BA (Anrh) Lletygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau (gyda blwyddyn sylfaen)

A hand reaches out to ring a service bell on a desk

Manylion cwrs

Côd UCAS

2SKW

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Achrededig

gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI)

Cysylltiadau

cryf gyda diwydiant twristiaeth Gogledd Cymru

Diploma CMI

mewn arweinyddiaeth a rheolaeth 

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y radd bwrpasol yma yn rhoi’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y diwydiant lletygarwch, twristiaeth a rheoli digwyddiadau.

Mae’r cwrs wedi ei lunio o fodiwlau cyffrous sydd yn ysgogi’r meddwl gan ymdrin â phynciau busnes hanfodol, gan gynnwys modiwlau uwch sy’n rhoi ystod o wybodaeth a phrofiad megis creu digwyddiadau, rheoli atyniadau ymwelwyr, cynllunio a datblygu cynaliadwy, materion cyfoes ym maes rheoli lletygarwch a rheoli adnoddau dynol.

Bydd myfyrwyr yn: 

  • cael profiad uniongyrchol, ymarferol gan gynnwys rheoli digwyddiadau go iawn
  • dysgu gan siaradwyr gwadd cyffrous ac ymweliadau safle i rai o’r sefydliadau allweddol ym maes lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau
  • cael eu hannog i ddewis lleoliad gwaith a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w CV a’u rhagolygon cyflogaeth.
  • mwynhau aelodaeth myfyriwr o’r Sefydliad Lletygarwch, yn rhad ac am ddim
  • elwa o Aelodaeth Efydd Prifysgol Wrecsam o’r Sefydliad Graddedigion Busnes (BGA), gyda mynediad at ystod o fuddion gan gynnwys gwasanaethau ymgynghorol a hwb dysgu BGA.
  • Bydd pob un o’m myfyrwyr sy’n graddio o Wrecsam hefyd yn derbyn Diploma lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan o Sefydliad Rheolaeth Siartredig, sydd werth mwy na £1,300 a hynny heb unrhyw gost ychwanegol
Business Graduates Association logo

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae gan ein darlithwyr brofiad proffesiynol sylweddol mewn lletygarwch, twristiaeth a rheoli digwyddiadau.
  • Mae ennill profiad ymarferol a datblygu cymhwysedd masnachol yn elfen allweddol o’r radd hon.
  • Mae myfyrwyr yn mwynhau aelodaeth gyswllt o’r Sefydliad Lletygarwch tra’u bod yn astudio.
  • Mae’r radd hon wedi ei hachredu gan y CMI, a bydd pob myfyriwr sy’n graddio hefyd yn derbyn Diploma lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan y CMI, sydd werth mwy na £1,300, heb unrhyw gost ychwanegol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Fel rhan o’r radd, byddwn yn sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr yn cael profiad ymarferol ac uniongyrchol. Yn sicr, byddwch yn cael profiad go iawn o reoli digwyddiadau yn ystod eich astudiaethau, fodd bynnag gall hefyd gynnwys cyfle i fynd ar leoliad gwaith a fydd yn hybu’ch CV a’ch rhagolygon cyflogaeth yn sylweddol.

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

MODIWLAU:

