A student is smiling as the lecturer explains something to them. The lecturer is pointing at the work on the desk.

Manylion cwrs

Côd UCAS

239N

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Aelod efydd

o'r Gymdeithas y Graddedigion Busnes gyda mynediad at nifer o fuddion gan gynnwys gwasanaethau ymgynghori a hyb e-Ddysgu BGA

Achrededig

gan y Sefydliad Marchnata Siartredig 

Ennill

tystysgrif CIM lefel 4 dewisol mewn marchnata digidol a diploma CMI lefel 5 mewn arweinyddiaeth a rheolaeth ar ôl graddio

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein BA mewn Machnata & Busnes yn paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau'r byd busnes modern ac yn cryfhau ac yn datblygu eu sgiliau personol a phroffesiynol ehangach.

Bydd myfyrwyr:


• darganfod sut a pham ydyn ni'n dewis y pethau rydyn ni'n eu prynu a beth sy'n dylanwadu ar bobl pan maen nhw'n dewis nwyddau neu wasanaeth
• yn archwilio'r theori wyddonol diweddaraf mewn meysydd gan gynnwys ymddygiad defnyddwyr, gwneud penderfyniadau a hysbysebu
• yn cael y cyfle i ddysgu mewn amgylched sy'n seiliedig ar waith ymarferol yn y gweithle. Bydd hyn yn golygu y bydd gan bob graddedig wybodaeth a sgiliau i ddiwallu anghenion y farchnad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a bod yn 'barod am waith'.

Prif nodweddion y cwrs

  • Archwilio'r meddylfryd gwyddonol diweddaraf mewn meysydd gan gynnwys ymddygiad defnyddwyr, gwneud penderfyniadau a marchnata digidol.
  • Bydd myfyrwyr yn archwilio'r theori wyddonol ddiweddaraf mewn meysydd gan gynnwys ymddygiad cwsmeriaid, gwneud penderfyniadau a hysbysebu.
  • Yn cael y cyfle i ddysgu mewn amgylched sy'n seiliedig ar waith ymarferol yn y gweithle. Bydd hyn yn golygu y bydd gan bob graddedig wybodaeth a sgiliau i ddiwallu anghenion y farchnad ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a bod yn 'barod am waith.'
  • Ymgymryd lleoliad gwaith i gael ymarfer gwaith ymarferol.
  • Mwynhewch gysylltiadau rhagorol Ysgol Fusnes Gogledd Cymru ag amryw o sefydliadau ymchwil fasnachol sydd wedi gweithio gyda rhai o'r brandiau mwyaf yn y byd, gan gynnwys Tesco, Unilever, a Cadburys.
  • Caiff myfyrwyr cyfle i glywed darlithoedd gwestai yn cael eu cyflwyno gan nifer o ymarferwyr, gan roi cyfle i chi ddatblygu eich rhwydweithiau o gysylltiadau.

 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn flwyddyn integredig lle byddwch yn astudio modiwlau craidd gydag ystod eang o fyfyrwyr o bob rhan o'r Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, gan roi mynediad i chi at wahanol safbwyntiau a chyfleoedd rhwydweithio.  

Bydd y modiwlau yn eich arfogi â sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer Addysg Uwch a thu hwnt. Byddant yn rhoi cyfle i chi archwilio eich maes pwnc a'ch gyrfaoedd sydd ar gael, gan eich galluogi i addasu eich darllen a'ch asesiadau i fod yn berthnasol i'ch llwybr gradd. 

Ochr yn ochr ag addysgu gan staff ehangach y gyfadran, byddwch yn gallu cwrdd â staff a myfyrwyr eraill o'ch prif lwybr gradd a chymryd rhan mewn digwyddiadau a chyfleoedd y maent yn eu cynnal.  

  • Bydd Sgiliau Astudio ar gyfer Llwyddiant (craidd) yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn confensiynau academaidd a sgiliau rheoli amser i'ch helpu i symud ymlaen trwy'ch gradd.  
  • Gwydnwch mewn Addysg Uwch a Thu hwnt (Craidd) Mae datblygiad a gwytnwch personol yr un mor bwysig â sgiliau academaidd wrth gyflawni eich taith tuag at raddio, a bydd y modiwl newydd cyffrous hwn yn eich arfogi â'r priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer hyn.  
  • Diwrnod ym Mywyd (Bywyd) Mae'r modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio'r opsiynau gyrfa posibl sydd ar gael i chi ar ôl i chi gwblhau eich gradd dewisol. Byddwch yn archwilio'r proffesiynau sy'n gysylltiedig â'ch gradd ac yn dechrau paratoi eich portffolio graddedigion ar gyfer cyflogwyr.  
  • Bydd Bywyd a Gwaith yng Nghyd-destun Cymru (craidd) yn rhoi cyfle i chi archwilio eich maes pwnc a/neu yrfa ddymunol mewn perthynas â byw a gweithio yn y Gymru sydd ohoni.  

