Manylion cwrs

Côd UCAS

CN22

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

St Asaph, Wrecsam

Course Highlights

Astudiaeth

50/50 rhwng ymarfer clinigol a theori

Maes pwnc hwn yn 1af

ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Nghanllaw Prifysgol Cyflawn, 2024)

Bwrsariaeth y GIG

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG, gan gynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy ar gyfer costau byw

healthcare worker in PPE

Nyrsio ymMhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Nyrsio Plant? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Nyrsio amrywiol ym Mhrifysgol Wrecsam.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae nyrsio plant yn broffesiwn gweithgar sy’n rhoi ymdeimlad o bwrpas, ynghyd â boddhad anfesuradwy. Mae nyrsys plant yn sicrhau bod plant, unigolion ifanc, a’u teuluoedd wrth wraidd yr hyn a wneir ganddynt, gan ddangos gofal a thrugaredd sy’n cael effaith ystyrlon bob diwrnod, waeth pa mor fawr neu fach yw’r weithred.

 

Byddwch yn:

  • Cael tiwtor personol a fydd yn eich cefnogi a’ch arwain trwy eich datblygiad personol a phroffesiynol.
  • Astudio gradd a ddatblygwyd i fodloni safonau Nyrs y Dyfodol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) (2018).
  • Mae cael cyfleoedd ar gyfer dysgu rhyngbroffesiynol yn galluogi cydweithio ag amrywiaeth o wahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
  • Cael eich hyfforddi gan staff ymroddgar a gwybodus a fydd yn eich mentora a’ch arwain chi trwy’r ddarpariaeth o ofal iechyd ar gyfer plant a’u teuluoedd.
  • Rhannu eich astudiaethau 50/50 rhwng ymarfer clinigol a theori.
  • Ymgymryd â lleoliadau ymarfer mewn ystod eang o feysydd clinigol ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys ysbytai, unedau gofal arbennig i fabanod, hosbisau, nyrsys ysgol, ymwelwyr iechyd, gwasanaethau iechyd meddwl, a thimau nyrsio plant yn y gymuned.
  • Cael profi amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ac yn ennill profiad clinigol gwerthfawr dan arweiniad staff ymarfer profiadol. Cefnogir lleoliadau gwaith gan oruchwylwyr ac aseswyr ymarfer, ynghyd ag aseswr academaidd a hwyluswyr addysg ymarfer.
  • Cael mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf ynghyd â chyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn eich trochi yn ein profiadau dysgu.
  • Astudio gofal sy'n canolbwyntio ar y teulu ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn drwy gydol y cwrs. Mae dysgu sy'n benodol i faes plant o'r dechrau yn rhoi cyfle i chi ddysgu am anghenion gofal plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, ynghyd â dysgu a rennir rhwng meysydd nyrsio plant, oedolion ac iechyd meddwl ar themâu cyffredin sy'n berthnasol i bawb.
  • Astudio gradd yn llawn amrywiaeth, o ofalu am fabanod newydd-anedig ar adeg eu geni, i ofalu am y glasoed wrth iddynt baratoi i fod yn oedolion.
  • Cael profiadau a mireinio’r sgiliau a fynnir i gefnogi plant a’u teuluoedd ar adegau o drawsnewid, adfyd, a straen.
  • *Astudio cwrs hwn mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Nyrsio, Complete University Guide 2024.
Physio & OT students outside

Nyrsio aclechyd Perthynol

Prif nodweddion y cwrs

  • Dysgu sy'n benodol i faes plant o'r dechrau
  • Mae 50% o'r cwrs yn cael ei dreulio mewn ymarfer clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol
  • Athroniaeth gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Cymryd rhan mewn dysgu rhyngbroffesiynol
  • Datblygu annibyniaeth wrth ddysgu gydag ymrwymiad cryf i ddatblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr
  • Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Bydd lleoliadau ar draws y tair blynedd yn cael eu cynnal yng Nghymru o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer comisiynu (lleoedd a ariennir). Bydd y lleoliadau wedi'u lleoli mewn amrywiaeth eang o leoedd.
 

