Manylion cwrs

Côd UCAS

7F28

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Partneriaeth

gyda nifer o ddiwydiannau ym meysydd gwyddoniaeth fforensig, cemegol, dadansoddol a deunyddiau

Hyfforddi

mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ymchwilio i leoliad trosedd, bioleg a chemeg

‘Fferm cyrff’ 1af

o’r math yng Nghymru ar gyfer astudiaeth ac ymchwil taffonomig

dusting for prints

Fforensig yn Prifysgol Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Yn barod i dreiddio i'r egwyddorion gwyddonol sy'n sail i ymchwiliadau fforensig? Mae ein cwrs yn eich arfogi i archwilio lleoliadau trosedd, dadansoddi tystiolaeth a chyflwyno canlyniadau yn y llys fel tyst arbenigol. O drawma grym sydyn i sbectra, esgyrn i chwilod, paratowch i ddatblygu eich sgiliau ymarferol ar gyfer gyrfa wyddonol gyffrous


Byddwch yn:

  • Cael profiad ymarferol i sicrhau eich bod yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen yn y diwydiant, gan ddefnyddio ein labordai addysgu o'r radd flaenaf, y tŷ lleoliad trosedd a'n cyfleuster ymchwil dadelfeniad.
  • Dewis o dri maes penodol o arbenigedd mewn cemeg fforensig, bioleg fforensig neu ymchwiliad post mortem gyda chyfleusterau ac offer cynhwysfawr wedi'u neilltuo ar gyfer pob maes.
  • Cael y cyfle i astudio’n ddwyieithog wrth i ni wreiddio sgiliau Cymraeg ar draws y rhaglen, gan roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi. 
  • Manteisio ar ein cysylltiadau rhagorol â sefydliadau lleol a rhyngwladol, gan gynnwys labordai arbenigol, heddluoedd lleol ac arbenigwyr mewn meysydd fel technoleg dronau ac adnabod dioddefwyr trychineb.
  • Derbyn addysgu a chefnogaeth gan dîm o staff cymwys iawn sydd ag ystod o arbenigedd a diddordebau.
  • Cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol i gyfoethogi eich prif raglen astudio megis darlithoedd gwadd, cyrsiau byr, gwibdeithiau lleol, a theithiau preswyl
  • Meithrin llwybr hyder academaidd gyda’n Blwyddyn Sylfaen i’r rhai sy’n dychwelyd i astudio neu sydd eisiau mwy o amser a chymorth i ddatblygu eu gwybodaeth wyddonol

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae'r cwrs hwn yn galluogi myfyrwyr i ddilyn eu cryfderau a'u diddordebau gyda llwybrau allweddol mewn cemeg fforensig, bioleg fforensig ac ymchwiliad post mortem.
  • Manteisiwch ar ein labordai gwyddoniaeth sydd newydd eu hadnewyddu gyda systemau clyweledol o'r radd flaenaf ac offer addysgu sy'n caniatáu profiad ymarferol o offer labordy modern gan gynnwys ystod eang o offerynnau dadansoddol.
  • Bydd gennych fynediad i gyfleusterau arbenigol fel adeiladau a cherbydau safleoedd trosedd sy'n caniatáu i amrywiaeth o senarios gael eu dyblygu. Mae gennym hefyd y Cyfleuster Ymchwil Dadelfeniad cyntaf a’r unig un yng Nghymru, sef ystafell waith esgyrneg gyda mynediad i weddillion dynol ac anifeiliaid, ystafell llys bwrpasol ar gyfer treialon ffug a’r Labordy FAST 3D.
  • Cyfleoedd dysgu cysylltiedig â gwaith i bob myfyriwr yn ogystal â blwyddyn leoliad benodol i fyfyrwyr sy'n dewis y llwybr hwn yn ogystal â chyfleoedd i gydweithio a rhwydweithio ag ymchwilwyr ac ymarferwyr o amrywiaeth o arbenigeddau.
  • Grwpiau addysgu bach gyda chymhareb myfyrwyr i staff isel yn cefnogi cefnogaeth unigol gydag astudiaethau, gan gynnwys y cyfle i ddechrau dysgu neu ddatblygu sgiliau Cymraeg cyfredol. Mae hyn yn cynnwys deunydd Cymraeg wedi'i goladu'n ofalus yn ystod pob blwyddyn academaidd a'r opsiwn ar gyfer tiwtorialau yn Gymraeg.
  • Cyfleoedd i ymuno â sawl corff proffesiynol fel myfyriwr sy’n aelod, gan gynnwys Cymdeithas Siartredig y Gwyddorau Fforensig, y Gymdeithas Frenhinol Bioleg, y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a Sefydliad yr Archeolegwyr.

