A group of students assemble balloons as part of a classroom task

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 BL (rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Cydradd 1af yn y DU

ar gyfer rhagolygion graddedigion (Complete University Guide 2022)*

Arbenigwch

mewn pwnc gradd prin

Seiliedig ar waith

sy'n galluogi myfyrwyr i integreiddio eu hastudiaeth ochr yn ochr â'u gwaith neu wirfoddoli

Pam dewis y cwrs hwn?

Cynlluniwyd ein cyrsiau arloesol ar gyfer y rhai sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant sy’n delio â thrawma. Mae'r cwrs arbenigol yn rhoi cipolwg hanfodol i drawma plentyndod a thwf ôl-drawmatig ac yn sicrhau bod y rhai sy'n gweithio gyda'r plant mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn cael eu hyfforddi i'r safon uchaf.

Mae'r cwrs yn: 

  • ymgorffori arfer gorau yn y sector.
  • canolbwyntio ar feysydd allweddol a fydd yn eich galluogi i fod yn arbenigwr gweithgar.
  • *mewn maes pwnc a raddiwyd yn gyntaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ac yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon graddedigion yn nhablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022.

Bydd myfyrwyr yn: 

  • cael gyfleoedd i ryngweithio â chynrychiolwyr blaenllaw cenedlaethol a rhyngwladol o ymarfer ac ymchwil o fewn y sector Gofal Plant Therapiwtig.
  • astudio gyda myfyrwyr eraill ar y rhaglen o leoliad daearyddol eang ledled y DU. Hefyd, cyfleoedd i glywed am fentrau ymarfer arloesol.
  • cael cyfle i ‘atodi’ y wobr FdA i radd BA (Hosn) lawn mewn Gofal Plant Therapiwtig. 

Prif nodweddion y cwrs

  • Cwrs unigryw nad yw'n cael ei addysgu'n helaeth yn y DU, sy'n eich galluogi i ddod yn arbenigwr.
  • Mae’r graddau hyn yn seiliedig ar waith ac yn alwedigaethol berthnasol sy'n eich galluogi i astudio ochr yn ochr â'ch swydd neu'ch gwaith gwirfoddol.
  • Ar ôl darlith gychwynnol yn y brifysgol mae'r cyrsiau hyn yn cael eu cyflwyno'n bennaf ar-lein drwy ddefnyddio ein amgylchedd dysgu rhithiol drwy Moodle, gan gynnwys trafodaethau, seminarau a thiwtorialau ar-lein.
  • Addysgir y cyrsiau gan staff arbenigol ac mae darlithwyr gwadd sy'n weithwyr proffesiynol lleol yn y diwydiant.
  • *Mae’r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc a raddiwyd yn gyntaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ac yn gydradd gyntaf yn y DU am ragolygon graddedigion yn nhablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2022.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 6)

Bydd y flwyddyn atodol yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol a cyflwyno myfyrwyr i ddulliau a sgiliau ymchwil. I'r perwyl hwn bydd myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd â gwaith ymchwil ym maes gofal plant therapiwtig a phynciau cysylltiedig o safbwynt hanesyddol a'r agenda ar hyn o bryd. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ddysgu sut i werthuso cryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau i ymchwilio ym maes gofal plant therapiwtig. Bydd myfyrwyr yn dewis ac yn ymgymryd â prosiect ymchwil ar raddfa fach sy'n gysylltiedig â'u rôl yn y gwaith neu ar leoliad.

MODIWLAU

  • Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol
  • Polisi a Ymarfer Cyfraith Gofal Plant
  • Dulliau Ymchwil
  • Ymchwil mewn Ymarfer
  • Yr Amgylchedd Therapiwtig

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

  • Dylai ymgeiswyr feddu ar FdA Gofal Plant Therapiwtig neu gyfwerth.
  • Disgwylir y bydd pob myfyriwr sy'n ymuno â'r rhaglen naill ai mewn ymarfer cyfredol gyda phlant a phobl ifanc neu'n meddu ar brofiad sylweddol diweddar o ymarfer o'r fath (o leiaf dwy flynedd o fewn y pum mlynedd diwethaf).
  • Mae'n rhaid ichi hefyd allu trefnu cael amser i ffwrdd o'ch gweithle i fynychu darlithoedd (tua deuddeg diwrnod bob blwyddyn academaidd). 
  • Mae'n rhaid i chi gael mynediad i gyfrifiadur a chysylltiad â'r rhyngrwyd.
  • Bydd pob ymgeisydd yn cael ei gyfweld.

Addysgu ac Asesu

Caiff myfyrwyr eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd yn ystod eu gradd, o diwtorialau unigol, beirniadaeth grŵp, asesu cyfoedion a chyflwyno gwaith celf terfynol. Mae adborth wedi'i deilwra'n unigol i'ch helpu i ddatblygu eich gwaith celf i safon broffesiynol.

Dysgu ac addysgu

Mae pob asesiad yn seiliedig ar eich astudiaethau academaidd ac ar gasglu gwybodaeth yn y gweithle. Rydych yn cael eich asesu mewn amryw o ffyrdd drwy gydol y flwyddyn atodol, gan gynnwys, traethodau, datblygu portffolio a chyflwyniadau.

Byddwch yn cael llawer o gefnogaeth yn enwedig wrth i chi ddechrau datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gwblhau asesiadau. Rhoddir adborth yn ystod ac ar ôl pob asesiad i'ch helpu i greu amrywiaeth o sgiliau ysgrifennu academaidd ac ymarferol.

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

I ychwanegu hyblygrwydd, addysgir rhan fawr o'r cwrs hwn ar-lein.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r gyrfaoedd sydd ar gael i raddedigion y graddau hyn yn cynnwys gweithio gyda phlant mewn:

  • cartrefi ac ysgolion preswyl
  • yn ogystal ag mewn gwaith gofal maeth
  • chymorth i'r teulu.

Mae graddedigion wedi cael dyrchafiad yn eu sefydliadau ac wedi mynd ymlaen i raglenni ôl-radd mewn addysgu, therapi chwarae a chwnsela plant a phobl ifanc.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.