Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Wedi'i hariannu'n lawn

y brentisiaeth gradd hon

Astudio rhan-amser

i ategu eich gwaith llawn amser

Dysgu cymhwysol

sy'n cyfuno hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gweithle.  

Pam dewis y cwrs hwn?

Datblygwch eich gyrfa mewn Peirianneg Cynhyrchu gyda chwrs prentisiaeth gradd. Ennill gwybodaeth academaidd, yn ogystal â rhoi eich sgiliau newydd i mewn i'r gweithle.

Bydd myfyrwyr yn:

  • cwblhau gradd lawn mewn tair blynedd o astudio rhan-amser
  • astudio unwaith yr wythnos, pedwar diwrnod sy'n weddill mewn cyflogaeth
  • datblygu sgiliau ymarferol ar gyfer gyrfau llwyddiannus mewn Peirianneg Cynhyrchu
  • datblygu sgiliau ymarferol sydd angen mewn unrhyw faes busnes, fel datrys problemau, gwaith tîm a rheoli prosiectau; ac
  • cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol a ddatblygwyd o fewn y rhaglen i'w gweithle.

Prif nodweddion y cwrs

  • gweithredu eich dysgu mewn prosiectau yn y gweithle
  • dim ffioedd cwrs
  • llwybr clir i wireddi eich uchelgeisiau yn y gweithle
  • cyflog a swydd warantedig wrth astudio
  • hyfforddi a rhwydweithio gyda phrentisiaid eraill yn PGW

Beth fyddwch chin ei astudio

Wrth weithio i'ch busnes, bydd Prentisiaid Gradd yn datblygu dealltwriaeth ddwys o'r sector a'ch busnes, ac wrth astudio un diwrnod yr wythnos gyda ni, byddant yn datblygu safbwynt ffres a gwybodaeth gyfoes o'u swydd.

Drwy ddefnyddio'r flwyddyn galendr lawn a chymhwyso tenantiaid craidd dysgu seiliedig ar waith, bydd myfyrwyr yn ennill eu dyfarniad o fewn yr un cyfnod â myfyrwyr amser llawn safonol.

Blwyddyn 1 (LEFEL 4)

Modiwlau:
  • Technegau Peiranneg Dadansoddol
  • Peirianneg Trydanol
  • Peirianneg Mecanyddol 
  • Ymchwilio a Hyfforddi yn y Gwaith
  • Peirianneg a Rheoli Gweithrediadau
  • Dylunio a Chynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)

Blwyddyn 2 (LEFEL 5)

Modiwlau:
  • Prosiect diwydiannol
  • Technegau Rheoli Dadansoddol
  • Gweithgynhyrchu, Cynaladwyedd a Diwydiant 4.0
  • Deunyddiau a Phrosesau
  • Awtomatiaeth Ddiwydiannol a PLC
  • Gweithredu Mecantroneg a Systemau Gweithgynhyrchu

Blwyddyn 3 (LEFEL 6)

Modiwlau:
  • Prosiect
  • Rheoli Gweithle, Ymgysylltu ac Ymrwymiad
  • System Cynhaliaeth a Diogelwch
  • System Peiriant a Chynhyrchiad
  • System Cyfathrebu Ddiwydiannol

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Gofynion mynediad safonol y Brifysgol i'r rhaglen hon ydy (am fynediad lefel 4):

  • 48 pwynt tariff UCAC o gymhwyster lefel 3 addas fel Lefelau A
  • 5 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg


Ystyrir ymgeiswyr heb y pwyntiau tariff UCAC angenrheidiol, neu sydd â chymwysterau heb y pwyntiau, ar sail eu profiad proffesiynol yn niwydiant y brentisiaeth. Bydd pob ymgeisydd sydd ddim yn ateb yr ofynion uchod yn cael eu cyfweld cyn gwneir cynnig, gan roi cyfle iddynt dangos sut mae eu sgiliau a phrofiadau o'r diwydiant yn eu gwneud yn addas i'r rhaglen.

I wneud cais am y llwybr prentisiaeth gradd, defnyddiwch ein ffurflen gais yma.

Addysgu ac Asesu

DYSGU AC ADDYSGU

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae Prentisiaeth Gradd yn rhoi profiad gwaith go iawn i chi, ochr yn ochr â'r wybodaeth a'r theori a gewch o astudio gradd. Drwy ganiatáu i chi ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth ar gyfer swyddi a gyrfaoedd penodol. Yn ogystal â rhoi hwb i'ch gyrfa a rhoi CV cryf i chi wedi'i deilwra i'r maes rydych am weithio ynddo.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

Gall y rhai sy'n astudio ar ein campws Plas Coch aros ym Mhentref Wrecsam, tra gall fyfyrwyr ein campws Llaneurgain aros yn Neuadd Corbishley, ein neuadd breswyl ar y campws.