Beth fyddwch chin ei astudio

Blwyddyn 1 (Blwyddyn Sylfaen)

Y Sgiliau sydd eu hangen arnoch (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw sicrhau eich bod yn datblygu'r sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol allweddol sydd eu hangen ar gyfer astudio'n llwyddiannus ar lefel addysg uwch. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol, deallusol a chyfathrebu angenrheidiol sy’n sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus i Lefel 4 a dilyniant trwy raglenni gradd Anrhydedd a’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth ddilynol a/neu astudiaeth bellach

Cyflwyniad i Wyddoniaeth (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw rhoi'r wybodaeth gefndir sylfaenol i chi mewn gwyddoniaeth naturiol sy'n ofynnol ar gyfer eich astudiaeth gradd lawn yn y meysydd perthnasol. Yn benodol, ei nod yw eich annog i ddatblygu hyder yn eich galluoedd eich hun mewn gwyddoniaeth, cyflwyno cronfa sylfaenol o wybodaeth mewn prif feysydd gwyddonol, datblygu eich sgiliau dysgu a'ch gallu i gymhwyso cysyniadau gwyddoniaeth i ddatrys problemau, a'ch galluogi i ennill dealltwriaeth o sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn dylanwadu ac yn cael eu dylanwadu gan gymdeithas gyfoes.

Sgiliau Labordy a Maes (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i ystod o sgiliau labordy a maes sylfaenol mewn gwyddor naturiol gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaeth gradd lawn yn y meysydd perthynol. Yn benodol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o ddamcaniaethau a chysyniadau gwyddonol sylfaenol sydd eu hangen i wneud y gwaith labordy a maes perthnasol a datblygu sgiliau labordy a maes.

Bioleg Planhigion ac Anifeiliaid (Craidd) - Nod y modiwl yw rhoi trosolwg eang i chi o fioleg, wedi'i roi mewn cyd-destun o ran planhigion ac anifeiliaid, a gyda phwyslais ar enghreifftiau sy'n berthnasol i'ch rhaglen. Bydd y modiwl yn eich cyflwyno i'r themâu allweddol mewn bioleg sy'n hanfodol ar gyfer cynllunio gyrfa yn y gwyddorau bywyd.

Mathemateg a Dylunio Arbrofol (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw eich arfogi â sgiliau hanfodol a fydd yn eich galluogi i ddylunio a chynnal arbrofion neu arolygon yn y labordy a'r maes, a chasglu, prosesu a dehongli data arbrofol a gasglwyd. I gyflawni'r nodau hyn bydd y modiwl yn archwilio egwyddorion dylunio arbrofol ac yn eich dysgu i adolygu arbrofion a data yn feirniadol. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i ffyrdd y mae'r gymuned wyddonol yn cyfathrebu data rhifiadol, a'r cysyniadau mathemategol allweddol sy'n sail iddo.

Materion Cyd-destunol (Craidd) - Nod y modiwl yw eich cyflwyno i amrywiaeth eang o faterion cyfoes i ysgogi trafodaeth, dadl ac ymgysylltiad. Bydd yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth o feysydd pwnc gyda gweithgaredd ymchwil dilynol ac ymarfer myfyriol ymhlith grwpiau pwnc

Blwyddyn 2 (Lefel 4)

Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer Gwyddoniaeth (Craidd) - I gael dealltwriaeth gywir o wyddoniaeth, pur a chymhwysol, mae angen i chi feddu ar wybodaeth ymarferol a dealltwriaeth dda o fathemateg. Bydd y modiwl hwn yn dod â chi i fyny i'r lefel fathemategol ofynnol ar gyfer rhaglenni gwyddoniaeth prifysgol. Byddwch hefyd yn ymdrin ag ystadegau hanfodol, tebygolrwydd, a dadansoddi data yn y modiwl hwn er mwyn eich arfogi â sgiliau allweddol ar gyfer prosesu data yn eich modiwlau diweddarach. Yn ogystal, byddwch yn cael enghreifftiau o sut mae mathemateg ac ystadegau'n cael eu cymhwyso mewn gwyddoniaeth fforensig, biocemeg a gwyddoniaeth fiofeddygol.

