A student working at a desk with classmates

Manylion cwrs

Côd UCAS

L500

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae gwaith cymdeithasol yn broffesiwn heriol, gwerth chweil ac amrywiol sy'n cynnig cyfleoedd i raddedigion ar draws ystod eang o arbenigeddau. Mae gweithwyr cymdeithasol yn ymgysylltu ag unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws ystod o amgylchiadau a sefyllfaoedd.

Mae'r rhaglen:

  • yn rhaglen wedi'i dilysu a'i rheoleiddio, wedi'i chynllunio i gydymffurfio â'r rheoliadau a'r disgwyliadau i fod yn gymwys a chofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol.
  • yn eich paratoi ar gyfer gofynion y rôl drwy gynnig cydbwysedd o brofiad damcaniaethol, ymarferol ac ymarfer.
  • tîm addysgu yn brofiadol, yn derbyn adborth cyson gadarnhaol gan fyfyrwyr am ansawdd eu haddysgu a'u cymorth.
  • yn archwilio materion fel gwerthoedd craidd, egwyddorion a damcaniaethau sylfaenol, polisi cymdeithasol a chymhlethdodau a allai godi oherwydd amgylchiadau'r unigolion y mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda nhw.
  • yn cael cefnogaeth grŵp ffocws o unigolion, 'Outside In', sy'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth ragorol o realiti profiadau unigolion o ymarfer gwaith cymdeithasol. Yn 2020, enillodd Outside In Wobr Gofal Cymdeithasol am ei rhan yn addysgu gweithlu yfory, gan dynnu sylw at y rhan allweddol y mae'r elfen unigryw hon o'r cwrs yn ei chwarae o ran sicrhau bod myfyrwyr yn graddio gyda chymaint o ddealltwriaeth â phosibl o'r rôl gwaith cymdeithasol.
  • yn cynnwys o leiaf 200 diwrnod o brofiad ar draws tair blynedd y rhaglen ar gyfleoedd dysgu ymarfer, gan weithio gydag amrywiaeth o wasanaethau ac asiantaethau, er mwyn datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u gwerthoedd mewn lleoliadau ymarfer. Mae'r cyfleoedd dysgu hyn yn digwydd o fewn ein partneriaethau ag Awdurdodau Lleol Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.
  • *mewn maes pwnc yn safle 1af yng Nghymru am foddhad myfyrwyr ac yn 5ed yn y DU am foddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol, Complete University Guide 2023.
  • *yn rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn safle 1af allan o brifysgolion cymru am foddhad cyffredinol ayn ogystal a 3ydd yn y DU a 1af allan o brifysgolion Cymru am yr addysgu ar fy nghwrs yn Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022.
  • *wedi'i raddio 3ydd yn y DU fel rhan o dabl cynghrair pwnc Gwaith Cymdeithasol ar gyfer Ansawdd Addysgu ac yn 1af yn gyffredinol yng Nghymru, gan gynnwys safleoedd ar gyfer Ansawdd Addysgu, Profiad Myfyrwyr a Rhagolygon Graddedigion yn The Times a The Sunday Times Good University Guide 2023.
A student on a computer

'Outside In'

Mae 'Outside In' yn grŵp ffocws arloesol, sy'n rhan o'n gradd Gwaith Cymdeithasol lle mae'r aelodau'n cynnwys y rhai sydd wedi defnyddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd ac sydd ag arbenigedd trwy brofiad.

Prif nodweddion y cwrs

  • Amgylchedd dysgu cefnogol

  • Cysylltiadau agos â darparwyr cyfleoedd dysgu awdurdodau lleol

  • Ar ôl graddio byddwch yn gymwys i gofrestru gydag unrhyw un o bedwar Corff Rheoleiddio'r DU ar gyfer Gwaith Cymdeithasol

  • Cyfleoedd cyflogaeth amrywiol ar ôl graddio

  • Cyflwyno'r cwrs gan academyddion o amrywiaeth o gefndiroedd sydd â phrofiadau a diddordebau proffesiynol amrywiol

  • Astudio gydag ystod o ddulliau addysgu, gan ddefnyddio, er enghraifft, seminarau, darlithoedd, gweithdai a gwaith grŵp.

  • Yn ogystal â’r safleoedd a restrwyd yn gynharach, mae ein gradd mewn Gwaith Cymdeithasol hefyd yn rhan o faes pwnc sydd wedi’i raddio yn y 10 uchaf yng Nghymru a Lloegr (11eg yn y DU) am foddhad addysgu, ac wedi'i graddio’n 1af yng Nghymru am foddhad addysgu a foddhad am y cwrs, yn y tablau cynghrair pynciau Gwaith Gymdeithasol (The Guardian University Guide, 2023).

Sylwch, rhaid i fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol fod wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, sef y corff rheoleiddio ar gyfer pob Gweithiwr Cymdeithasol yng Nghymru.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Prif ffocws y flwyddyn hon yw datblygu ymarfer academaidd a proffesiynol trwy gyfuniad o astudiaeth academaidd a chyfle dysgu wrth ymarfer 20 diwrnod.

