Manylion cwrs

Côd UCAS

BS21

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 6 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

80-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Achrediad gan

Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol (IBMS)

labordai newydd sbon

Partneriaeth â

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein gradd BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol yn berthnasol i gyflogwyr ac yn eich paratoi ar eu cyfer, ac mae’n manteisio ar y bartneriaeth rhwng Prifysgol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r radd wedi’i hachredu gan Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol (IBMS).

Caiff ei addysgu gan dîm profiadol o academyddion, gwyddonwyr biofeddygol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sydd ag ystod o arbenigedd pwnc ac ymchwil.

Dyma nodweddion y cwrs:

  • Caiff ei addysgu gan academyddion o Gyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ogystal â Chyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd yn y brifysgol.
  • Mae’n cynnwys modiwlau wedi’u harwain a’u cynnal gan ymarferwyr cyfredol Gwyddor Biofeddygol.
  • Gellir defnyddio’r labordai newydd sbon ar gampws Plas Coch.
  • Mae opsiwn i chi wneud gwaith mewn labordai clinigol yn y Gogledd.
  • Mae’n cynnwys gwaith labordy, sy’n rhoi modd i chi ymwneud ag ymchwilwyr a gwyddonwyr biofeddygol cyfredol.
  • Mae’n rhoi modd i chi ddatblygu prosiectau ymchwil annibynnol i’w cynnal mewn labordai clinigol.
  • Mae’n defnyddio labordai ymchwil lleol, sydd ag offer o’r radd flaenaf, megis cytometreg llif, microscopi fflworoleuol a dadansoddwyr moleciwlau.
  • Mae’n dilyn ein Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF), sy’n coleddu pwysigrwydd bod yn hyblyg, yn hygyrch a meithrin ymdeimlad o gymuned.
  • Bydd yn eich galluogi i ddatblygu sylfaen drylwyr mewn ymarfer moesegol ac adfyfyriol, gan roi sylfaen wybodaeth gadarn sy’n benodol i bwnc.
  • Mae’n gwella eich sgiliau dadansoddi drwy ymchwiliadau labordy sy’n defnyddio methodoleg fiofeddygol.
IBMS accredited programme

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae ein gradd Gwyddor Biofeddygol wedi’i hachredu gan Sefydliad y Gwyddorau Biofeddygol (IBMS).
  • Mae wedi’i datblygu ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd Prifysgol lleol i sicrhau addysg ddilys a chyfoes mewn lleoliadau biofeddygol go iawn, a hynny drwy gydol y rhaglen.
  • Mae’n rhoi cyfle i chi ddefnyddio cyfleusterau newydd, arbenigol iawn sydd wedi’u lleoli yn y brifysgol, mewn canolfannau ymchwil lleol ac mewn labordai clinigol.
  • Caiff y cwricwlwm a’r asesu eu hadolygu’n rheolaidd drwy gyfarfodydd cyswllt â chyflogwyr lleol a labordai’r GIG er mwyn sicrhau eich bod yn cael y cysyniadau diweddaraf ym maes Gwyddor Biofeddygol.
  • Mae’n cynnwys blwyddyn sylfaen ddewisol i’ch paratoi at astudio ymhellach drwy adeiladu ar eich gwybodaeth wyddonol sylfaenol a’ch sgiliau astudio academaidd.
  • Mae’r addysgu yn gynhwysol a chefnogol ac mae cymorth tiwtorial drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN UN (LEFEL 4)

Mae blwyddyn gyntaf ein rhaglen yn sefydlu platfform y wybodaeth graidd ar draws meysydd pwnc allweddol gan gynnwys bioleg, ffisioleg, mathemateg ac ystadegau, yn ogystal â chyflwyno myfyrwyr i imiwnoleg a microbioleg. Mae modiwlau penodol yn sicrhau bod myfyrwyr yn ennill y sgiliau labordy angenrheidiol ac yn cael dealltwriaeth sylfaenol o faterion proffesiynol sy’n berthnasol i’r gwyddonydd biofeddygol.

Modiwlau

  • Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: Nod y modiwl yw eich cyflwyno i elfennau damcaniaethol, ymarferol a phroffesiynol y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.
  • Bioleg Celloedd, Biocemeg a Geneteg: Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi ymgyfarwyddo â rhannau strwythurol celloedd, biocemeg a sut mae celloedd yn gweithredu, gyda phwyslais arbennig ar geneteg a strwythur DNA. Bydd hefyd yn cyflwyno technegau labordy perthnasol.
  • Mathemateg ac ystadegau ar gyfer gwyddoniaeth: Bydd y modiwl hwn yn codi mathemateg myfyrwyr i lefel gofynnol ar gyfer rhaglenni gwyddoniaeth prifysgol. Bydd ystadegau sylfaenol, tebygolrwydd a dadansoddi data hefyd yn cael eu cynnwys yn y modiwl hwn i baratoi at fodiwlau yn y dyfodol.
  • Sgiliau hanfodol ar gyfer Gwyddorau Bywyd: Nod y modiwl yw datblygu sgiliau hanfodol mewn gweithdrefnau labordy, gwerthfawrogi moeseg, y cysylltiad rhwng theori ac arbrofi a dadansoddi cysylltiedig. Bydd hefyd yn datblygu ac yn gwella sgiliau ysgrifennu adroddiadau arbrofol.
  • Iechyd, Lles a'r Corff: Bydd y modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o weithrediad ffisiolegol arferol prif systemau’r corff, a chynnal homeostasis mewn unigolion iach.
  • Cyflwyniad i Imiwnoleg a Microbioleg: Bydd y modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth graidd ym meysydd microbioleg ac imiwnoleg ac yn eu galluogi i wneud gwaith ymarferol mewn Labordai microbioleg a phatholeg.