Mae'r gyfres o fodiwlau dewisol wedi'u cynllunio i wella'ch sylfaen sgiliau mewn perthynas â'ch datblygiad gyrfa. Bydd eich tiwtor personol o'ch gradd yn cwrdd â chi i'ch helpu i benderfynu pa un o'r modiwlau dewisol fyddai fwyaf addas i chi. Y modiwlau dewisol yw:  

  • Mae’r Gymraeg i Ddechreuwyr yn rhoi cyflwyniad i'r Gymraeg i'r rhai sy'n cymryd eu camau cyntaf Rhifedd lle mae angen lefel gymwys o rifedd ar eich gradd, efallai y cewch eich cynghori i ddewis yr opsiwn hwn.  
  • Cyfathrebu Proffesiynol yn y Gweithle yn y modiwl hwn, byddwch yn dechrau datblygu'r sgiliau a'r gallu angenrheidiol i gyfathrebu'n effeithiol mewn cyd-destun proffesiynol.  
  • Mathemateg a Dylunio Arbrofol os oes angen dealltwriaeth o'ch llwybr gradd o rifedd a'r gwyddorau, yna mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi'r cyfle i gyflawni hynny.  

Mae amrywiaeth o asesiadau ar draws y flwyddyn sylfaen – cyflwyniadau, portffolios, archebu sgrap electronig a logiau dysgu, er enghraifft. 

 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Cyflwyniad i Reolaeth a Busnes: Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o hanfodion busnes, gan gynnwys strwythur sefydliadau a natur gwaith busnesau modern. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ennill dealltwriaeth eang o reolaeth drwy archwilio sgiliau a nodweddion rheolwyr ac arweinwyr effeithiol, a thechnegau i reoli tîm yn llwyddiannus.
  • Cyflwyniad i Gyllid Busnes a Chyfrifeg: Nod y modiwl hwn yw cyflwyno cysyniadau ac egwyddorion cyfoes cyfrifeg a chyllid er mwyn gwella gallu’r myfyrwyr yn y maes hwn. Gwneir hyn drwy ddefnyddio technegau cyfrifyddu rheoli, cyfrifyddu ariannol a rheoli ariannol perthnasol, er mwyn gallu gwneud y penderfyniadau ariannol gweithredol mwyaf priodol, a dadansoddi effeithiau’r penderfyniadau hynny ar berfformiad a sefyllfa ariannol cwmni.
  • Sgiliau Cyfathrebu Busnes: Nod y modiwl yw sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu mewnol ac allanol integredig ac effeithiol wrth feithrin perthynas gynaliadwy ag eraill a sicrhau gwerth i gwsmeriaid. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sut i gyfathrebu’n effeithiol mewn lleoliadau busnes ac academaidd gan ddeall hanfodion sgiliau cyflwyno, cyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu proffesiynol.
  • Deall Rheoli Adnoddau Dynol: Mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o rôl rheoli adnoddau dynol (HRM) mewn sefydliadau. Mae’r modiwl yn ymdrin â’r hanfodion canlynol ym maes rheoli AD:

- Mathau o sefydliadau sy’n gyffredin ym myd busnes
- Pwysigrwydd rheoli adnoddau dynol a rôl ymarferwyr AD
- Gweithgareddau AD mewn sefydliadau
- Effaith technoleg ar reoli adnoddau dynol


Hanfodion Marchnata: Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â sylweddoli pa mor bwysig yw rôl marchnata wrth yrru llwyddiant a sicrhau canlyniadau. Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol swyddogaethau marchnata yn yr 21ain ganrif ac yn astudio sut y gall deall ymddygiad cwsmeriaid a’r amgylchedd marchnata alluogi targedu a chynllunio effeithiol. Erbyn diwedd y modiwl hwn bydd myfyrwyr wedi dod i ddeall y gwahanol offer sydd ar gael i’r marchnatwr modern, ac yn gallu adnabod eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain, gan eu galluogi i’w defnyddio’n greadigol ac yn effeithiol mewn cyd-destun gwaith gan gynnwys sefydliadau masnachol a’r sector di-elw.
Dadansoddeg Busnes: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion dadansoddeg yn ogystal â datblygu’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn er mwyn mynd ati’n systematig i ddadansoddi data yn y byd busnes cyfoes.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