Cyflwyniad i Gemeg (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw rhoi digon o wybodaeth gefndir a mewnwelediad i chi mewn cemeg, sy'n ofynnol i ymdopi â'r modiwlau dilynol yn y rhaglen rydych chi'n ei hastudio. Bydd y modiwl hefyd yn dangos perthnasedd cemeg i feysydd gwyddor fforensig neu wyddor biocemegol.

Ymchwilio i Leoliadau Trosedd (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i arsylwi, cofnodi a gwarchod lleoliadau trosedd a thystiolaeth. Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich gwybodaeth am strategaethau gwrth-halogi a weithredir mewn lleoliadau trosedd i gadw tystiolaeth fforensig yn unol ag ISO17020. Byddwch yn ennill profiad ymarferol o gasglu olion bysedd, defnyddio swabiau di-haint a lifftiau tâp yn gywir, yn ogystal â sut i gasglu marciau a thystiolaeth o argraff. Byddwch hefyd yn cael eich dysgu sut i gofnodi lleoliad y drosedd yn gywir gan ddefnyddio diagramau, ffotograffau a nodiadau cyfoes.

Cyfiawnder Troseddol (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw sicrhau eich bod yn dod i ddeall proses yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol. Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn byddwch yn gallu esbonio'r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys terminoleg allweddol a rôl partneriaid/rhanddeiliaid allweddol. Byddwch yn deall y ddeddfwriaeth, y swyddogaethau a’r prosesau statudol sy’n gysylltiedig â chadw a hebrwng rhywun a ddrwgdybir i’r ddalfa, ac yna eu cyfweld/cyhuddo yno. Byddwch yn deall y broses ar gyfer cofnodi digwyddiadau plismona a datgelu’n foesegol, a’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â rhoi tystiolaeth yn y llys. Byddwch hefyd yn deall y cymhlethdodau a'r gyfraith sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth i ddioddefwyr a Thystion. Yn olaf, byddwch yn gallu egluro pwysigrwydd cydweithio partneriaeth effeithiol mewn perthynas ag adsefydlu troseddwyr.

Sgiliau Labordy Hanfodol (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau hanfodol mewn gweithdrefnau a thechnegau labordy gan roi sylw dyledus i ddiogelwch personol a diogelwch aelodau'r tîm, gofynion PPE, deall pwysigrwydd asesiadau risg ac COSHH. Byddwch yn cael eich cyflwyno i ddulliau allweddol o ddadansoddi ansoddol a meintiol ac yn addysgu gweithdrefnau osgoi halogiad. Bydd cysylltiadau rhwng theori ac arbrofion yn cael eu sefydlu i'ch helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o ddulliau a chanlyniadau arbrofol. Bydd adroddiadau labordy yn seiliedig ar bob arbrawf a gynhelir yn eich helpu i ddatblygu a gwella sgiliau ysgrifennu adroddiadau.

Bioleg Celloedd, Biocemeg a Geneteg (Craidd) - Byddwch yn dod yn gyfarwydd â chydrannau ffurfiannol celloedd, biocemeg a sut mae celloedd yn gweithredu, gyda phwyslais arbennig ar eneteg a strwythur DNA. Byddwch yn cael eich cyflwyno i dechnegau labordy ar gyfer astudio bioleg celloedd, biocemeg a geneteg, gan gynnwys microsgopeg, profion protein, echdynnu DNA, PCR ac electrofforesis gel

Blwyddyn 3 (Lefel 5)

Tystiolaeth Fforensig a Rheoli Ansawdd (Craidd) - Yn y modiwl hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd rheolaeth a rheoli ansawdd yn eu dull o nodi a dadansoddi tystiolaeth fforensig mewn labordy. Byddwch yn ymchwilio i nifer o fathau o dystiolaeth, gan ddangos ymagwedd systematig at adfer a gweithdrefnau fforensig priodol wrth dderbyn, dadansoddi, dogfennu a storio arddangosion. Mae’r modiwl yn annog sgiliau meddwl dadansoddol yn ogystal â gofyn i chi gyfiawnhau eich gwaith a chyflwyno cymhlethdod posibl ymchwiliadau yn glir. 

Ecoleg Fforensig (Craidd) - Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i chi ymwneud yn ymarferol â chasglu, cadw a dadansoddi tystiolaeth ecolegol. Fe'ch cyflwynir i rai sgiliau maes biolegol allweddol a byddwch yn gweithio gydag ystod eang o samplau ecolegol sy'n adlewyrchu'r rhai a allai fod yn bresennol mewn lleoliad trosedd.

