Manylion cwrs

Côd UCAS

PT19

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

120

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Achrededig

gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP)

1af yn y DU

ar gyfer boddhad cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

1af yn y DU

ar gyfer yr addysgu ar fy nghwrs (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

Physiotherapy student

FfisiotherapiMhrifysgol Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Ydych chi’n chwaraewr tîm gweithgar sy’n ofalgar ac yn dyfalbarhau? Os felly, efallai mai ein gradd BSc (Anrh) Ffisiotherapi yw’r dewis i chi.

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sy’n angerddol am wella bywydau pobl eraill ac sy’n ymroddedig i’r astudio a’r gwaith llawn amser y mae’n ei gymryd i fod yn ffisiotherapydd tosturiol, effeithiol a gwybodus yn y dyfodol.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ffisiotherapyddion i wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda phobl i nodi a gwneud y mwyaf o’u gallu i symud a gweithredu
  • Gweithio gyda phobl i hyrwyddo, cadw ac adfer lles corfforol, cymdeithasol a seicolegol
  • Asesu a rheoli pobl sydd ag amrywiaeth o broblemau clinigol

Bydd myfyrwyr yn:

  • Cael eu haddysgu gan staff medrus sydd oll yn Ffisiotherapyddion cofrestredig sydd â diddordebau clinigol arbenigol
  • Cael mynd i sesiynau addysgu ar y cyd gyda myfyrwyr Proffesiynol eraill Perthynol i Iechyd
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu a datrys problemau rhagorol. Datblygu’n broffesiynol ac yn bersonol yn ystod y cwrs astudio, gan elwa o gyfuniad o astudiaethau academaidd a 1000 o oriau clinigol ar leoliad
HCPC logoCPS accredited logo

Prif nodweddion y cwrs

  • Carfan fach o fyfyrwyr pob blwyddyn.
  • Mae gennym rai llefydd wedi'u comisiynu ar y rhaglen, felly gall eich ffioedd addysgu gael eu talu a gallwch fod yn gymwys ar gyfer taliad unigol blynyddol, cefnogaeth ariannol i dalu am gostau lleoliad a gallwch wneud cais am fwrsariaeth prawf modd.
  • Cymeradwywyd y cwrs gan Gyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.
  • Achrededig y cwrs gan gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi.
  • Caiff y cwrs hwn ei gynnal yn bennaf ar ein campws yn Wrecsam. Mae’n bosibl y bydd sesiynau addysg rhyngbroffesiynol yn cael eu cynnal ar ein campws yn Llanelwy gyda myfyrwyr o wahanol gyrsiau nyrsio a chyrsiau cysylltiedig ag iechyd. Gellir gwneud defnydd o astudiaeth hunangyfeiriedig ymarferol ar y ddau safle hefyd. 
  • Wedi cwblhau'r rhaglen byddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer cofrestriad cychwynnol gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac ar gyfer aelodaeth lawn Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi. Rhaid i’r myfyrwyr eu hunain dalu eu haelodaeth o’r CSP. 

Beth fyddwch chin ei astudio

Blwyddyn 1 (Lefel 4) 

Mae’r flwyddyn hon yn rhoi sylfaen i gynnal asesiad sylfaenol ar glaf ar draws y meysydd craidd y mae ffisiotherapyddion yn gweithio ynddynt. Mae’n cynnwys cyflwyniad i broffesiynoldeb, cyfathrebu, ymarfer clinigol ar ffurf lleoliad ac ymchwil. Byddwch yn dysgu rhyngbroffesiynol gyda Myfyrwyr Therapi Galwedigaethol, Gwyddorau Parafeddygol ac Ymarfer Gofal Llawdriniaethol.

MODIWLAU

  • Meithrin Ymarfer Ffisiotherapi 1: Mae’r modiwl hwn yn gosod sylfeini asesiad cyhyrysgerbydol a rhesymu clinigol gan ddefnyddio senarios astudiaeth achos a dull asesu ‘person cyfan’, sy’n canolbwyntio ar y claf.
  • Sylfeini mewn Ymchwil: Addysgir y modiwl hwn fel modiwl rhyngbroffesiynol (IPE) lle datblygir hanfodion gwerthuso beirniadol llenyddiaeth ac ysgrifennu academaidd.
  • Meithrin Ymarfer Ffisiotherapi 2 a Lleoliad 1: Mae’r modiwl hwn yn gosod sylfeini asesiad ffisiotherapi niwrolegol ynghyd ag iechyd y cyhoedd gan ddefnyddio senarios astudiaethau achos i’w defnyddio mewn ymarfer clinigol. Mae’r modiwl hwn hefyd yn cynnwys lleoliad 4 wythnos.
  • Sylfeini Ymarfer Proffesiynol: Addysgir y modiwl hwn fel modiwl addysg ryngbroffesiynol (IPE) lle caiff safonau a gwerthoedd proffesiynol eu trafod a’u hastudio wrth baratoi at leoliad clinigol.