MODWILAU

  • Cynllunio Ymgyrchoedd Marchnata: Mae’r modiwl hwn yn ymdrin â chynllunio ymgyrchoedd marchnata effeithiol a’r prosesau ar gyfer datblygu gweithgareddau marchnata perthnasol er mwyn dylanwadu ar gwsmeriaid. Mae tair uned i’r modiwl, fel a ganlyn: mae’r uned gyntaf yn datblygu gwybodaeth am y broses o gynllunio’r ymgyrch; mae’r ail uned yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i baratoi a gweithredu cynllun ymgyrch farchnata effeithiol; ac mae’r drydedd uned yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar gyfer mesur a monitro canlyniadau ymgyrchoedd marchnata.
  • Strategaeth Busnes Digidol: Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael mantais gystadleuol ddigidol mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae rheolau busnes wedi newid ac nid yw hi bellach yn ddigon i gwmnïoedd fod yn well neu’n rhatach i gael mantais gystadleuol. Mae’r rheolau newydd hyn yn ei gwneud yn hanfodol i gwmnïau ailedrych ar bedair elfen sylfaenol eu busnes er mwyn ffynnu yn y cyfnod digidol, sef eu strategaeth, eu cadwyn gwerth, ymgysylltu â chwsmeriaid, a strwythur y sefydliad.
  • Arweinyddiaeth Ystwyth: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion arweinyddiaeth ystwyth a’r gallu i ddefnyddio’r cysyniadau hyn yn y byd busnes cyfoes, er mwyn creu’r amgylchedd cywir i dimoedd ystwyth lwyddo mewn sefydliad.
  • Busnes a Masnach Ryngwladol: Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol ac ymarferol o gysyniadau ac egwyddorion busnes a masnach ryngwladol a’r gallu i gymhwyso’r cysyniadau hyn i’r byd busnes rhyngwladol cyfoes. Mae’r modiwl yn esbonio prif gysyniadau, egwyddorion a swyddogaethau busnes rhyngwladol a globaleiddio ac yn cymhwyso heriau diwylliant busnes rhyngwladol i sefyllfaoedd masnachol realistig. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth ymarferol o’r system ariannol fyd-eang a gwerthuso damcaniaethau masnach ryngwladol o ran y canlyniadau masnachol. Bydd strategaeth fusnes ryngwladol hefyd yn cael ei hasesu a’i chymhwyso gan ystyried y canlyniadau masnachol.
  • Entrepreneuriaeth ac Arloesedd: Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr weld sut mae syniadau’n cael eu datblygu, sut mae entrepreneuriaeth yn gweithredu a dod i ddeall damcaniaethau Arloesi ac entrepreneuriaeth yng nghyd-destun busnes. Bydd yn rhoi modd i fyfyrwyr wella eu rhagolygon cyflogaeth yn y gweithle drwy roi dealltwriaeth iddynt o nodweddion entrepreneuriaeth ac arloesedd a sut i fynegi’r nodweddion hyn.
  • Technegau Marchnata Digidol: Mae’r modiwl hwn yn astudio natur cysyniadau marchnata digidol wrth iddynt esblygu a’r defnydd o dechnegau digidol mewn sefydliadau. Mae tair uned i’r modiwl: mae’r uned gyntaf yn ymwneud â deall, defnyddio ac asesu offer a thechnegau digidol; mae’r ail uned yn ymwneud â datblygu gwybodaeth i ddefnyddio prosesau marchnata digidol integredig, gyda’r nod o wella ymgysylltiad y sefydliad â rhanddeiliaid; ac mae’r drydedd uned yn ymwneud â datblygu a gwerthuso cynlluniau marchnata digidol.
  • Lleoliad mewn Diwydiant (opsiwn): Nod y modiwl yw rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr ac uniongyrchol yn y gweithle, a hynny’n ymwneud yn benodol ag arbenigedd y myfyriwr. Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd allan am gyfnod estynedig at gyflogwr i weithio ar un neu fwy o brosiectau neu amcanion diffiniedig. Bydd disgwyl i’r myfyriwr ddod o hyd i gyfle lleoliad addas mewn cydweithrediad ag Ysgol Fusnes Gogledd Cymru. Bydd y Lleoliad mewn Diwydiant fel arfer yn digwydd dros flwyddyn academaidd arferol, yn ystod y ddau semester prifysgol arferol. Fodd bynnag, pan fo angen, gall ddechrau’n gynharach a gorffen yn gynharach yn ôl anghenion y diwydiant, ond dylai bara am tua 40 wythnos fel arfer, yn dibynnu ar yr oriau gwaith.

