Horse wearing a bridle

Manylion cwrs

Côd UCAS

758D

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Northop, Wrecsam

*Yn amodol ar ail-ddilysu

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r berthynas rhwng ceffyl a bod dynol yn cael ei ystyried fwyfwy yn ganolog i ddatblygiad y diwydiant marchogaeth - ac mae’r radd hon yn un o nifer dethol iawn yn y DU sydd yn canolbwyntio ar hyn.

Wedi’i lleoli ar ein Campws Llaneurgain gwledig gyda chynnwys ymarferol yn cael ei gyflwyno’n bennaf ar Fridfa Clwyd, Owrtyn-ar-y-Coed, mae’r radd yn adeiladu ar record gref y brifysgol o addysgu mewn gwyddor ymddygiadol a cheffylau.

Bydd myfyrwyr yn:

  • *Astudio mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU o ran boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Amaeth & Choedwigaeth y Complete University Guide 2022
  • Barod ar gyfer astudiaeth bellach gyda blwyddyn sylfaen wedi’i rhannu gyda myfyrwyr gwyddor anifeiliaid eraill
  • Elwa o bartneriaeth gyda busnesau lleol i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a phrofiad perthnasol i’r diwydiant
  • Mwynhau darlithoedd gan siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgiadol drwy gydol y cwrs
  • Derbyn hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyfer arholiadau Cymdeithas Ceffylau Prydain ochr yn ochr â’r radd, ynghyd â £100 tuag at arholiadau ceffylau galwedigaethol o’ch dewis

Prif nodweddion y cwrs

  • Hyfforddiant rhad ac am ddim ochr yn ochr â’ch gradd a £100 tuag at gost cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain.
  • Cymhwyso egwyddorion gwyddonol newydd a chyfredol i reoli a hyfforddi ceffylau, gan ganolbwyntio ar les anifeiliaid.
  • Astudio yn ein campws gwledig yn Llaneurgain yng nghefn gwlad drawiadol Gogledd Cymru, gyda dysgu ymarferol yn Bridfa Clwyd, Owrtyn, y ddau yn darparu mynediad at gyfleusterau marchogaeth rhagorol, yn ogystal â defnyddio amwynderau ar y campws yn Wrecsam.
  • Cael mantais yn y farchnad swyddi drwy gael profiad yn y diwydiant o leoliadau gwaith, ymweliadau addysgol a siaradwyr gwadd.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn flwyddyn integredig lle byddwch yn astudio modiwlau craidd gydag ystod eang o fyfyrwyr o bob rhan o'r Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, gan roi mynediad i chi at wahanol safbwyntiau a chyfleoedd rhwydweithio.  

Bydd y modiwlau yn eich arfogi â sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer Addysg Uwch a thu hwnt. Byddant yn rhoi cyfle i chi archwilio eich maes pwnc a'ch gyrfaoedd sydd ar gael, gan eich galluogi i addasu eich darllen a'ch asesiadau i fod yn berthnasol i'ch llwybr gradd. 

Ochr yn ochr ag addysgu gan staff ehangach y gyfadran, byddwch yn gallu cwrdd â staff a myfyrwyr eraill o'ch prif lwybr gradd a chymryd rhan mewn digwyddiadau a chyfleoedd y maent yn eu cynnal.  

  • Bydd Sgiliau Astudio ar gyfer Llwyddiant (craidd) yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn confensiynau academaidd a sgiliau rheoli amser i'ch helpu i symud ymlaen trwy'ch gradd.  
  • Gwydnwch mewn Addysg Uwch a Thu hwnt (Craidd) Mae datblygiad a gwytnwch personol yr un mor bwysig â sgiliau academaidd wrth gyflawni eich taith tuag at raddio, a bydd y modiwl newydd cyffrous hwn yn eich arfogi â'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer hyn.  
  • Diwrnod ym Mywyd (Bywyd) Mae'r modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio'r opsiynau gyrfa posibl sydd ar gael i chi ar ôl i chi gwblhau eich gradd dewisol. Byddwch yn archwilio'r proffesiynau sy'n gysylltiedig â'ch gradd ac yn dechrau paratoi eich portffolio graddedigion ar gyfer cyflogwyr.  
  • Bydd Bywyd a Gwaith yng Nghyd-destun Cymru (craidd) yn rhoi cyfle i chi archwilio eich maes pwnc a/neu yrfa ddymunol mewn perthynas â byw a gweithio yn y Gymru sydd ohoni.  