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Mae’r flwyddyn hon yn adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth a gafwyd yn Lefel 4 gan symud tuag at reoli ym meysydd craidd ffisiotherapi, gan gynnwys cyflyrau cymhleth a datblygu tystiolaeth wrth ymarfer.

MODIWLAU

  • Tystiolaeth wrth Ymarfer: Addysgir y modiwl hwn fel modiwl IPE lle byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth am y broses ymchwil i lunio cynnig/testun ar gyfer astudiaeth ymchwil i’w gwneud yn Lefel 6.
  • Cyflyrau Cymhleth: Mae’r modiwl hwn yn dwyn ynghyd ystod o gyflyrau arbenigol a chyflyrau cymhleth mewn cyd-destunau newydd ac mewn amgylcheddau y bydd y myfyriwr yn dod ar eu traws yn ymarferol. Bydd yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i chi werthuso’n feirniadol gyflyrau nad ydych efallai wedi dod ar eu traws o’r blaen.
  • Datblygu Ymarfer Ffisiotherapi Cardio-anadlol: Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol am ymarfer cardio-anadlol er mwyn gwella’r broses o asesu a rheoli ymhellach cleifion sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK).
  • Datblygu Ymarfer Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol: Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol am ymarfer cyhyrysgerbydol er mwyn gwella’r broses o asesu a rheoli ymhellach cleifion sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol.
  • Datblygu Ymarfer Ffisiotherapi Niwrolegol: Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol am ymarfer niwrolegol er mwyn gwella ymhellach y broses o asesu a rheoli cleifion sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK).
  • Lleoliad Proffesiynol 2: Nod y lleoliad 6 wythnos hwn yw datblygu eich sgiliau mewn ymarfer clinigol wrth fod ar leoliad. Bydd marcio’r lleoliad yn cael ei wneud drwy system sgorio a grëwyd gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP).

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

Mae’r flwyddyn hon yn arwain at brosiect ymchwil traethawd hir ochr yn ochr â chymhwyso gwybodaeth mewn dau leoliad clinigol mawr, ynghyd â modiwl pontio i ymarfer.

MODIWLAU

  • Ymchwil ar gyfer Ymarfer: Yn y modiwl hwn byddwch yn defnyddio eich cynnig ymchwil Lefel 5 i lunio traethawd hir wedi’i ysgrifennu ar ffurf cyhoeddiad mewn cyfnodolion ar y cyd â darn adfyfyriol.
  • Lleoliad Proffesiynol 3: Nod y lleoliad 7 wythnos hwn yw datblygu eich sgiliau mewn ymarfer clinigol wrth fod ar leoliad. Bydd marcio’r lleoliad yn cael ei wneud drwy system sgorio a grëwyd gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP).
  • Lleoliad Proffesiynol 4: Nod y lleoliad 10 wythnos hwn yw datblygu eich sgiliau mewn ymarfer clinigol tra ar leoliad. Bydd marcio’r lleoliad yn cael ei wneud drwy system sgorio a grëwyd gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP).
  • Pontio i Ymarfer Proffesiynol: Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fyfyrwyr gofal iechyd ynghylch sut i ddatblygu a gwella eu hunain; sut i adfyfyrio ar y ffordd y maent hwy eu hunain a’u timau yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau, ynghyd â dysgu sut i arloesi a thrawsnewid ar bob cam o’u gyrfa. Modiwl rhyngbroffesiynol (IPE) yw hwn.

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn bellach ar gau ar gyfer mynediad 24/25

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 120 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A gyda gradd B neu uwch mewn Gwyddoniaeth Fiolegol neu Addysg Gorfforol neu gyfatebol.

Bydd cymwysterau cyfwerth a Lefel A'n cael eu cymryd i ystyriaeth, gan gynnwys er enghraifft 120 pwynt tariff UCAS o Ddiploma Mynediad i Addysg Uwch neu BTEC lefel 3 (Astudiaethau Gwyddoniaeth neu Iechyd).

Byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr fel arfer cael lleiafswm o 5 TGAU (A*-C, neu 9-4) i gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth Fiolegol a Saesneg/Cymraeg.

Ystyrir ceisiadau yn unigol ac yn ôl eu teilyngdod, fodd bynnag, mae’n rhaid bod gennych:

  • Astudiaethau Lefel A ddiweddar (yn ystod y 5 mlynedd diwethaf) neu gyfatebol (BTEC, Cwrs Mynediad mewn pwnc perthnasol)
  • Os ydych newydd adael yr ysgol mae gofyn bod gennych o leiaf 120 pwynt tariff UCAS. Bydd cymwysterau had ydynt yn cario pwyntiau UCAS yn cael eu cymryd i ystyriaeth ar gyfer ymgeiswyr aeddfed
  • Profiad o ystod o leoliadau iechyd/gofal cymdeithasol/trydydd sector naill ai'n wirfoddol neu'n gyflogedig
  • Wedi mynychu diwrnod agored Prifysgol Wrecsam neu sesiwn flasu Ffisiotherapi

Mae pob cynnig am le ar y radd hon a wneir yn dilyn cyfweliad yn amodol ar gwblhau cliriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG). Yn ogystal mae cael eich derbyn i'r cwrs yn amodol ar Gliriad Iechyd Galwedigaethol.