MODIWLAU

  • Ymuno a'r Proffesiwn - Ymarferwr Datblygol 1
  • Sgiliau Gwaith Cymdeithasol Sylfaenol - Sgiliau ar gyfer Ymarfer 1
  • Technoleg Gwybodaeth Gymhwysol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol - Dadansoddi Gwybodaeth 1
  • Cyflwyniad i Tlodi a Pholisi Cymdeithasol - Fframwaith 1
  • Dysgu Gyda'n Gilydd - Cwblhau'r Cylch Partneriaeth 1
  • Y Persbectif Cwrs Bywyd - Unigolion mewn Cyd-destun 1
  • Cyfle Dysgu Ymarfer

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Mae'r flwyddyn hon yn gyfuniad o archwilio damcaniaeth ac elfennau ymarferiad y rôl gwaith cymdeithasol, a chyfle dysgu ymarferiad 80 diwrnod.

MODIWLAU

  • Gwrthdrawiadau a Phenblethau - Cwblhau'r Cylch 2
  • Y Gyfraith a Gwaith Cymdeithasol - Fframwaith 2
  • Anianawdau Rhyngbersonol - Ymarferwr Datblygol 2
  • Archwilio Sgiliau Gwaith Cymdeithasol - Sgiliau ar gyfer Ymarfer 2
  • Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru - Unigolion mewn Cyd-destun 2
  • Ymchwil ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol - Dadansoddi gwybodaeth 2
  • Cyfle Dysgu Ymarfer

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6) 

Mae'r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ddod â gwahanol elfennau'r damcaniaeth a'r ymarferiad ynghyd, ac i'r myfyrwyr wneud cyfle dysgu ymarferiad 100 diwrnod.

MODIWLAU

  • Integreiddio Sgiliau Gwaith Cymdeithasol - Sgiliau ar gyfer Ymarfer 3
  • Traethawd Hir - Dadansoddi Gwybodaeth 3
  • Proffesiynoliaeth Gyfrifol ac Atebol - Ymarferwr Datblygol 3
  • Yr Ymarferwr Creadigol - Cwblhau'r Cylch 3
  • Diogelu mewn Cyd-destun - Fframwaith 3
  • Cyfle Dysgu Ymarfer

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwyntiau tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol. Mae gofyn eich bod yn rhugl yn y Saesneg neu'r Gymraeg yn ysgrifenedig a llafar a bod â chymwysterau mewn Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) a Mathemateg - o leiaf gradd C / 4 mewn TGAU neu gymhwyster lefel 2 cyfatebol.

Mae profiad perthnasol (cyflogedig, gwirfoddol neu bersonol) hefyd yn hanfodol cyn gwneud cais ar gyfer y cwrs. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gofyn bod hyn cyfwerth â lleiafswm o 455 awr. Mae angen i chi ddangos dealltwriaeth o waith cymdeithasol.

Mae pob cynnig lle ar y rhaglen yma yn amodol ar gwblhau cliriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), fel ein bod yn gallu asesu eich addasrwydd i weithio gyda phlant a/neu oedolion sy’n agored i niwed. Yn ogystal, mae cael eich derbyn ar y rhaglen yn amodol arnoch yn cofrestru fel gweithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant gyda Chyngor Gofal Cymru.

Noder: rydym yn derbyn ceisiadau gohiriedig ar gyfer Gwaith Cymdeithasol mewn amgylchiadau eithriadol yn unig. Bydd angen i chi siarad â'r tîm derbyniadau os dymunwch holi ynglŷn â phosibilrwydd gohirio.

Addysgu ac Asesu

Cynhelir asesiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd: cyflwyniadau, traethodau, logiau dysgu myfyriol, traethawd hir, a mwy.

Anogir myfyrwyr i gynnal asesiadau anghenion dysgu ym mlwyddyn 1 os oes angen – bydd hyn yn arwain at y math gorau o gymorth dysgu yn cael ei gynnig i fyfyrwyr ar sail unigol.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae gwaith cymdeithasol effeithiol yn ymwneud ag integreiddio dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarfer. O ganlyniad, addysgir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a thrwy wahanol gyfryngau. Gall myfyrwyr ddisgwyl cael gwybodaeth syml, cymaint â chwarae rôl rhyngweithiol a gwaith grŵp. Mae dangos sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm ymwthiol yn hanfodion ymarfer gwaith cymdeithasol, felly disgwylir i chi gymryd rhan weithredol a chymryd rhan ym mhob cyfle ac arddull dysgu.

Mewn ymateb i C-19, mae'r rhaglen yn cael ei haddysgu mewn cymysgedd o sesiynau ar y campws ac ar-lein. Mae'n gwrs llawn amser, gyda 3 diwrnod yr wythnos wedi'i amserlennu yn ystod cyfnodau addysgu academaidd, a 5 diwrnod yr wythnos ar gyfleoedd dysgu ymarfer. Rhennir Cyfleoedd Dysgu Ymarfer yn 20 diwrnod, blwyddyn 1, 80 diwrnod, blwyddyn 2 a 100 diwrnod, blwyddyn 3.

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae llawer o rolau ar gael i weithwyr cymdeithasol cymwysedig, mewn timau statudol (fel arfer o fewn Awdurdodau Lleol neu sefydliadau fel Byrddau Iechyd), ac yn y trydydd sector. Ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth ar gyfer gwybodaeth fanwl yw gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel y corff rheoleiddio ar gyfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru, mae'n bwysig eich bod yn dod yn gyfarwydd â'u gofynion.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.