BEng (Anrh) Dylunio Peirianneg Diwydiannol Prentisiaeth Gradd (Trydanol)

A student in our engineering labs using the equipment

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Arianwyd yn llawn

y brentisiaeth gradd 

Astudiaeth ran-amser

i ategu eich gwaith amser llawn

Dysgu cymhwysol

cyfuno hyfforddiant ystafell ddosbarth ac ymarfer ymarferol yn y gweithle

Pam dewis y cwrs hwn?

Datblygwch eich gyrfa mewn peirianneg ddiwydiannol gyda chwrs prentisiaeth gradd. Caiff myfyrwyr wybodaeth academaidd wrth roi eu sgiliau newydd ar waith.

Bydd myfyrwyr yn: 

  • ennill gradd lawn mewn tair blynedd o astudio rhan-amser
  • astudio un diwrnod yr wythnos, gyda'r pedwar diwrnod sy'n weddill mewn cyflogaeth
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n ddefnyddiol mewn peirianneg cynhyrchu
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n ddefnyddiol mewn unrhyw faes busnes, fel datrys problemau, gwaith tîm a rheoli prosiectau.
  • cymhwyso'r sgiliau gwybodaeth a phroffesiynol a ddatblygwyd gyda'r rhaglen i'w gweithle.

Prif nodweddion y cwrs

  • gweithredu eich dysgu mewn prosiectau yn y gweithle
  • dim ffioedd cwrs*
  • llwybr clir i wireddi eich uchelgeisiau yn y gweithle
  • Wedi'i gynllunio i uwchsgilio gweithwyr a hefyd gyflwyno talent newydd i gwmnïau
  • hyfforddi a rhwydweithio gyda phrentisiaid eraill yn Prifysgol Wrecsam

*yn amodol ar gyllid

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd myfyrwyr yn datblygu ac yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol a ddatblygir o fewn y rhaglen ddysgu hon i'w gweithle. Wedi'i ddatblygu fel partneriaeth tair ffordd rhwng y cyflogwr, y myfyriwr a thîm y rhaglen academaidd. Bydd y llwybr hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau y bydd angen arnynt yn y dyfodol, gan gwrdd â bylchau sgiliau rhanbarthol.


Trwy ddefnyddio'r flwyddyn galendr lawn a chymhwyso sgiliau sy'n seiliedig ar y gweithle, bydd myfyrwyr yn cyflawni eu dyfarniad o fewn yr un cyfnod â myfyriwr amser llawn safonol.

Blwyddyn 1 (LEFEL 4)

Modiwlau
  • Technegau Peiranneg Dadansoddol
  • Hanfodion Peirianneg Drydanol ac Electronig
  • Peirianneg Mecanyddol 
  • Ymchwilio a Hyfforddi yn y Gwaith
  • Peirianneg a Rheoli Gweithrediadau
  • Dylunio a Chynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Modiwlau
  • Prosiect diwydiannol
  • Technegau Rheoli Dadansoddol
  • Gweithgynhyrchu, Cynaladwyedd a Diwydiant 4.0
  • Deunyddiau a Phrosesau
  • Awtomatiaeth Ddiwydiannol a PLC
  • Dosbarthu Pŵer a Dylunio Systemau

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

Modiwlau
  • Prosiect
  • Rheoli Gweithle, Ymgysylltu ac Ymrwymiad
  • System Cynhaliaeth a Diogelwch
  • Modelu ac Efelychu Peirianneg Drydanol ac Electronig
  • System Cyfathrebu Ddiwydiannol

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Gofynion mynediad safonol y Brifysgol i'r rhaglen hon ydy (am fynediad lefel 4):

  • 48 pwynt tariff UCAC o gymhwyster lefel 3 addas fel Lefelau A
  • 5 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg


Ystyrir ymgeiswyr heb y pwyntiau tariff UCAC angenrheidiol, neu sydd â chymwysterau heb y pwyntiau, ar sail eu profiad proffesiynol yn niwydiant y brentisiaeth. Bydd pob ymgeisydd sydd ddim yn ateb yr ofynion uchod yn cael eu cyfweld cyn gwneir cynnig, gan roi cyfle iddynt dangos sut mae eu sgiliau a phrofiadau o'r diwydiant yn eu gwneud yn addas i'r rhaglen.

I wneud cais am brentisiaeth gradd, defnyddiwch ein ffurflen gais uniongyrchol. 

 

Addysgu ac Asesu

DYSGU AC ADDYSGU


Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae prentisiaeth gradd yn rhoi profiad gwaith go iawn i chi, ochr yn ochr â'r wybodaeth a'r theori y byddwch chi'n eu cael o astudio gradd. Trwy ganiatáu ichi ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth ar gyfer swyddi a gyrfaoedd penodol, bydd hyn yn creu CV cryf i chi wedi’i deilwra i’r maes y byddech eisiau gweithio ynddo. 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.


I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.