BSc (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol a Menter (gyda blwyddyn sylfaen)

A student tests out a game using a handheld controller

Manylion cwrs

Côd UCAS

GEFY

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Ymunwch â chwrs blaengar yn y DU sydd wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau cryf mewn dylunio gemau technegol, sgiliau busnes a chynhyrchu er mwyn ichi ddod yn arweinwyr diwydiant i’r dyfodol.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Cronfa Gemau’r DU, Gemau Cymru, BAFTA Cymru a’r Gymdeithas Cyfrifiadura Brydeinig i sicrhau bod gan ein myfyrwyr fynediad ar bob achlysur ar hyfforddiant a gwybodaeth flaengar sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. 

Rydym yn gartref i raglen arloesol Talent Gemau Cymru ac yn hwb Transfuser rhanbarthol yn y DU sydd wedi ei noddi a’i gefnogi gan Gronfa Gemau’r DU a Thalent Gemau’r DU. Mae ein canolfan deori busnes yn gartref i sawl stiwdio gemau gwobrwyol sydd yn eiddo i fyfyrwyr.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs yma yn:

  • Datblygu sgiliau hanfodol mewn dylunio gemau yn ogystal â sgiliau dechrau a rheoli buses
  • Dysgu am y diwydiant gemau a’r offer a phlatfformau sydd yn hanfodol i lwyddiant
  • Cael gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr i’r broses o ddatblygu gemau a rheoli stiwdio gemau annibynnol.
  • Manteisio ar fuddion ymgysylltu agos â’r diwydiant gydag ymweliadau rheolaidd, siaradwyr gwadd, cyflwyniadau, grwpiau trafod a digwyddiadau cymdeithasol
  • Gweithio gyda mentor personol sydd â phrofiad o ddatblygu gemau, i helpu i ddatblygu eich sgiliau a gwybodaeth
  • Cael mynediad i’n canolfan deori busnes a’r offer a thechnoleg ddiweddaraf mewn stiwdio datblygu arbenigol
  • Datblygu portffolio datblygu gemau proffesiynol a sgiliau cyflogadwyedd hanfodol.
  • *Astudio cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 3ydd yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad ag addysgu ac yn ail yn y DU ac yn 1af yng Nghymru am foddhad gyda’r cwrs yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth, The Guardian University Guide 2022.
  • *Astudio cwrs sy'n rhan o faes pwnc a raddiwyd yn 4ydd yn y DU am brofiad y myfyriwr yn nhablau cynghrair pwnc Cyfrifiadura, Times and Sunday Times Good University Guide 2022.
  • *Astudio cwrs sy’n rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn yr 2il safle allan o brifysgolion Cymru am addysgu fy nghwrs yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Mae’r cwrs yma ar gael i’w astudio heb flwyddyn sylfaen BSc (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifadurol a Menter Cod UCAS: GE17 - neu gyda blwyddyn diwydiant Cod UCAS: GEFY (mae hyn yn 4 blwyddyn)

 

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyswllt rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant gemau a chyfryngau trwy ddarlithoedd gwadd, seminarau a digwyddiadau cenedlaethol a lleol.
  • Cewch eich dysgu gan dîm gwobrwyol sydd â chefndir a phrofiad proffesiynol yn y maes.
  • Ymgysylltu â chymuned weithgar sydd yn datblygu gemau annibynnol a rhaglen datblygu talent genedlaethol.
  • Dysgu sut i reoli tîm datblygu gemau proffesiynol wrth ddefnyddio methodoleg ac ymarferion a ddefnyddir yn y diwydiant.
  • Mae’r cwrs yn bartner a noddwr swyddogol i Wobrau Gemau BAFTA Cymru.
  • Mynediad i’n canolfan deori busnesau gemau mewnol.
  • Gweithio gyda’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf mewn dwy stiwdio datblygu gemau sydd yn arbenigo mewn cynllunio, cynhyrchu, cipio symudiadau a realiti rhithwir.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio fformiwlâu, trin a chynrychioli data. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r prif galedwedd a meddalwedd sy'n gysylltiedig â defnyddio systemau cyfrifiadurol, yn ogystal â dod i wybod y diweddaraf am ddatblygiadau cyfredol mewn technoleg. Bydd nifer o gyfleoedd i weithio ar weithgareddau ymarferol megis robotiaid, dylunio CAD a fydd yn cael eu datblygu ymhellach ar lefel gradd.

MODIWLAU

  • Mathemateg Cyfrifiadura
  • Caledwedd a Meddalwedd Cyfrifiaduron
  • Datblygiadau mewn Technoleg
  • Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
  • Astudiaethau Cyd-destunol.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Mae lefel 4 yn cyflwyno sgiliau damcaniaethol ac ymarferol gan y byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bach i ddatblygu gemau ac yn dysgu hanfodion dylunio a datblygu 2D a 3D ynghyd â dealltwriaeth o'r caledwedd a ddefnyddir ar gyfer chwarae gemau cyfrifiadurol a chyfryngau. Mae pwyslais cryf ar reoli cynhyrchu ynghyd ag adeiladu gwybodaeth o brosesau busnes ac entrepreneuriaeth.

Byddwch hefyd yn archwilio cyd-destun ehangach datblygu gemau a'r materion allweddol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu heddiw.

MODIWLAU

  • Dylunio Gemau a Rhyngweithio
  • Rheoli Busnes, Cyllid a Thechnoleg
  • Datblygu Asedau Gêm
  • Amgylcheddau Gemau a Dylunio Naratif
  • Y Diwydiant Gemau a Methodolegau Cynhyrchu Ystwyth
  • Datblygu Proffesiynol mewn Cyfrifiadura: Peirianneg Gwybodaeth

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Mae lefel 5 yn adeiladu ar eich portffolio o sgiliau ac yn ei ehangu i ganolbwyntio ar arloesi a masnachu cynnyrch ynghyd â dealltwriaeth o lwyfannau cyhoeddi digidol a'r modelau busnes sy'n gysylltiedig â nhw.  Byddwch hefyd yn datblygu'ch gwybodaeth o gerflunio digidol a modelu 3D. 