Addysgu ac Asesu

Maer cwrs Ffisiotherapi yn gwrs llawn amser (angen 5 diwrnod yr wythnos ar gyfer cyfuniad o ddysgu annibynnol a sesiynau dan arweiniad darlithwyr) a disgwylir i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn a chwblhaur holl waith paratoi cyn ac ar ôl sesiynau a gwneud gwaith astudio hunangyfeiriedig. Mae hyn yn golygu y gall myfyrwyr fanteisio gymaint â phosibl ar yr addysgu wyneb yn wyneb. 

Maer asesu yn amrywiol ac fe gaiff ei wneud ar ffurf gwaith academaidd ysgrifenedig, arholiadau clinigol ymarferol strwythuredig a gwrthrychol (OSCE), pasio/methu yr elfen lleoliad a VIVA (sef arholiadau llafar).

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Mae Prifysgol Wrecsam yn defnyddior Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF) syn golygu bod myfyrwyr yn gallu mynd at y dysgu a’r addysgu yn fwy hyblyg ar adegau syn gyfleus iddyn nhw.

Sesiynau Ymarferol

Mae sesiynau ymarferol yn rhan bwysig o addysgu a dysgu ffisiotherapyddion, wrth ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn gwneud y swydd gan roi theori ar waith.

Bydd myfyrwyr fel arfer yn gweithio fesul dau ac yn cael eu hannog i weithio gyda myfyrwyr gwahanol yn ystod y tair blynedd fel y gellir gweithredu’r sgiliau a gwybodaeth ar gyrff a rhywiau gwahanol.

Bydd myfyrwyr yn cymryd eu tro i fod yn ffisiotherapydd a chleient, bydd yn rhaid i’r myfyriwr sydd yn cymryd rhan y cleient gwisgo trowsus byr/dillad isaf fel bod y myfyriwr arall yn gallu gweld, teimlo a symud corf y cleient a defnyddio nifer o dechnegau ffisiotherapi asesu a triniaeth. 

Disgwylir i fyfyrwyr rhoi adborth i’w gilydd yn ystod sesiynau ymarferol.Bydd yn rhaid dilyn proses caniatâd i’r sesiynau ymarfer ar ddechrau’r cwrs phob blwyddyn wedyn.

Mae proffesiynoldeb ym mhob agwedd o’r cwrs yn bwysig eithriadol a bydd myfyrwyr yn dysgu beth yw bod yn weithiwr proffesiynol yn gynnar yn y rhaglen.

Mae proffesiynoldeb mewn sesiynau ymarferol yn hanfodol gan fod yr amgylchedd clinigol yn cael ei dyblygu, ac felly mi fydd yn rhaid glynu wrth reolau iechyd a diogelwch a rheoli heintiau.Disgwylir i fyfyrwyr dilyn polisi gwisg, er enghraifft clymu eu gwallt i fyny, peidio gorchuddio’r breichiau o dan y penelinoedd a gwisgo gwisg ymarferol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Bydd graddedigion yn gymwys i wneud cais am gofrestriad cychwynnol gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac am aelodaeth lawn Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi.

Bydd graddedigion yn dod o hyd i gyflogaeth yn y GIC, gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector ac yn cael cyfle i archwilio cyflogaeth yn y sector breifat, chwaraeon a thramor.

Cymhwystra i weithio fel Ffisiotherapydd

Wrth gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn ddilys i ymgeisio am fynediad i Gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Mae’n ofyniad cyfreithiol bod pawb sydd eisiau ymarfer o dan deitl a gwarchodir gan Orchymyn Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001  ar gofrestr yr HCPC. Am fwy o wybodaeth, gweler gwefan yr HCPC ar www.hcpc-uk.org.

Byddwch hefyd yn ddilys i ymgeisio i fod yn aelod llawn o’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP). Ni fydd myfyrwyr sydd heb gwblhau’r rhaglen neu wedi gadael gydag aegrotat yn gynnwys i wneud cais am gofrestriad HCPC a ni allent ymarfer fel ffisiotherapydd. 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Cymwysiadau

Oherwydd y nifer uchel o geisiadau, mae'r cwrs hwn bellach ar gau ar gyfer mynediad 2024/25. Os ydych yn dymuno gwneud cais am fynediad 2025/26, gwnewch gais drwy UCAS ar gyfer mynediad 2025/26 pan fydd ceisiadau'n ailagor ym mis Medi 2024. Yn y cyfamser, efallai yr hoffech ystyried ein cyrsiau byr.