Dulliau Dadansoddol mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Craidd) - Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i'r prif dechnegau a ddefnyddir ar gyfer ynysu a dadansoddi deunyddiau hybrin yn gemegol, gan gynnwys gwahanu a dadansoddi cemegol yn gyffredinol, dulliau cromatograffig, imiwno-adnabod, ac electrofforesis ac ati, gyda'r astudiaethau achos i ddangos eu cymwysiadau mewn meysydd fforensig a biocemegol.

Dulliau Ymchwil (Craidd) - Bwriad y modiwl hwn yw datblygu eich dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen mewn ymchwil academaidd a darparu cefnogaeth i'ch paratoi ar gyfer eich traethawd hir. Bydd y modiwl yn eich cyflwyno i'r broses o ddyfeisio, cyflawni a lledaenu eich ymchwil eich hun ar ffurf prosiect ymchwil ar raddfa fach. Byddwch yn ennill profiad o lunio cwestiynau ymchwil priodol, dyluniadau ymchwil, profi damcaniaethau a deall sut y cânt eu cymhwyso wrth ddehongli canlyniadau dadansoddol, datblygu cynigion, a dethol technegau dadansoddol yn feirniadol ar gyfer cynnal ymchwil yn eich rhaglen astudio ddewisedig.

Taffonomeg (Opsiwn) - Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i'r hyn sy'n digwydd i'r corff rhwng marwolaeth ac adferiad. Bydd y modiwl yn eich cyflwyno i sawl proses wahanol o gadw a dadfeiliad mewn cyd-destunau amrywiol. Yn ogystal, cewch eich cyflwyno i'r rhyngweithiadau biolegol a daearegol sy'n digwydd yn dilyn marwolaeth a dyddodiad gweddillion. Byddwch yn cael eich annog i archwilio'n feirniadol ymchwil taffonomig cyfredol a'r goblygiadau moesegol sy'n gysylltiedig â'r math hwn o ymchwil.

Anatomeg a Phatholeg (Opsiwn) - Bydd y modiwl hwn yn eich cyfarwyddo â chysyniadau sylfaenol anatomeg a phatholeg, a sut yn benodol y mae'r rhain yn cysylltu â gwyddoniaeth fforensig. Fe'ch cyflwynir i'r cysyniad o'r corff dynol fel lleoliad trosedd a'r archwiliad post-mortem o weddillion dynol. Bydd yn helpu dangos dealltwriaeth o rolau arbenigwyr gan roi sylw arbennig i'r patholegydd fforensig a'r anthropolegydd a sut maent yn sefydlu hunaniaeth ac achos a dull marwolaeth. Bydd y modiwl yn ymdrin ag amrywiaeth o droseddau gan gynnwys troseddau yn erbyn yr unigolyn, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, ymosodiad rhywiol, hunanladdiad a lladdiad. 

Dadansoddiad Offerynnol Fforensig (Opsiwn) - Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i egwyddorion gweithio'r prif dechnegau sbectrosgopig a ddefnyddir wrth ddadansoddi samplau, gan gynnwys UV, IR, Fflworoleuedd, Màs, Amsugno Atomig, NMR a diffreithiant Pelydr-X. Bydd hefyd yn ymdrin â nifer o dechnegau microsgopig electron. Rhoddir sylw arbennig i’r defnydd o’r holl ddulliau dadansoddi offerynnol hyn yn yr ymchwiliad fforensig.

Dadansoddi Offerynnol Labordy (Opsiwn) - Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i ochr ymarferol technegau sbectrosgopig a chromatograffig a datblygu eu hyfedredd wrth weithredu ystod o offer dadansoddol modern ar gyfer samplau fforensig cysylltiedig a defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol cysylltiedig yn hyddysg. Mae hefyd yn anelu at ddarparu hyfforddiant ar ddealltwriaeth o baramedrau sy'n ymwneud â dewis dulliau wrth ddylunio arbrofion, cadw at weithdrefnau gwaith labordy diogel (e.e. gofynion PPE, asesiadau risg ac asesiadau COSHH) a sgiliau trosglwyddadwy academaidd (e.e. arolwg llenyddiaeth, caffael data, dadansoddi canlyniadau ac ysgrifennu adroddiadau)