Yn allweddol, yn ystod yr ail semester, byddwch yn gwella eich sgiliau datblygu a rheoli ymhellach drwy weithio ar ddau brosiect gemau grŵp sylweddol gan ddefnyddio methodolegau rheoli ac offer cefnogi safon diwydiant. Disgwylir i chi ddefnyddio eich sgiliau rheoli drwy weithredu fel sgrymfeistr yn ystod y camau datblygu hyn.

MODIWLAU

  • Technoleg Gemau Difrifol
  • Modelu ac Animeiddio 3D ar gyfer Peiriannau Gêm
  • Cynhyrchu Gemau a Thechnoleg Dosbarthu
  • Technoleg Cyllid ac Arloesi
  • Prosiect Grŵp
  • Rheoli Stiwdio Annibynnol a Chynhyrchu Gemau

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Mae lefel 6 yn ehangu ymhellach ar y sgiliau a ddatblygwyd eisoes, gan ganolbwyntio ar ansawdd a rheolaeth broffesiynol ochr yn ochr â sgiliau ymarferol uwch.

Nod y prosiect grŵp blwyddyn olaf arloesol yw gwella eich dealltwriaeth o'ch rôl a'ch cyfrifoldebau fel datblygwr proffesiynol, sy'n eich paratoi ymhellach ar gyfer y gweithle. Byddwch yn ffurfio tîm datblygu gêm ac yn arbenigo mewn rôl dechnegol o'ch dewis eich hun am flwyddyn academaidd lawn. Byddwch chi a'ch tîm yn cyflwyno'r gêm orffenedig yn y digwyddiad arddangos blynyddol, LeveL Up Expo, ble bydd aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr o'r diwydiant yn bresennol.

Trwy ein rhaglen Cyflymydd Busnes, byddwch yn cael y cyfle i weithio'n agos gyda myfyrwyr Busnes israddedig a chael mynediad i'n canolfan deori busnes gyda'r bwriad o ddechrau a rheoli eich stiwdio datblygu gemau eich hun.

Mae pwyslais ar astudio annibynnol drwy gydol y rhaglen, datblygu portffolio proffesiynol a mynd ar drywydd rhagolygon gyrfaol cyffrous trwy asesu parhaus a goruchwyliaeth prosiect penodol.

MODIWLAU

  • Prosiect 
  • Menter Gêm
  • Dylunio Gemau, Marchnata a Moneteiddio
  • Modelu ac Animeiddio 3D Uwch ar gyfer Gemau
  • Technoleg y Dyfodol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofyniad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS ond ystyrir pob cais yn unigol ac rydym yn rhoi ystyriaeth i brofiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.

Addysgu ac Asesu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bortffolio ac felly, nid oes arholiadau ffurfiol. Yn hytrach, bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau dylunio technegol, busnes a ddamcaniaethol trwy aseiniadau ymarferol a gweithgareddau ymchwil a datblygu.

Mae dulliau asesu’n cynnwys cynhyrchu gemau digidol (a heb fod yn ddigidol), llunio adroddiadau technegol ac academaidd, llunio a dadansoddi data cynhyrchu, rhoi cyflwyniadau, llunio cynlluniau busnes, cynhyrchu modelau 3D ac asedau gêm.

Ar lefelau uwch y cwrs, bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr darparu tystiolaeth ystadegol o oriau gwaith gyda thystiolaeth ategol fel rhan o ddeilliannau asesu allweddol.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, am ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau penodol i’w pwnc a sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy ddefnyddio offer rheoli digidol fel Jira, a thrwy adborth a roddir i fyfyrwyr, sy’n cymryd sawl ffurf gan gynnwys grwpiau bach a thrafodaethau un-i-un. 

DYSGU AG ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Gall myfyrwyr sydd yn cwblhau’r cwrs hwn ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus fel cynllunwyr gemau, arlunwyr/animeiddwyr technegol gemau, dylunwyr/datblygwyr lefelau, cynhyrchwyr, swyddogion datblygu busnes nei feistri sgrym, neu ddylunwyr/datblygwyr apiau.

Cyflogir ein graddedigion gan rhai o gwmnïau mwyaf adnabyddus y byd fel Ubisoft, Sony, Nintendo, Rockstar a Travellers Tales. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i gefnogi graddedigion sydd yn dewis sefydlu eu stiwdios eu hunain o fewn ein canolfan deori busnes.     

Mae’r cwrs yn darparu sgiliau ymarferol mewn modelu 3D, cerflunio digidol, dylunio gemau, marchnata, rheoli busnes a phrosiectau a fydd yn sicrhau eich bod yn gymwys i weithio mewn amryw o swyddi yn y diwydiant.

Mae rhai graddedigion yn dewis rhoi eu sgiliau busnes ac entrepreneuriaeth ar waith drwy sefydlu stiwdios gemau eu hunain gyda chymorth ein canolfan deori busnes fel rhan o’r rhaglen Sbarduno Busnes.   

O ystyried y sgiliau technegol a ddatblygir ar y cwrs mae rhai graddedigion yn dewis mynd yn eu blaen i ddilyn gyrfaoedd mewn sawl maes cyfrifiadura prif ffrwd fel cymorth TG, ymgynghoriaeth a datblygu apiau ar gyfer y rhyngrwyd ac e-fasnach.   

 

   

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.