Beth fyddwch chin ei astudio

Bydd eich sesiynau theori yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu gan ddefnyddio dull cyfunol, gan ystyried Fframwaith Dysgu Gweithredol Prifysgol Wrecsam, gan gynnwys darlithoedd, dysgu seiliedig ar broblemau, trafodaethau asyncronnous, seminarau a sesiynau caffael sgiliau.

Mae mynediad i amgylcheddau dysgu rhithwir fel Moodle a Safemedicate - pecyn dysgu i helpu i ddatblygu sgiliau rhifedd a rheoli meddyginiaethau, yn nodweddion annatod o'ch dysgu. Mae'r rhaglen yn adeiladu o ran lefel academaidd a chyfrifoldeb proffesiynol wrth iddi fynd rhagddi drwy gydol y tair blynedd gan eich galluogi i ddod yn fwy hunangyfeiriedig yn eich dysgu gyda phwyslais tuag at ddiwedd eich rhaglen ar arweinyddiaeth a datblygiad fel nyrs gofrestredig.

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4) 

Ym mlwyddyn un byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau gofal sylfaenol sydd eu hangen i ymarfer fel gweithiwr proffesiynol gofalgar, caredig, tosturiol sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu anghenion unigol y claf, y teulu a'r gofalwyr.

Modiwlau

  • Hanfodion Ymarfer (40 credyd)
  • Rheoli Bregusrwydd mewn Cymdeithas (40 credyd)
  • Sylfeini Iechyd a Lles (40 credyd) 

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Ym mlwyddyn dau byddwch yn canolbwyntio ar gyfraith a moeseg, gofalu am y plentyn acíwt a chronig, ymchwil a gofal sy'n canolbwyntio ar y plentyn.

Modiwlau

  • Datblygu'r ymarferydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth (40 credyd)
  • Diwallu anghenion plant a theuluoedd mewn salwch acíwt a chronig (40 credyd)
  • Hyrwyddo Ymddygiad Iach (40 credyd)

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Ym mlwyddyn tri byddwch yn canolbwyntio ar reoli newid, grymuso plant a theulu/gofalwyr, cymhwyso biowyddoniaeth ar gyfer gofal cymhleth a datblygiad personol a phroffesiynol i'ch paratoi ar gyfer dod yn nyrs gofrestredig.

Modiwlau

  • Arloesi mewn Ymarfer (40 credyd)
  • Cydlynu Gofal Nyrsio Plant Cymhleth yn Holistaidd (40 credyd)
  • Arwain a Rheoli Gofal Nyrsio (40 credyd)


Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau opsiwn. Dynodir modiwlau yn rhai craidd neu opsiwn yn unol â gofynion cyrff proffesiynol ac adolygiad o'r fframwaith academaidd mewnol, felly gallant newid.Mae ein tudalen codi arian bwrpasol i'w gweld yma, gwnewch ran gyda theulu a ffrindiau a gadewch i ni weld faint o bellter y gallwn ei gwmpasu a faint o arian y gallwn ei godi fel un tîm Glyndŵr mawr yn Wrecsam.

 

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae'n rhaid i chi gael o leiaf pum TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg, Mathemateg (neu gyfwerth) a thystiolaeth o sgiliau TG. 

Y gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yw 80-112 pwynt tariff UCAS yn TAG Lefel A neu gyfatebol.

Fel arall, mae'n ofynnol bod gennych un o'r canlynol:

NVQ 3 (gyda thystiolaeth o Saesneg, Mathemateg a TGCh fel uchod)

neu

Wedi cwblhau naill ai  ‘Mynediad i Iechyd’ neu ‘Mynediad i Nyrsio’ (o Goleg Addysg Bellach sydd wedi ei gymeradwyo gan naill ai Agored Cymru neu OCN Gogledd-orllewin Lloegr (cymeradwywyd gan ASA) a'i fod wedi'i gyflawni ar y lefel canlynol: 112 o bwyntiau tariff UCAS).

Ar ben hyn:

Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb i asesu eich addasrwydd ar gyfer nyrsio plant. Mae’r broses hon yn gyfle i’ch cyflwyno i Brifysgol Wrecsam, ac yn eich caniatáu i gyfarfod eich darlithwyr, staff ymarfer, a chyd-fyfyrwyr.