BLWYDDYN DAU (LEFEL 5)

Mae ail flwyddyn y rhaglen gan mwyaf yn cynnwys modiwlau arbenigol er mwyn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i chi ym meysydd allweddol Gwyddor Biofeddygol. Cewch eich addysgu am fethodoleg ymchwil a byddwch yn cynllunio ac yn gwneud prosiect bach i’ch paratoi at brosiect y flwyddyn olaf. Caiff sgiliau ymarferol eu hatgyfnerthu drwy dreulio 5 wythnos mewn lleoliad ymchwil clinigol.

Modiwlau 

  • Bioleg Foleciwlaidd a Chelloedd: Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth ymhellach am y pwnc hwn gan adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y flwyddyn gyntaf. Bydd yn archwilio swyddogaethau hanfodol y gell gan gynnwys metabolaeth, dyblygu DNA a mynegiant genynnau. Bydd hefyd yn archwilio bioleg moleciwlaidd yn fanwl a phynciau fel marcwyr polymorffig, dadansoddiad RFLP a chlefyd genetig. Bydd hefyd yn archwilio bioleg foleciwlaidd yn fanwl a phynciau megis marcwyr polymorffig, dadansoddiad RFLP a chlefyd genetig.
  • Gwyddorau’r Gwaed: Bydd y modiwl yn datblygu eich dealltwriaeth o wyddoniaeth drallwyso (tranfusion) ac anhwylderau haematolegol a biocemegol clinigol amrywiol (gwyddorau’r gwaed), yn ogystal â datblygu gwybodaeth fanwl am yr ymchwiliadau labordy i roi diagnosis a rheoli clefydau o’r fath.
  • Theori, Ymarfer a Dulliau Ymchwilio: Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau mewn cyd-destun ymchwil a pharatoi i gynnal prosiect ymchwil.
  • Cellog a Histopatholeg: Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwerthfawrogiad beirniadol o bwysigrwydd clinigol a labordy sytoleg a histopatholeg wrth gael diagnosis a rheoli clefydau dynol.
  • Microbioleg Feddygol: Bydd y modiwl hwn yn sefydlu gwybodaeth ddofn ac eang am bathogenau microbaidd, eu cylchoedd bywyd a sut maent yn rhyngweithio â phobl ac organebau lletyol eraill. Bydd yn archwilio mesurau rheoli a phrofion microbiolegol ac yn eu cymhwyso i astudiaethau achos.
  • Sgiliau Labordy Uwch ar gyfer Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol: Mae’r modiwl yn eich cyflwyno i dechnegau labordy uwch Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol, er mwyn datblygu dealltwriaeth o Faterion Rheoleiddio, Iechyd a Diogelwch, a chymhwyso gwybodaeth academaidd mewn cyd-destun Labordy Patholeg.

BLWYDDYN TRI (LEFEL 6)

Mae’r flwyddyn astudio olaf yn canolbwyntio ar bynciau sydd ar flaen y gad mewn ymchwil gyfredol ym maes Gwyddor Biofeddygol a bydd yn datblygu eich sgiliau beirniadol a dadansoddol ymhellach. Rhan sylweddol o’r flwyddyn olaf yw prosiect ymchwil 40 credyd lle cewch wneud darn annibynnol o ymchwil mewn maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Modiwlau

