custom square

Manylion cwrs

Côd UCAS

FDVN

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Northop

Course Highlights

Mynediad

i'n hystafell glinigol nyrsio milfeddygol bwrpasol sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol

Lleoliadau

16 wythnos yn darparu profiad mewn practis milfeddygol a gymeradwyir gan yr RCVS bob blwyddyn

Cefnogaeth

gan diwtor personol ar gampws gwledig cyfeillgar

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae gan Nyrsys Milfeddygol rôl allweddol yn y tîm milfeddygol amlddisgyblaethol wrth roi gofal nyrsio’n seiliedig ar dystiolaeth i’w cleifion. Os ydych yn feddwl y buasech yn mwynhau gweithio gydag anifeiliaid anwes a’u perchnogion i wella eu hiechyd, ac y buasech yn llwyddo mewn awyrgylch heriol, dyma’r cwrs i chi.

Bydd myfyrwyr yn:

  • astudio y cwrs gan tîm bach o arbenigwyr cefnogol fydd yn eich tywys trwy’ch astudiaethau er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd eich amcanion proffesiynol a phersonol.
  • cymhwyso theori i ymarfer yn ein cyfres glinigol - wedi'i chyfarparu ag ystod o offer milfeddygol a manicinau hyfforddi - trwy gydol eich astudiaethau.
  • datblygu eich sgiliau clinigol mewn practis hyfforddi milfeddygol
  • cael eich mentora yn ymarferol gan Hyfforddwr Clinigol yn ystod eich 16 wythnos o profiad gwaith a chael eich cefnogi gan Diwtor Cymorth Lleoli Clinigol o Dîm Nyrsio Milfeddygol y Brifysgol.
RCVS accreditation logo

Prif nodweddion y cwrs

  • Wedi cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gymwys i ymgeisio i gofrestru â’r RCVS, a defnyddio’r llythrennau ar ôl eich enw. 
  • Byddwch yn rhan o gymuned dysgu gydweithredol fach gyda staff a myfyrwyr.
  • Seilir sesiynau dysgu ar ddulliau myfyrwyr-ganolog mewn awyrgylch ymarferol.
  • Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu  gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio ystod o sgiliau a’r ddealltwriaeth greiddiol sydd yn hanfodol i weithio yn y diwydiant milfeddygol. Byddwch yn astudio pedwar modiwl ym mlwyddyn gyntaf eich rhaglen. Mae pob un ohonynt yn fodylau craidd.  

MODIWLAU

  • Anatomeg a Ffisioleg mewn Iechyd ac Afiechyd: Bydd y modiwl yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr am anatomeg a ffisioleg anifeiliaid ar lefel systemau a chellol. Bydd modiwl yn integreiddio ffisioleg a pathoffisioleg er mwyn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o gyflyrau afiechyd. 
  • Sylfaeni Ofal Cleifion: Modiwl amrywiol sydd yn cyflwyno’r myfyriwr i ofal claf ar sail tystiolaeth a bydd yn trafod ystod eang o bynciau a sgiliau, sydd yn hanfodol i ymarfer fel nyrs milfeddygol. Bydd y myfyriwr yn datblygu dealltwriaeth a sgiliau i drafod a ffrwyno anifeiliaid yn ddiogel ar gyfer amrywiaeth o weithdrefnau sydd yn hanfodol i ymarfer. Archwilir addasiadau gall nyrsys milfeddygol eu cyflwyno i sicrhau fod claf mor gyfforddus ag sy’n bosib yn yr awyrgylch milfeddygol, gyda theori ac ymarfer cynlluniau gofal nyrsio yn ganolog i ganlyniadau positif i gleifion.
  • Sylfaeni Ymarfer Nyrsio: Bwriad y modiwl yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli clwyf, technegau rhwymo gweithdrefnau cymorth cyntaf. Bydd pwysigrwydd therapi hylif i driniaeth ac adferiad claf hefyd yn cael ei thrafod.Mae’r modiwl hefyd yn cynnwys effaith therapy corfforol ar ganlyniadau i gleifion. Mae’n bwysig hefyd bod nyrsys milfeddygol yn wybodus a hyderus o ran ffiseg filfeddygol yn ogystal â deddfwriaeth ac anghenion sydd yn berthnasol i’r testun.Maes arall sydd y bwysig i nyrsys milfeddygol fod yn wybodus a hyderus yw ffiseg filfeddygol a’r ddeddfwriaeth ac anghenion perthnasol. Bydd cyflwyniad i ffarmacoleg a ffarmacodynameg yn y modiwl hwn.
  • Datblygiad Proffesiynol ac Academaidd 1: Yn y modiwl hwn bydd y myfyriwr yn cael ei gyflwyno i Log Cynnydd Nyrsio RCVS (NPL), cymwyseddau diwrnod un yr RCVS (DOC) a sgiliau diwrnod un (DOS). Mae’r modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu lleoliad milfeddygol cyntaf yn ogystal â datblygu sgiliau hanfodol sydd eu hangen am eu hastudiaethau academaidd, a ddefnyddir a’i hehangir yn ystod y rhaglen.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4/5)

Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar modiwl craidd eleni, dau ar lefel 4 a dau ar lefel 5. Bydd cyrsiau eleni’n dechrau canolbwyntio ar sgiliau penodol ac arbenigol y bydd rhaid i nyrs meddygol yn dod yn hyderus ynddynt wrth weithio.

MODIWLAU

  • Gweithdrefnau Diagnostig a Pharasitoleg: Mae gweithdrefnau diagnostig yn hanfodol ar gyfer diagnosis cywir. Mae nyrsys milfeddygol yn cynorthwyo’n rheolaidd o dan arweiniad y llawfeddyg milfeddygol mewn amrywiaeth o weithdrefnau diagnostig. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o’r egwyddorion fydd yn eu galluogi i ddefnyddio ystod o dechnegau delweddu a phrofion labordy. Mae’r modiwl hon yn ymdrin â phwnc pwysig parasitoleg, yn canolbwyntio ar ddulliau adnabod, cylchredau bywyd a strategaethau i’w trin a rheoli.
  • Nyrsio’r Claf Meddygol a Heintus: Bydd myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth ar ystod o afiechydon a chyflyrau sydd yn berthnasol i ymarfer milfeddygol. Er mwyn i strategaethau nyrsio’n seiliedig ar dystiolaeth fod yn llwyddiannus, mae’n bwysig i nyrsys deall y pathogenau gwahanol, a sut maen nhw’n ymddangos mewn cyflyrau afiechyd. Bydd strategaethau gofal nyrsio sydd yn defnyddio therapïau arloesol yn goleuo’r gofal a darparir i gleifion er mwyn cael gwell canlyniadau.
  • Datblygiad Proffesiynol ac Academaidd 2: Mae’r modiwl hon yn manylu’n bellach ar y modiwl Datblygiad Proffesiynol ac Academaidd ym mlwyddyn un. Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach ystod o arddulliau cyfathrebu, i gynulleidfaoedd penodol gyda chyflwyniad i logiau adfyfyriol. Byd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r broses academaidd o ysgrifennu erthyglau a phapurau ymchwil, gan ymdrin â dulliau casglu data, methodoleg a chynlluniau astudiaeth ymchwil. 
  • Anaesthesia ac Ymarfer Nyrsio Llawfeddygol: Mae gan nyrsys milfeddygol cofrestredig rôl allweddol yn yr amgylchedd llawfeddygol. Bydd nyrsys theatr yn paratoi’r theatr, offer a chleifion ar gyfer lawdriniaeth aseptig ac yn aml byddent yn cynorthwyo’r milfeddyg ar y safle llawfeddygol. Mae’r nyrsys hefyd yn monitro a chynnal y claf o dan anesthetig, o dan gyfeiriad y llawfeddyg.  Bydd y modiwl yn ymdrin â phob agwedd o nyrsio llawfeddygol anaesthesia, o baratoi’r claf i adferiad. 

BLWYDDYN  3 (LEFEL 5)

Darpariry pedwar modiwl diwethaf yn y flwyddyn hon. Nod y modylau yw paratoi myfyrwyr am y gweithlu milfeddygol a phwysleisio’r sgiliau a chyfleoedd proffesiynol sydd ar gael I Nyrsys Milfeddygol Cofrestredig.   