  • Hanfodion Rheoli Adnoddau Dynol: Yn yr 21ain ganrif mae Rheoli Adnoddau Dynol wrth wraidd prosesau a gweithgarwch rheoli/datblygu pobl pob sefydliad, p’un a yw’r busnes yn gweithredu yn y sector preifat, yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector. Yn ganolog i holl weithrediadau rheoli AD y mae’r cyflogai. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i fyd rheoli AD wrth iddo esblygu’n gyson, ac yn archwilio’r offer a’r technegau y mae Rheolwyr Adnoddau Dynol yn eu defnyddio i gyflawni eu hamcanion AD.
  • Y sgiliau sydd eu hangen arnoch: Nod y modiwl hwn yw sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu’r prif sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol sydd eu hangen arnynt i astudio’n llwyddiannus ar lefel addysg uwch. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol, deallusol a chyfathrebu angenrheidiol i sicrhau pontio llwyddiannus i Lefel 4 ac ymlaen i raglenni gradd Anrhydedd yn ogystal â pharatoi myfyrwyr at gyflogaeth ac/neu astudiaethau pellach wedi hynny.
  • Hanfodion Busnes: Mae’r modiwl hwn yn archwilio’r cwestiwn ‘Beth yw busnes?’ drwy astudio adrannau mewnol ac allanol, marchnadoedd a rhanddeiliaid. Wrth wneud hynny, nod y modiwl yw cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gael dealltwriaeth sylfaenol ond eang o natur yr amgylchedd busnes modern. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth ymarferol ynghylch sut mae syniadau a chysyniadau busnes yn troi’n benderfyniadau busnes go iawn a byddant yn dysgu am rai o’r sefydliadau allweddol sy’n gweithredu ar hyn o bryd.
  • Cyflwyniad i Farchnata: Yn yr 21ain ganrif mae marchnata wrth wraidd gweithgarwch pob sefydliad, p’un a yw’r busnes yn gweithredu yn y sector preifat, yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector. Yn ganolog i’r holl waith marchnata y mae’r cwsmer. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i fyd cyffrous marchnata, ac yn archwilio’r offer a’r technegau y mae marchnatwyr yn eu defnyddio i gyflawni eu hamcanion marchnata.
  • Astudiaethau Cyd-destunol: Nod y modiwl yw cyflwyno’r myfyrwyr i amrywiaeth eang o faterion cyfoes i ysgogi trafodaeth, dadl a chymryd rhan. Bydd yn galluogi’r myfyrwyr i fynd i’r afael ag amrywiaeth o feysydd pwnc drwy weithgarwch ymchwil dilynol ac ymarfer adfyfyriol ymhlith grwpiau pwnc.
  • Hanfodion Cyllid: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau sylfaenol mewn cyllid a’u paratoi at astudiaethau pellach mewn pynciau mwy datblygedig ym maes cyfrifeg a chyllid.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes: Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o hanfodion busnes, gan gynnwys strwythur sefydliadau a natur gwaith busnesau modern. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ennill dealltwriaeth eang o reolaeth drwy archwilio sgiliau a nodweddion rheolwyr ac arweinwyr effeithiol, a thechnegau i reoli tîm yn llwyddiannus.
  • Cyflwyniad i Gyllid Busnes a Chyfrifeg: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau ac egwyddorion cyfoes cyfrifeg a chyllid er mwyn cryfhau gallu’r myfyrwyr. Gwneir hyn drwy ddefnyddio technegau cyfrifyddu rheoli, cyfrifyddu ariannol a rheoli ariannol perthnasol, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau ariannol gweithredol mwyaf priodol, a gallu dadansoddi effeithiau’r penderfyniadau hynny ar berfformiad a sefyllfa ariannol cwmni.
  • Sgiliau Cyfathrebu Busnes: Nod y modiwl yw sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewnol ac allanol integredig ac effeithiol wrth feithrin perthynas gynaliadwy ag eraill a sicrhau gwerth i gwsmeriaid. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu’n effeithiol mewn lleoliadau busnes ac academaidd gan ddeall hanfodion sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu proffesiynol.
  • Deall Rheoli Adnoddau Dynol: Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl rheoli adnoddau dynol (HRM) mewn sefydliadau. Mae’r modiwl yn ymdrin â’r hanfodion canlynol ym maes rheoli AD:

- Mathau o sefydliadau sy’n gyffredin ym myd busnes
- Pwysigrwydd rheoli adnoddau dynol a rôl ymarferwyr AD
- Gweithgareddau AD mewn sefydliadau
- Effaith technoleg ar reoli adnoddau dynol

  • Hanfodion Marchnata: Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â sylweddoli pa mor bwysig yw rôl marchnata wrth yrru llwyddiant a sicrhau canlyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol swyddogaethau marchnata yn yr 21ain ganrif ac yn astudio sut y gall deall ymddygiad cwsmeriaid a’r amgylchedd marchnata alluogi targedu a chynllunio effeithiol. Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr wedi dod i ddeall y gwahanol offer sydd ar gael i’r marchnatwr modern, ac yn gallu adnabod eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain, gan eu galluogi i’w defnyddio’n greadigol ac yn effeithiol mewn cyd-destun gwaith gan gynnwys sefydliadau masnachol a’r sector di-elw.
  • Dadansoddeg Busnes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion dadansoddeg yn ogystal â datblygu’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn er mwyn mynd ati’n systematig i ddadansoddi data yn y byd busnes cyfoes.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