  • Cynhelir cyfweliadau â staff academaidd, defnyddwyr gwasanaeth a/neu staff o’r GIG/darparwyr lleoliadau.
  • Mae profiad o weithio mewn lleoliad iechyd neu ofal cymdeithasol yn werthfawr.
  • Bydd angen GDG os yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
  • Bydd angen sgrinio iechyd galwedigaethol os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad.
  • Gellir gwneud cynigion amodol i'r bobl hynny sy'n astudio ar hyn o bryd ac yn aros am ganlyniadau academaidd.
  • Gofynnir am arholiad IELTS os ystyrir bod angen, gyda sgôr cyffredinol o 7 yn ofynnolar gyfer mynediad i'r rhaglen yn unol â gofynion y brifysgol a'r corff proffesiynol.
  • Mae maes nyrsio plant yn faes astudio y mae galw mawr amdano ym myd nyrsio. O ganlyniad i hynny, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno’ch ceisiadau mor gynnar â phosib.
Y broses ymgeisio: Er gwybodaeth, bydd y tîm derbyniadau nyrsio yn sgrinio pob cais UCAC ar-lein a gyflwynir am lefel o lythrennedd digidol. Un ffordd o gyflawni hyn yw os byddwch yn cael eich rhoi ar y rhestr fer byddwn yn eich gwahodd i ddigwyddiad dethol a bydd gofyn i chi ymateb i'r gwahoddiad e-bost-bydd hyn yn ein cynorthwyo i fesur eich lefel llythrennedd digidol.
 
Paratoi: Darllenwch God y NMC cyn mynychu.
 

Bydd tasg ysgrifenedig yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb cyn y cyfweliad. Mae'r dasg yn gofyn i chi drafod pwnc sydd yn ymwneud a'r maes nyrsio plant sydd wedi ennill eich diddordeb. Byddwch wedyn yn cael eich cyfweld ar sail unigol, lle bydd gofyn i chi ateb ychydig o gwestiynau byr i ganfod eich dealltwriaeth o nyrsio plant a gofalu am blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd y tîm cyfweld yn cynnwys staff academaidd y brifysgol ac aelod o'r Bwrdd Iechyd/gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu ddefnyddiwr gwasanaeth.

Nid yw'r cwrs hwn ar gael ar hyn o bryd i'r rhai sydd angen fias Haen 4 i astudio yn y DU

 

Addysgu ac Asesu

Mae angen i chi gyflawni o leiaf 2300 awr o ymarfer damcaniaethol a 2300 o ymarfer clinigol i alluogi cofrestru fel nyrs plant gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.

Byddwch yn cael eich asesu gan amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys:

  • Asesiad Ymarfer a phortffolio clinigol
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau
  • Arholiadau

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae nyrs plant yn blaenoriaethu lles pennaf y plentyn, gan weithredu fel ei eiriolwr, yn gwrando ar ei anghenion, ac yn diogelu ei iechyd. Bydd yn cydweithredu â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a gall weithio mewn amryw leoliadau, gan gynnwys mewn ysbytai plant byd enwog, ysbytai cyffredinol, lleoliadau yn y sector annibynnol, ynghyd â gofal yn y gymuned neu gartref. Gyda’r cymhwyster hwn, gallwch lywio dyfodol y maes nyrsio plant a dilyn gyrfa mewn amryw leoliadau.

Bydd cwblhau’r rhaglen radd hon yn eich cymhwyso i gofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) fel Nyrs Plant, gan eich caniatáu chi i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, yn y DU a thrwy’r byd.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.

 

Gwnewch gais

Oherwydd y nifer uchel o geisiadau, mae'r cwrs hwn bellach ar gau ar gyfer mynediad 2024/25. Os ydych yn dymuno gwneud cais am fynediad 2025/26, gwnewch gais drwy UCAS ar gyfer mynediad 2025/26 pan fydd ceisiadau'n ailagor ym mis Medi 2024.

Yn y cyfamser, efallai yr hoffech ystyried ein cyrsiau byr. 

Nursing professional making a home visit to an elderly patient

Nyrsio Mhrifysgol Wrecsam