MODIWLAU

  • Nyrsio Argyfwng, Critigol ag Arbenigol: Mae natur amrywiol ymarferion milfeddygol yn cynnig cyfleoedd cyffrous ym maes gofal nyrsio argyfwng, gofal critigol ac arbenigol. Mae’r modiwl yn anelu datblygu gallu’r myfyriwr i feddwl yn feirniadol, cynyddu dealltwriaeth a gwybodaeth o ran glaf ag anghenion cymhleth sydd angen lefel gofal nyrsio uwch. 
  • Nyrsio Milfeddygol yn y Gymuned: Mae’r modiwl yn adlewyrchu sut mae amgylchedd y nyrs milfeddygol yn newid ac yn rhoi mewnwelediad i bosibiliadau gyrfaol i’n myfyrwyr wrth iddynt agosáu at gofrestru. Bydd y modiwl yn archwilio’r term Un Iechyd/Un Lles a’i pherthnasedd i’r nyrs milfeddygol, yn ogystal â’r effaith gallai nyrsys ei chael yn y gymuned. Mae cynaladwyedd bellach yn bwysig iawn i fyd buses, ble bydd gan ein darpar nyrsys rôl ddylanwadol. Bydd y modiwl yn archwilio cynlluniau ‘gwyrdd’ gallai fod o fudd i staff, cleientiaid a’r gymuned.
  • Arweiniad a Nyrsio Adfyfyriol: Nod y modiwl yw darparu sgiliau arweinyddiaeth a myfyrio er mwyn trosglwyddo’n llwyddiannus o fod yn fyfyriwr i fod yn nyrs milfeddygol. Bydd y modiwl yn archwilio rhinweddau arweinyddiaeth hanfodol a sut y bydd arweinyddiaeth trawsffurfio a bod yn ymarferydd adfyfyriol medrus yn mwyhau boddhad, perfformiad ac ysgogiad y tîm milfeddygol amlddisgyblaethol, gan arwain i effaith positif ar ofal anifeiliaid a chanlyniadau. 
  • Sgiliau Clinigol ac Ymarfer Proffesiynol: Mae’r modiwl hwn yn bwriadu unoli’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eich lleoliad gwaith ac astudiaethau academaidd yn y Brifysgol yn barod ar gyfer cyfrifoldebau cyflogaeth fel Nyrs Milfeddygol Cofrestredig. Bydd y cwrs yn archwilio cysyniad llywodraethu clinigol a’r gweithgareddau gall nyrsys milfeddygol eu gwneud i sicrhau bod safon eu hymarfer proffesiynol yn rhoi gwell canlyniadau i gleifion a chleientiaid. Bydd y modiwl hwn yn trafod fframweithiau cyfreithiol a moesegol o fewn y proffesiwn a’r herion ac anawsterau gallai codi. 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Yn ogystal â phwyntiau tariff y Brifysgol am radd Sylfaen (48-72 pwyntiau), gofynnir bod gan ymgeiswyr o leiaf 5 TGAU ar Raddfa 4(C) neu’n uwch yn cynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gymwysterau cyffelyb.   

Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr 10 diwrnod o brofiad gwaith cyfeiriol mewn practis milfeddygol. Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu hystyried os oes ganddynt 5 diwrnod o brofiad gwaith mewn practis milfeddygol a 5 diwrnod o brofiad mewn amgylchedd sector anifeiliaid perthnasol.

Gwahoddir ymgeiswyr addas i gyfweliad.

Addysgu ac Asesu

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu a gynllunnir i herio pob myfyriwr. Maen nhw hefyd yn gysylltiedig â’r sgiliau a gwybodaeth fydd yn hanfodol yn y proffesiwn milfeddygol. Gall asesiadau cynnwys:

  • Cynllunio pamffled client addysgiadol
  • Adroddiad cynllun gofal
  • Prawf dosbarth
  • Adolygiad llenyddiaeth
  • Cyflwyniad grŵp
  • Cofnodion adfyfyriol
  • Arholiad Gymhwysedd Gwrthrychol Strwythuredig (OSCE) 

Oriau cyswllt: Bydd myfyrwyr yn derbyn 36 awr o amser cyswllt ar gyfer modylau lefel 4, a 30 awr i lefel 5. Addysgu myfyriwr-ganolog fydd canolbwynt y rhaglen, gan ddefnyddio swît glinigol Glyndŵr ar gyfer yr holl sesiynau dysgu i alluogi profiad theori i ymarfer. 

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae cymhwyso a chofrestru fel Nyrs Milfeddygol Cofrestredig (RVN) yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol:

  • Ymarfer anifeiliaid bach cyffredinol
  • Ysbytai cyfeirio anifeiliaid bach
  • Nyrsio argyfwng ac allan-o-oriau
  • Ymarfer ceffylau a chymysg
  • Adsefydlu cleifion a therapïau addasu ymddygiad
  • Nyrsio ardal
  • Cadwraeth
  • Amgylchedd sŵolegol
  • Diwydiant fferyllol
  • Addysg
  • Cyfleoedd mentergarwch a busnes
  • Astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

*Achrediad Dros Dro

Cymwysterau sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyrraedd y safonau achredu. Unwaith y bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn cwblhau'r cymhwyster, gall AO neu SAU achrededig dros dro wneud cais i'r RCVS am achrediad llawn. Efallai y bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau a achredwyd dros dro basio arholiad Cyn-gofrestru RCVS (RCVS, Gorffennaf 2021).