 yn adeiladu ac yn ehangu ar eich portffolio o sgiliau a gwybodaeth, gan ychwanegu at eich sgiliau cerflunio a modelu digidol, ynghyd â dylunio a chynhyrchu sain ar gyfer gemau. Byddwch hefyd yn ehangu ar eich gwybodaeth am iaith raglennu C++ ac yn archwilio’r berthynas rhwng sgriptio gweledol ac anweledol mewn peiriannau gemau megis Unreal Engine 5.

Yn allweddol, yn ystod yr ail semester, byddwch yn gwella eich sgiliau datblygu a rheoli ymhellach drwy weithio ar ddau brosiect gemau grŵp o faint gan ddefnyddio methodolegau rheoli ac offer cefnogi safon diwydiant.

MODIWLAU

  • Cynhyrchu Asedau ar gyfer Peiriannau Gêm
  • Rhaglennu Gemau
  • Datblygu Gemau Symudol
  • Technoleg Gemau Difrifol
  • Rheoli Stiwdio Annibynnol
  • Prosiect Grŵp

BLWYDDYN 3 (LLEOLIAD DIWYDIANT)

Yn ystod y flwyddyn hon, byddwch yn mynychu sesiynau tiwtorial ynglŷn â’r flwyddyn lleoliad, gan gynnwys y broses o ganfod lleoliad addas, disgwyliadau eich blwyddyn lleoliad ac arweiniad ar gynhyrchu eich cynnig. Yn semester 2 byddwch yn gweithio gyda Chydlynydd Lleoliad i gyflwyno eich cynnig, a fydd yna’n cael ei ystyried a’i adolygu. O fod yn llwyddiannus yn ystod y broses hon, fe ewch ymlaen i wneud eich Lleoliad Diwydiant yn ystod eich trydedd flwyddyn a byddwch yna’n dychwelyd atom ar gyfer lefel 6 (cyfanswm o 4 blynedd).

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Mae Lefel 6 yn ehangu ymhellach ar y sgiliau blaenorol a ddatblygwyd, gan ganolbwyntio ar ansawdd a rheolaeth broffesiynol ochr yn ochr â sgiliau ymarferol uwch.

Mae'r prosiect grŵp arloesol yn y flwyddyn olaf wedi ei gynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r rôl a'r cyfrifoldebau a ddewisoch fel datblygwr proffesiynol, sydd yn eich paratoi ymhellach ar gyfer y gweithle. Byddwch yn ffurfio tîm datblygu gemau ac yn arbenigo mewn rôl dechnegol o'ch dewis am flwyddyn academaidd lawn. Byddwch chi a'ch tîm yn cyflwyno'r gêm orffenedig yn y digwyddiad gemau blynyddol a fynychir gan aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr diwydiant.

Mae gennym gysylltiadau cryf gyda diwydiant ac mae ein modiwlau blwyddyn olaf wedi eu cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygiad gyrfa i'ch paratoi ar gyfer y pontio o raddio i waith llawn amser.

Bydd gan fyfyrwyr gyfle i wella eu cyfleoedd gyrfa ymhellach drwy raglenni datblygu Talent Gemau Cymru a Tranzfuzer.

MODIWLAU

  • Cynhyrchu Asedau Uwch a Chelf Dechnegol
  • Rhaglennu Gemau ar lefel Uwch
  • Dylunio Gemau ar lefel Uwch ac Ymgysylltu â Defnyddwyr
  • Arbenigwr Diwydiant Gemau
  • Prosiect

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol gan gynnwys gradd pasio dda mewn TG, Cyfrifiadureg, Mathemateg neu Ffiseg.

Addysgu ac Asesu

Mae’r cwrs yma yn canolbwyntio ar bortffolio ac yn hynny o beth, does dim arholiadau ffurfiol. Yn hytrach bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau technegol a damcaniaethol drwy aseiniadau ymarferol a gweithgareddau ymchwil a datblygu.

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys cynhyrchu gemau digidol (a heb fod yn ddigidol), ysgrifennu adroddiadau technegol ac academaidd, casglu a dadansoddi data cynhyrchu, rhoi cyflwyniadau, ysgrifennu cod, cynhyrchu modelau 3D a ffeiliau sain.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, am ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau penodol i’w pwnc a sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy ddefnyddio offer rheoli digidol fel Jira, a thrwy adborth a roddir i fyfyrwyr, sy’n cymryd sawl ffurf gan gynnwys grwpiau bach a thrafodaethau un-i-un. 

DYSGU AG ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Gall myfyrwyr sydd yn cwblhau’r cwrs yma fynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus fel rhaglenwyr gemau, artistiaid/animeiddwyr technegol ar gyfer gemau, dylunwyr/datblygwyr lefelau, cynhyrchwyr neu feistri sgrym, dylunwyr/datblygwyr apiau.

Cyflogir ein graddedigion gan rhai o gwmnïau mwyaf adnabyddus y byd fel Ubisoft, Sony, Nintendo, Rockstar a Travellers Tales. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i gefnogi graddedigion sydd yn dewis sefydlu eu stiwdios eu hunain o fewn ein canolfan deori busnes.     

Mae’r cwrs yn darparu sgiliau ymarferol mewn modelu 3D, dylunio gemau a rheoli busnes a phrosiectau a fydd yn sicrhau eich bod yn gymwys i weithio mewn amryw o swyddi yn y diwydiant.   

 O ystyried y sgiliau technegol a ddatblygir ar y cwrs mae rhai graddedigion yn dewis mynd yn eu blaen i ddilyn gyrfaoedd mewn sawl maes cyfrifiadura  prif-ffrwd fel cymorth TG, ymgynghoriaeth a datblygu apiau ar  gyfer y rhyngrwyd ac e-fasnach.   

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.