Bioleg Celloedd a Moleciwlaidd (Opsiwn) - Nod y modiwl yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth bellach o fioleg celloedd a moleciwlaidd sy'n adeiladu ar yr anatomeg, ffisioleg a bioleg celloedd a ddysgwyd ar Lefel 4. Mae'n dechrau gyda chydrannau cemegol celloedd byw, macromoleciwlau a strwythurau celloedd ac organynnau. Swyddogaethau hanfodol y gell gan gynnwys metaboledd, dyblygu DNA, mynegiant genynnau ac amrywioldeb genetig. Archwilir sut y gall cyfansoddiad o gelloedd ffurfio meinwe. Yn olaf, archwilir bioleg foleciwlaidd yn fanwl – gyda'r nod o ddatblygu gwerthfawrogiad o dechnegau a phynciau fel marcwyr polymorffig, afiechyd genetig, genoteipio a genomeg. 

Microbioleg Gymhwysol a Meddygol (Opsiwn) - Mae'r modiwl yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth am y sylfaenol mewn microbioleg. Bydd hyn yn cynnwys adnabod microbau yn seiliedig ar ffactorau megis strwythur, proffil staenio, priodweddau biocemegol a nodweddion unigryw eraill. Bydd y sesiynau'n ymdrin â dealltwriaeth mwy dwys o agweddau pwysig megis cylchoedd bywyd micro-organebau gyda phwyslais ar atal, rheoli clefydau a diagnosis.

Blwyddyn 4 (Lefel 6)

Prosiect Ymchwil (Craidd) - Pwrpas y modiwl hwn yw i chi integreiddio a chymhwyso gwybodaeth a enillwyd yn ystod eich rhaglen radd mewn modd hunan-gymhellol, ymarferol, ymholgar a datrys problemau. Byddwch yn ehangu eich dysgu eich hun mewn maes penodol o wyddoniaeth gymhwysol. Nod y modiwl hwn yw datblygu eich sgiliau mewn ymchwil ymarferol a dulliau ymchwil i baratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig/cyflogaeth lefel gradd.

Technolegau Newydd a Fforensig Digidol (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i feddalwedd a thechnegau a ddefnyddir mewn fforensig digidol. Byddwch yn ennill profiad ymarferol o adfer ffotograffau o gardiau cof, yn ogystal â thynnu gwybodaeth canfod lleoliad a chamera o ffeiliau JPEG a thechnegau digidol eraill. Byddwch hefyd yn dod i gysylltiad â thechnolegau newydd a'u defnyddiau posibl mewn ymchwiliadau fforensig ac ymchwil.

Cyffuriau a Thocsicoleg (Opsiwn) - Bwriad y modiwl hwn yw cyflwyno cemeg cyffuriau a gwenwynau a'u prif lwybrau gweinyddu a defnydd gan y corff dynol. Byddwch hefyd yn dysgu'r prif systemau dosbarthu yn ogystal â'r dulliau allweddol a ddefnyddir mewn dadansoddi cyffuriau ym meysydd fforensig a biowyddorau. Bydd rôl ffarmacocineteg yn cael ei hystyried, a byddwch yn archwilio astudiaethau achos yn ymwneud â chyffuriau i ehangu eich gwybodaeth wyddonol a thechnegol. 

Cyffuriau a'r Corff Dynol (Opsiwn) - Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'r mecanweithiau y mae categorïau cyffuriau mawr yn eu defnyddio i effeithio ar y corff dynol. Bydd nodweddion cyffuriau, llwybr gweinyddu, mecanwaith gweithredu, a rhyngweithiadau yn cael eu harchwilio. Bwriad y modiwl hefyd yw datblygu dealltwriaeth gref o'r cyfraniad y mae ffarmacoleg yn ei wneud i wyddorau biofeddygol eraill a gwyddor fforensig.

Archaeoleg Fforensig (Opsiwn) - Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o egwyddorion a thechnegau archaeoleg fforensig, gan gynnwys adfer a dadansoddi gweddillion dynol a thystiolaeth arall sydd wedi'i chladdu neu ei chuddio. Bydd y modiwl yn ymdrin â'r ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy'n gysylltiedig â chloddio a dadansoddi gweddillion claddedig, gan gynnwys pwysigrwydd dogfennu cywir a chadw tystiolaeth. Gyda ffocws ar brofiad ymarferol mewn gwaith maes a thechnegau labordy, gan gynnwys defnyddio offer cloddio, mapio, a dogfennaeth, byddwch yn dod i werthfawrogi'r gwahanol fathau o dystiolaeth y gellir eu hadennill trwy archeoleg fforensig. Rhoddir sylw i sut y gellir defnyddio archaeoleg fforensig mewn ymchwiliadau troseddol, gan gynnwys ail-greu lleoliadau trosedd ac adnabod pobl a ddrwgdybir, yn ogystal â rôl archaeoleg fforensig wrth fynd i’r afael â materion hawliau dynol, megis troseddau rhyfel, hil-laddiad, ac erchyllterau torfol eraill.