Mae'r gyfres o fodiwlau dewisol wedi'u cynllunio i wella'ch sylfaen sgiliau mewn perthynas â'ch datblygiad gyrfa. Bydd eich tiwtor personol o'ch gradd yn cwrdd â chi i'ch helpu i benderfynu pa un o'r modiwlau dewisol fyddai fwyaf addas i chi. Y modiwlau dewisol yw:  

  • Mae’r Gymraeg i Ddechreuwyr yn rhoi cyflwyniad i'r Gymraeg i'r rhai sy'n cymryd eu camau cyntaf Rhifedd lle mae angen lefel gymwys o rifedd ar eich gradd, efallai y cewch eich cynghori i ddewis yr opsiwn hwn.  
  • Cyfathrebu Proffesiynol yn y Gweithle yn y modiwl hwn, byddwch yn dechrau datblygu'r sgiliau a'r gallu angenrheidiol i gyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun proffesiynol.  
  • Mathemateg a Dylunio Arbrofol os oes angen dealltwriaeth o'ch llwybr gradd o rifedd a'r gwyddorau, yna mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle i gyflawni hynny.  

Mae amrywiaeth o asesiadau ar draws y flwyddyn sylfaen – cyflwyniadau, portffolios, archebu sgrap electronig a logiau dysgu, er enghraifft. 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Yn ystod lefel 4 bydd myfyrwyr yn cyfuno theori ac ymarfer. Byddant yn archwilio ymddygiad ceffylau a sut mae ceffylau yn dysgu. Byddant yn cwestiynu moeseg ein diwydiant ac ennill y sgiliau ymarferol angenrheidiol ar gyfer eu gyrfa i’r dyfodol. Bydd myfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith, a hyd yn oed ar ddechrau eu gyrfa academaidd bydd gofyn iddynt ganolbwyntio ar eu llwybr gyrfa.

MODIWLAU

  • Cysyniadau Biolegol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o egwyddorion allweddol bioleg anifeiliaid, pathogenau biolegol, sgiliau labordy a strwythurau a swyddogaethau anatomegol. Bydd sylw yn cael ei roi i darddiad a dosbarthiad bywyd ynghyd â strwythur a swyddogaeth celloedd a meinweoedd. Bydd prif organau a systemau corff yr anifail yn cael eu cyflwyno hefyd.
  • Rheoli Stablau (1): Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod dysgwyr yn gweithio’n ddiogel ac abl gyda cheffylau. Mae’n rhoi sylw i ofalu am geffylau a’u bwydo, ynghyd â dethol a ffitio cyfrwyau a harneisiau ac offer. Bydd hefyd yn cynnwys paratoi ceffylau i deithio a chystadlu.
  • Ymarfer Proffesiynol: Yn y modiwl hwn byddwch yn astudio ystod o gyfleoedd gyrfâu a heriau cysylltiol o ran dod o hyd i gyflogaeth yn y sector ceffylau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau mewn lleoliad gwaith o’u dewis.
  • Datblygiad Academaidd a Phersonol: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn cynefino gyda diwylliant Addysg Uwch, yn adeiladu’r sgiliau allweddol (rhesymegol, mathemateg a beirniadol) sydd yn angenrheidiol i astudio’n llwyddiannus mewn Addysg Uwch.
  • Moeseg a Lles: Nod y modiwl hwn yw archwilio materion cyfoes yn ymwneud â lles ceffylau ac anifeiliaid, a chyflwyno myfyrwyr i ystod o faterion moesegol perthnasol. Bydd amrywiaeth o faterion lles cyfoes yn cael eu cloriannu yn ystod y modiwl. Bydd gan fyfyrwyr gyfle i gyflwyno eu gweithdai a’u seminarau eu hunain.
  • Ymddygiad a Gwybyddiaeth Ceffylau: Bydd myfyrwyr yn archwilio’r cysylltiad rhwng amgylchedd a phatrymau ymddygiad ceffylau, ac yn cysylltu gwybyddiaeth ceffylau gydag arferion rheoli. Byddant hefyd yn astudio esblygiad ceffylau, datblygiad ymddygiad, dofi ac effeithiau arferion marchogaeth cyfoes ar y ceffyl.  Bydd dealltwriaeth o ddamcaniaethau dysgu hefyd yn rhan bwysig o gyflwyniad y modiwl.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Mae lefel 5 yn gyfle i fyfyrwyr adeiladu ar bynciau blaenorol a rhoi eu dysgu ar waith. Byddant yn archwilio effeithiau rheoli a hyfforddi ceffylau drwy astudio anatomeg, ffisioleg a ffitrwydd. Byddant yn archwilio deiet y ceffyl a hefyd sut mae ceffylau yn dysgu. Mae sgiliau academaidd yn cael eu datblygu yn ystod y flwyddyn hon drwy ddechrau’r broses ymchwil.