MODIWLAU: 

  • Rheoli Atyniadau Rhyngwladol i Ymwelwyr: Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr ynghylch datblygu a rheoli atyniadau ymwelwyr. Cyflwynir natur benodol amrywiaeth o atyniadau i ddangos yr amrywiaeth o ofynion rheoli sydd eu hangen i sicrhau cynnal yr atyniad a sicrhau bod anghenion ymwelwyr yn cael eu bodloni. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ystod o atyniadau naturiol a rhai wedi’u creu gan ddyn ledled y byd ac yn rhoi dealltwriaeth ddofn o faterion llywodraethu, marchnata a gweithredu wrth agor atyniadau i’r cyhoedd ar yr un pryd â chynnig profiad o safon i ymwelwyr.
  • Strategaeth Busnes Digidol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael mantais gystadleuol ddigidol mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae rheolau busnes wedi newid ac nid yw hi bellach yn ddigon i gwmnïoedd fod yn well neu’n rhatach i gael mantais gystadleuol. Mae’r rheolau newydd hyn yn ei gwneud yn hanfodol i gwmnïau ailedrych ar bedair elfen sylfaenol eu busnes er mwyn ffynnu yn y cyfnod digidol, sef eu strategaeth, eu cadwyn gwerth, ymgysylltu â chwsmeriaid, a strwythur y sefydliad.
  • Arweinyddiaeth Ystwyth: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion arweinyddiaeth ystwyth a’r gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn yn y byd busnes cyfoes, er mwyn creu’r amgylchedd cywir i dimoedd ystwyth lwyddo mewn sefydliad.
  • Rheoli Cynllunio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau: Nod y modiwl hwn yw archwilio cyfraniad lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau at amcanion datblygu, ynghyd â chyflwyno myfyrwyr i elfennau cynllunio cynaliadwy ac asesu’n feirniadol gyfraniad lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau at amcanion datblygu cynaliadwy ehangach.
  • Entrepreneuriaeth ac Arloesedd: Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr weld sut mae syniadau’n cael eu datblygu, sut mae entrepreneuriaeth yn gweithredu a dod i ddeall damcaniaethau Arloesi ac entrepreneuriaeth yng nghyd-destun busnes. Bydd yn rhoi modd i fyfyrwyr wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y gweithle drwy roi dealltwriaeth iddynt o nodweddion entrepreneuriaeth ac arloesedd a sut i fynegi’r nodweddion hyn.
  • Rheoli Digwyddiadau Rhyngwladol: Diben y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth drylwyr a beirniadol i fyfyrwyr o reoli digwyddiadau rhyngwladol a rôl digwyddiadau yn benodol o fewn twristiaeth a lletygarwch ac yn ehangach o fewn cymdeithas gyfoes.
  • Lleoliad mewn Diwydiant (opsiwn): Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr ac uniongyrchol yn y gweithle, a hynny’n ymwneud yn benodol ag arbenigedd y myfyriwr. Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd allan am gyfnod estynedig at gyflogwr i weithio ar un neu fwy o brosiectau neu amcanion diffiniedig. Bydd disgwyl i’r myfyriwr ddod o hyd i gyfle lleoliad addas mewn cydweithrediad ag Ysgol Fusnes Gogledd Cymru. Bydd y Lleoliad mewn Diwydiant fel arfer yn digwydd dros flwyddyn academaidd arferol, yn ystod y ddau semester prifysgol arferol. Fodd bynnag, pan fo angen, gall ddechrau’n gynharach a gorffen yn gynharach yn ôl anghenion y diwydiant, ond dylai bara am tua 40 wythnos fel arfer, yn dibynnu ar yr oriau gwaith.