Astudiaethau Achos mewn Gwyddoniaeth Fforensig (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i chi adolygu'n feirniadol sut mae gwyddoniaeth fforensig yn cael ei defnyddio mewn ymchwiliadau troseddol yn y byd go iawn. Bydd yn ymdrin ag amrywiaeth o ddisgyblaethau gwyddoniaeth fforensig a sut y cânt eu defnyddio mewn gwahanol fathau o achosion troseddol yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi fyfyrio ar sut mae’r ddisgyblaeth wedi newid dros amser. Rhoddir ffocws i feddwl yn feirniadol a sgiliau datrys problemau trwy archwilio amrywiaeth o astudiaethau achos gan gynnwys digwyddiadau mawr megis llofruddiaeth a therfysgaeth.

Ymarfer Proffesiynol a'r Tyst Arbenigol (Craidd) - Nod y modiwl hwn yw atgyfnerthu'r dysgu o bob rhan o'r cwrs i'ch galluogi i ddeall yn well y rôl y gall gwyddoniaeth fforensig ei chwarae yn y system cyfiawnder troseddol ehangach. Trwy ddilyn achos efelychiadol o leoliad y drosedd drwodd i ystafell y llys byddwch yn deall yn well y fframweithiau proffesiynol, cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n llywodraethu tystion arbenigol wrth gynnal a chyflwyno eich tystiolaeth arbenigol eich hun.

Yr haf hwn, gallwch ennill y wybodaeth a'r sgiliau gwyddonol sylfaenol sydd eu hangen i symud ymlaen i un o'n graddau Gwyddoniaeth Gymhwysol gyda'n Hysgol Haf Gwyddoniaeth.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 48-72 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol.

Addysgu ac Asesu

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu; ymysg y rhain mae ymarferiadau seiliedig ar dasgau, senarios safle trosedd ac ystafell lys, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy, arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl drwy amrywiaeth o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd hir ar eich prosiect yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.

O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyrwyr oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol cydnabyddedig.

Rhagolygon gyrfaol

Mae graddedigion BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:

  • Labordai Gwyddoniaeth Fforensig: Cynnal dadansoddiadau ac ymchwiliadau i dystiolaeth sy'n cwmpasu meysydd fel DNA, Esgidiau, Balisteg a Thocsicoleg
  • Heddlu a Gorfodi'r Gyfraith: Gweithio fel ymchwilwyr lleoliadau trosedd, swyddogion arddangos, dadansoddwyr olion bysedd neu wrth ymchwilio i wrthdrawiadau
  • Sector Preifat: Ymunwch ag ymgynghoriaethau fforensig neu gwmnïau sy'n arbenigo mewn ymchwilio a diogelwch. Gallai hyn fod fel archeolegydd fforensig, triniwr cŵn chwilio neu dyst arbenigol.
  • Asiantaethau'r Llywodraeth: Cyfleoedd mewn asiantaethau diogelwch cenedlaethol, cudd-wybodaeth a rheoleiddio. Mae hyn yn cynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Gwasanaeth Erlyn y Goron neu Gyllid a Thollau EF
  • Ymchwil a’r Byd Academaidd: Dilyn astudiaethau pellach a dod yn wyddonydd ymchwil neu academydd gan helpu datblygu technegau newydd neu addysgu'r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr fforensig

Cymwysterau ac Astudio Pellach

Gall eich gradd fod yn gam tuag at gymwysterau neu arbenigedd pellach, fel gradd Meistr neu PhD mewn gwyddor fforensig, cyfiawnder troseddol neu feysydd cysylltiedig.

Nodweddion Cyflogadwyedd

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys profiad ymarferol a hyfforddiant arbenigol i wella eich cyflogadwyedd. Byddwch yn barod i ymuno â'r gweithlu fel gwyddonydd cymwys a medrus.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ym Mhentref Wrecsam. 

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.
Crime scene tape with police car in background

Ymarfer Hyfforddi Amser BlynyddolDiwronod Lleoliad Trosedd