MODIWLAU

  • Anatomeg a Ffisioleg: Nod y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr gyda gwybodaeth ymarferol o anatomeg dopograffig ac ysgerbydol a’u galluogi i adnabod arwyddnodau anatomegol. Byddwch yn dysgu sut i gysylltu strwythur anatomegol â swyddogaeth a datblygu ymhellach eich sgiliau labordy ymarferol.
  • Dysgu a Hyfforddi: Nod y modiwl hwn yw atgyfnerthu egwyddorion theori dysgu fel y’u cymhwysir i geffylau, a chysylltu dysgu ceffylau gydag arferion hyfforddi a gwerthuso dulliau ac offer traddodiadol a chyfoes o hyfforddi ceffylau. Bydd y ddarpariaeth ddamcaniaethol ac ymarferol yn rhoi sylw i bynciau dysgu a deallusrwydd ceffylau, dulliau hyfforddi ceffylau, a delio gyda phroblemau wrth hyfforddi ceffylau.
  • Rheoli Stablau (2): Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar y rheoli stablau a astudiwyd ar lefel pedwar, ac mae’n cynnwys paratoi ceffylau ar gyfer disgyblaethau amrywiol, offer ffariaeth sylfaenol a gofal carnau, ac mae’n gyfle i fyfyrwyr ddysgu sut i dywys ceffylau.
  • Maetheg ac Ymarfer Bwydo: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddadansoddi strwythur, swyddogaeth a gwerth i’r corff cydrannau maethol mewn bwyd ceffylau. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi’n feirniadol gyfansoddiad bwyd ceffylau a rôl porthiannau gwahanol o fewn deiet y ceffyl. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gyfrifo dognau bwyd ar gyfer ceffylau o wahanol oedrannau ac ar gyfer gwahanol lefelau o ‘waith’.  
  • Methodolegau Ymchwil: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i ddeall rôl ymchwil perthnasol o fewn maes astudiaethau ceffylau. Yn ogystal, bydd yn eich arfogi â’r gallu i gynllunio prosiect ymchwil yn eich maes astudio, i ddiffinio paramedrau ymchwil, asesu methodolegau priodol, a chyflwyno eich canfyddiadau. Byddwch yn dysgu sut i archwilio ac asesu pa mor briodol yw gwahanol fethodolegau ymchwil i wahanol friffiau a dod yn ymwybodol o faterion moesegol a gwleidyddol mewn ymchwil cymdeithasol.
  • Iechyd a Ffitrwydd Ceffylau: Bydd myfyrwyr yn asesu cydffurfiad iechyd ac afiechyd ceffylau yn y modiwl hwn. Bydd dulliau o gael ceffylau yn heini a’u hymateb ffisiolegol i ymarfer corff hefyd yn cael eu cynnwys. Bydd y modiwl yn cael ei gyflwyno drwy theori ac ymarfer.

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Mae’r flwyddyn olaf yn gyfle i fyfyrwyr gwblhau eu darn unigryw eu hunain o ymchwil, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar destun o’u dewis. Mae atgenhedliad ceffylau a rheoli stoc ifanc hefyd yn cael sylw, ynghyd â dulliau o addasu ymddygiad. Mae datblygiad gyrfaol hefyd yn thema ganolog, ac mae disgwyl i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau datblygiad proffesiynol ychwanegol ochr yn ochr â'u gradd i wella eu cyfleoedd i gael gwaith.