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

MODIWLAU:

  • Twristiaeth Fyd-eang Bwyd a Diod: Nod y modiwl hwn yw archwilio maes cynyddol bwysig twristiaeth bwyd a diod ar gyfer datblygu economaidd a ffurfio delwedd o gyrchfan ar raddfa fyd-eang. Bydd myfyrwyr felly yn archwilio pwysigrwydd cynhyrchion bwyd a diod i brofiad ymwelwyr ac i lwyddiant cyrchfannau i’r gwledydd a’r rhanbarthau hynny sydd â chysylltiad agos â bwyd a diod. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn dadansoddi’r berthynas rhwng twristiaeth a gastronomeg ac yn archwilio manteision ac anfanteision uniongyrchol ac anuniongyrchol i gymunedau lleol a rhanbarthol sy’n gysylltiedig â datblygu mentrau twristiaeth a digwyddiadau gastronomig.
  • Rheolaeth Strategol: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno dull systematig o astudio rheolaeth strategol, gan adeiladu ar amrywiaeth o syniadau a damcaniaethau a’r rheiny yn amrywio o theori sefydliadau diwydiannol i economeg sefydliadol. Mae’r uned hon yn amlinellu hanfodion rheolaeth strategol ac yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i’r maes pwysig hwn o reoli busnes. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y materion perthnasol a’r technegau y mae rheolwyr yn eu defnyddio. Bydd yr offer a’r technegau yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae sefydliadau yn sicrhau mantais gystadleuol sy’n gynaliadwy.
  • Materion Cyfoes ym maes Rheoli Lletygarwch: Nod y modiwl hwn yw nodi a dadansoddi rhai o’r materion cyfoes allweddol sy’n berthnasol i’r sector Lletygarwch. Bydd cynnwys y cwrs yn canolbwyntio ar y materion hynny yr ystyrir eu bod yn fwyaf arwyddocaol i’r sector hwn ar adeg yr addysgu. Bob blwyddyn bydd tri mater allweddol yn cael eu harchwilio ar y modiwl, un o bob un o’r themâu canlynol: Technoleg, brandiau gwestai byd-eang, diwylliant gwledydd a Lletygarwch, Cynaliadwyedd, Adnoddau Dynol, Tueddiadau Newydd wrth Ddylunio Gwestai a Rheoli Gweithredol.
  • Marchnata Strategol: Nod y modiwl hwn yw adeiladu ar y sylfeini marchnata a astudiwyd yn flaenorol ac mae’n mynd ati mewn camau i astudio natur marchnata strategol sy’n cyfrannu at sicrhau mantais gystadleuol. Bydd yn cyflwyno’r agweddau ehangach ar farchnata strategol sy’n adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn eiriolaeth a moeseg.
  • Traethawd hir: Nod y modiwl traethawd hir yw cael myfyrwyr i ddangos eu bod yn gallu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ganddynt ym mhob llwybr yn y rhaglen astudio israddedig, a’u cymhwyso mewn modd annibynnol a hunanysgogol wrth ymholi a datrys problemau. Drwy hyn, byddant yn ymestyn, yn ategu ac yn gwella eu dysg drwy nodi problem busnes/rheoli naill ai mewn busnes, cyfrifeg a chyllid, Rheoli Lletygarwch, Twristiaeth ac Adloniant, Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata neu unrhyw faes arall sy’n gysylltiedig â busnes sy’n gofyn am ymchwil ddamcaniaethol, casglu data strwythuredig a dadansoddi’r data hwnnw er mwyn arwain at gasgliadau ac argymhellion.

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion cyffredinol ar gyfer y flwyddyn Sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS ond caiff pob cais ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo. 

Addysgu ac Asesu

Defnyddir ystod o ddulliau asesu i adlewyrchu natur ryngweithiol rheoli digwyddiadau gan gynnwys dethol a dylunio deunyddiau hyrwyddo, cyflwyniadau, cyfweliadau, cynlluniau a chyflwyniadau ysgrifenedig. Bydd pob modiwl o’r cwrs yn cael eu darparu mewn oddeutu 36 awr o ddysgu uniongyrchol, trwy gyfuniad o ddarlithoedd a thiwtorialau. Bydd angen ymrwymiad pellach o 160 o oriau astudio ar gyfer pob modiwl, er gall hyn amrywio o fyfyriwr i fyfyriwr.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae’r radd hon yn cynnig y potensial ar gyfer cyflogaeth mewn ystod eang o feysydd yn y diwydiant lletygarwch, twristiaeth a digwyddiadau. Bydd eich cymhwyster, profiad ymarferol a chyfleoedd gwirfoddoli yn sicrhau fod gennych chi’r sgiliau angenrheidiol y mae cyflogwyr yn dymuno eu gweld. Fel arall, gall eich arfogi gyda’r sgiliau i ddechrau eich busnes eich hun yn y sector gwasanaeth.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.