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

MODIWLAU

  • Optimeiddio Marchnata Digidol: Mae’r modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n galluogi mynd ati’n strategol i gynllunio marchnata, gan ddefnyddio modelau, fframweithiau a thechnegau traddodiadol a digidol i sicrhau mantais gystadleuol. Mae tair uned i’r modiwl: mae’r uned gyntaf yn datblygu sgiliau wrth ddadansoddi’r amgylchedd ac yn nodi dealltwriaethau ar gyfer penderfyniadau strategol; mae’r ail uned yn ymdrin â datblygu cynlluniau marchnata strategol effeithiol, sy’n cynnwys strategaeth ddigidol, i gyflawni amcanion; ac mae’r drydedd uned yn datblygu sgiliau mesur, monitro ac adnoddau i weithredu a rheoli’r cynllun marchnata strategol.
  • Rheolaeth Strategol: Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno dull systematig o astudio rheolaeth strategol, gan adeiladu ar amrywiaeth o syniadau a damcaniaethau a’r rheiny yn amrywio o theori sefydliadau diwydiannol i economeg sefydliadol. Mae’r uned hon yn amlinellu hanfodion rheolaeth strategol ac yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i’r maes pwysig hwn o reoli busnes. Bydd myfyrwyr yn dod i ddeall y materion perthnasol a’r technegau y mae rheolwyr yn eu defnyddio. Bydd yr offer a’r technegau yn helpu myfyrwyr i ddeall sut mae sefydliadau yn sicrhau mantais gystadleuol sy’n gynaliadwy.
  • Marchnata Strategol: Nod y modiwl hwn yw adeiladu ar y sylfeini marchnata a astudiwyd yn flaenorol ac mae’n mynd ati mewn camau i astudio natur marchnata strategol sy’n cyfrannu at sicrhau mantais gystadleuol. Bydd yn cyflwyno’r agweddau ehangach ar farchnata strategol sy’n adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn eiriolaeth a moeseg.
  • Rheoli Pobl mewn Cyd-destun Rhyngwladol (opsiwn): Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o reoli pobl mewn cyd-destun rhyngwladol. Rhan o’r modiwl hwn fydd astudio effaith amgylchiadau cenedlaethol a diwylliannol, dulliau rheoli adnoddau dynol yn rhyngwladol (IHRM) yn ogystal â dyfodol y maes hwn.
  • Rheoli Cadwyn Gyflenwi Ryngwladol (opsiwn): Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o reoli cadwyn gyflenwi yn rhyngwladol. I’r perwyl hwn, mae’n galluogi myfyrwyr i fynd ati’n feirniadol i werthuso caffael mewn ffyrdd amgen, trefniadau cytundebol a phrosesau cadwyn gyflenwi o ran mewnbynnau, offer, technegau ac allbynnau. Mae hefyd yn cynorthwyo i ddysgu dadansoddi problemau a datblygu atebion creadigol.
  • Traethawd hir: Nod y modiwl traethawd hir yw cael myfyrwyr i ddangos eu bod yn gallu defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd ganddynt ym mhob llwybr yn y rhaglen astudio israddedig, a’u cymhwyso mewn modd annibynnol a hunanysgogol wrth ymholi a datrys problemau. Drwy hyn, byddant yn ymestyn, yn ategu ac yn gwella eu dysg drwy nodi problem busnes/rheoli naill ai mewn busnes, cyfrifeg a chyllid, Rheoli Lletygarwch, Twristiaeth ac Adloniant, Rheoli Adnoddau Dynol, Marchnata neu unrhyw faes arall sy’n gysylltiedig â busnes sy’n gofyn am ymchwil ddamcaniaethol, casglu data strwythuredig a dadansoddi’r data hwnnw er mwyn arwain at gasgliadau ac argymhellion.

 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 48-72 pwynt tariff UCAS ar TGAU, Safon Uwch neu gyfatebol. Rhaid cael o leiaf ddwy Safon Uwch a TGAU Mathemateg a Saesneg / Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar Radd C / 4 neu gyfwerth. Bydd cymwysterau Sgiliau Allweddol UG a lefel 3 priodol hefyd yn cael eu hystyried. 

Addysgu ac Asesu

Mae myfyrwyr yn cael eu hasesu mewn amryw o ffyrdd yn ystod eu hastudiaethau isradd. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol ddulliau o asesu'n cael ei benderfynu gan amcanion a chanlyniadau dysgu gwahanol y modiwlau. Mae dulliau asesu'n cynnwys arholiadau traddodiadol, cyflwyniadau, adroddiadau, ymarferion efelychu a thraethodau.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i ddelio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.


O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyrwyr oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol cydnabyddedig.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.

Person sat on a laptop

Busnes ymMhrifysgol Wrecsam