MODIWLAU

  • Atgenhedliad Ceffylau a Rheoli Stoc Ifanc: Bydd myfyrwyr yn archwilio anatomeg a ffisioleg atgenhedlu yn y gaseg a’r stalwyn ac yn archwilio effaith technegau atgenhedlu modern ar lwyddiant atgenhedlu. Bydd dulliau o drin a hyfforddi ceffylau ifanc hefyd yn cael eu cynnwys.
  • Sgiliau Ymchwil Cymhwysol a Datblygiad Proffesiynol: Nod y modiwl yw arfogi myfyrwyr gyda’r sgiliau i werthuso dyluniad ymchwil yn feirniadol fel sy’n berthnasol i wyddor a rheoli lles ceffylau, a dethol a chyfiawnhau dulliau priodol o gasglu a dadansoddi data, ac adlewyrchu ar ddatblygiad personol dros gyfnod y rhaglen o astudiaeth mewn paratoad ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn astudio prosesau ymchwil, a dadansoddiad ystadegol sydd yn berthnasol i’w maes astudiaeth. Byddant hefyd yn edrych ar sut i ddefnyddio’r pecyn ystadegol SPSS.
  • Prosiect Ymchwil: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gwerthuso ymchwil yn feirniadol a bydd yn arwain myfyrwyr at gwblhau astudiaeth seiliedig ar ymchwil mewn maes arbenigol sy’n ymwneud â gwyddor a rheoli lles ceffylau. 
  • Addasu Ymddygiad Anifeiliaid: Nod y modiwl hwn yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r angen am ymagwedd systematig at ddeall achoseg problemau ymddygiad a welir mewn ceffylau. Bydd yn ymestyn eu dealltwriaeth o sut i ddadansoddi problemau ymddygiad mewn ceffylau a gwerthfawrogi cyfyngiadau technegau diagnostig perthnasol. Bydd hefyd yn gyfle iddynt ddatblygu’r sgiliau perthnasol i awgrymu atebion priodol i broblemau ymddygiad.
  • Straen a Lles Anifeiliaid: Mae’r modiwl yn galluogi myfyrwyr i archwilio sut gellir rheoli straen anifeiliaid mewn amrywiaeth o amgylcheddau a sefyllfaoedd. Ei nod hefyd yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o addasiadau ffisiolegol ac ymddygiadol mewn anifeiliaid sy’n ganlyniad i ddefnydd a hwsmonaeth fodern.

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48-72 pwyntiau tariff UCAS ond mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol a byddwn yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.

Mae’r gofynion mynediad er arweiniad cyffredinol. Caiff cymwysterau a phrofiad amgen eu hystyried hefyd. Caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei rinwedd unigol ei hun.   

Addysgu ac Asesu

Cyflawnir y modiwlau drwy gyfuniad o ddarlithoedd damcaniaethol, trafodaethau seminar, darlithwyr gwadd, ymweliadau addysgol, a gwaith ymarferol. Rhwng darlithoedd disgwylir i fyfyrwyr ddarllen am eu pynciau gan ddefnyddio’r rhestrau darllen manwl a gyhoeddir yn y Canllawiau i Fodiwlau. Asesir pob modiwl mewn sawl ffordd.

Mae’r asesu’n cynnwys traethodau academaidd, posteri ymchwil, cyflwyniadau, trafodaethau seminar ac asesiadau ymarferol. Mae’r cydbwysedd rhwng y gwahanol fathau o asesiad yn cael ei benderfynu gan wahanol amcanion a deilliannau dysgu’r modiwlau.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein Cymorth Myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall  y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Bydd y radd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd  gan gynnwys gwaith lles ac adsefydlu ceffylau, hyfforddi ceffylau, hyfforddi marchogion neu reoli iard geffylau fasnachol. Byddwch hefyd yn barod i weithio mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant ceffylau, er enghraifft ymchwil a gwaith ymgynghori neu astudiaeth ôl-raddedig. Yn ychwanegol at weithio yn y meysydd hyn mae myfyrwyr blaenorol hefyd wedi sefydlu eu busnesau eu hunain.

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Yn amodol ar ail-ddilysu

Fel rhan o’i phroses barhaus o sicrhau a gwella ansawdd, mae’r Brifysgol yn adolygu ei chyrsiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a chyflogwyr. Pob yn bum mlynedd mae angen cynnal adolygiad cyfnodol o’r holl raglenni cyfredol, ac mae’n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i raglenni yn ystod y broses o ail-ddilysu.

Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn ‘amodol ar ail-ddilysu’ yn cael eu cymeradwyo gan y broses ddilysu; fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na fydd cwrs yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, neu’n cael ei newid yn sylweddol, cewch eich hysbysu gan y brifysgol a rhoddir cymorth i’r bobl hynny sydd wedi cael cynnig lle i ganfod cwrs amgen addas naill ai ym Mhrifysgol Wrecsam neu gyda darparwr arall.