  • Prosiect ymchwil: Mae’r modiwl hwn yn gyfle i chi integreiddio a defnyddio gwybodaeth a gawsoch yn ystod eich astudiaethau gradd, gan eu defnyddio mewn modd hunanysgogol ac ymarferol i ymchwilio a datrys problemau, ac ymestyn eich dysgu i faes penodol mewn gwyddoniaeth gymhwysol. Bydd hefyd yn datblygu eich arbenigedd ymchwil ymarferol ac yn eich paratoi at astudio ôl-radd/cyflogaeth ar lefel graddedigion mewn maes gwyddoniaeth gymhwysol.
  • Bioleg Clefydau: Yn y modiwl hwn datblygir y cysyniad o glefyd yng nghyd-destun y mecanweithiau ffisiolegol arferol. Bydd yn archwilio pathoffisioleg cyflyrau cyffredin, gan ddechrau gyda dealltwriaeth feirniadol o fecanweithiau patholegol meinweoedd, organau a systemau organau dethol a ffarmacolegol cysylltiedig.
  • Geneteg Glinigol a Bioleg Canser: Bydd y modiwl yn datblygu eich dealltwriaeth o dechnegau modern ar gyfer adnabod ac astudio genynnau sy’n gysylltiedig â chlefydau dynol. Bydd yn cynnwys ymchwilio i batholeg anhwylderau genetig etifeddadwy mewn pobl, sgrinio genetig, therapi genynnau dynol a meddygaeth bersonol. Yn ogystal, astudir bioleg canser, celloedd tiwmor, oncogenau, genynnau atal tiwmor ac epigeneteg canser.
  • Clefyd Heintus, Imiwnedd a Llid: Bydd y modiwl hwn yn hybu’r gallu i werthuso’r berthynas rhwng agweddau ar fioleg ddynol, rheoli heintiau a microbioleg feddygol, rôl llid ac ymatebion imiwnedd penodol ac amhenodol, yn ogystal â phatholeg moleciwlaidd a chellog clefydau sy’n gysylltiedig ag ymateb yr imiwnedd (e.e. diffyg imiwnedd).
  • Datblygiadau mewn Meddygaeth - Diagnosteg a Therapiwteg: Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o’r prif ddulliau diagnostig, ymyriadau therapiwtig a strategaethau triniaeth (meddygol a llawfeddygol) wrth reoli’r prif glefydau ac anhwylderau.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 o bwyntiau tariff UCAS ar lefel Safon Uwch TAG neu gyfwerth, gan gynnwys gwyddoniaeth ar lefel 3.

Addysgu ac Asesu

Wedi’i ategu gan Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF) y Brifysgol, mae’r cwrs yn cyflwyno’r dysgu drwy nifer o ddulliau hyblyg:

  • Sesiynau cydamserol (byw) ac anghydamserol (sef wedi’u recordio ymlaen llaw)
  • Sesiynau ymarferol mewn labordy
  • Darlithoedd, seminarau a thiwtorialau grŵp
  • Astudio hunangyfeiriedig a thasgau annibynnol

Defnyddir dysgu cyfunol, sy’n amrywio rhwng modiwlau. Bydd rhywfaint o weithgareddau ar y campws (3 diwrnod yr wythnos ar gyfer pob lefel o’r rhaglen), sesiynau ar-lein a gweithgareddau rhyngweithiol.

Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu; mae’r rhain yn cynnwys dyddiaduron dysgu, prosiectau grŵp, portffolios, gwaith cwrs, adolygiadau llenyddiaeth, cyflwyniadau llafar a phosteri, astudiaethau achos ac adroddiadau labordy, ac arholiadau/profion yn y dosbarth. Asesir pob modiwl drwy amryw o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu potensial llawn. Traethawd hir fydd un o elfennau olaf eich asesiad. Caiff y rhan fwyaf o aseiniadau eu cyflwyno yn electronig.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'r cwrs yn creu cyfleoedd eang ar gyfer cyflogaeth yn y meysydd canlynol: 

  • Gwyddonydd biofeddygol (GIG/sector preifat) 
  • Diwydiant biotechnoleg (ymchwil a datblygu) 
  • Diwydiant fferyllol (ymchwil a datblygu) 
  • Diwydiant bwyd a dŵr (profi, ymchwil a datblygu) 
  • Gwerthu Meddygol 
  • Gweithiwr cymorth gofal iechyd 
  • Gweithiwr labordy milfeddygol 
  • Ymchwilydd academaidd 
  • Addysgu 

Cymwysterau: 

Mae'r cwrs hwn yn darparu paratoad ar gyfer ymgymryd â Thystysgrif Cymhwysedd y Sefydliad Gwyddoniaeth Biofeddygol (gofyniad gorfodol i fod yn Wyddonydd Biofeddygol cofrestredig sy'n gysylltiedig â'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal). 

Mae'n paratoi myfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn ymchwil, addysgu, meddygaeth, deintyddiaeth neu ddilyn astudiaethau tuag at ein gradd MSc mewn Gwyddoniaeth Biofeddygol, Tystysgrif PhD neu Dystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR). 

Bydd cwblhau'r radd hon hefyd yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth y tu allan i feysydd gwyddoniaeth biofeddygol uniongyrchol fel rolau rheoli a chyllid. 

Mae'r cwrs BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol yn berthnasol ac yn barod i gyflogwyr, gan ddefnyddio partneriaeth rhwng Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Mae wedi'i achredu gan y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol (IBMS). Fe'i haddysgir gan dîm profiadol o academyddion, gwyddonwyr biofeddygol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sydd ag ystod o arbenigedd pwnc ac ymchwil. 

Mae achrediad gradd IBMS yn sicrhau bod cwrs gradd yn cwmpasu cydrannau academaidd y safonau hyfedredd ar y lefel ofynnol, felly rydym yn bodloni safonau hyfedredd y Cyngor Proffesiwn Iechyd a Gofal (HCPC) ar gyfer gwyddonwyr biofeddygol. Mae myfyrwyr hefyd yn derbyn addysg wyddonol eang sy'n seiliedig ar ymchwil ac yn datblygu sgiliau ymarferol a phrofiad y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. 

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.