BEng (Anrh) Peirianneg Ddiwydiannol (blwyddyn atodol)

A student in our engineering labs using the equipment

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 BL (rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Cysylltiadau cryf

gyda'r diwydiant a busnesau lleol

Mae myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr

yn gweithio i gwmnïau sy’n adnabyddus ledled y byd

Mae’r ffocws ar ddiwydiant a chyd-destun

y cwricwlwm yw’r gweithle

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs BEng Peirianneg Ddiwydiannol wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes peirianneg, gan gael ei gynnal yn rhan-amser i gyd-fynd â gwaith cyflogedig. Mae wedi ei ddatblygu gyda chyflogwyr o amrywiaeth o ddiwydiannau ac yn cynnwys nifer o fodiwlau seiliedig ar waith.

Byddwch yn:

  • gweithio gyda thechnoleg safon diwydiant
  • Arbenigo mewn un o 5 llwybr: ‘Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu’ (rhan-amser), ‘Rheoli Peirianneg’ (llawn amser a rhan-amser), ‘Mecanyddol’ (rhan-amser), ‘Trydanol ac Awtomatiaeth’ (rhan-amser) neu ‘Mecatroneg’ (llawn amser a rhan-amser)
  • mwynhau dysgu sy’n ysgogol, yn rhyngweithiol ac yn heriol
  • ennill dealltwriaeth o dechnolegau newydd a rhai sy’n datblygu, yn ogystal â sylfaen gadarn mewn theori.
  • astudio cwrs ble mae 97.6% o raddedigion mewn gwaith taledig neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio* *dadansoddiad Prifysgol Wrecsam o ddata heb ei gyhoeddi.

Bydd y gradd hwn yn dilyn o FdEng Peirianneg Diwydiannol ac yn eich galluogi i gael BEng (Anrh) mewn Peirianneg Diwydiannol.

Mae hyn yn golygu y bydd y gost gyffredinol yn llai ac y byddwch yn graddio gyda gradd anrhydedd lawn mewn dim ond tair blynedd (mae’r cwrs atodol lefel 6 yn amodol ar gwrdd â gofynion mynediad).

 

Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.

Prif nodweddion y cwrs

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm dysgu penodol, ac mae gan lawer ohonynt gefndir diwydiannol.
  • Astudio’n hyblyg wrth gael eich rhydau am ddiwrnod o’r gwaith i gyd-fynd â’ch cyflogaeth (gwiriwch yr argaeledd).
  • Cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant a busnesau lleol.
  • Defnyddio offer safon diwydiant yn ein labordai peirianneg arbenigol.
 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 6)

Bydd y modiwlau y byddwch yn eu hastudio yn eich blwyddyn atodol yn ddibynnol ar y llwybr a ddewiswyd gennych. Bydd y rhaglen yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ichi o egwyddorion mathemategol sy’n berthnasol i beirianneg ddiwydiannol, dangos ymwybyddiaeth o oblygiadau amgylcheddol a’r angen am ddatblygu cynaliadwy. Byddwch yn cynnal arbrofion labordy i archwilio egwyddorion a dylunio peirianyddol, adeiladu a phrofi dyfeisiadau a systemau cyn paratoi adroddiadau technegol disgrifiadol, deongliadol a gwerthusol.

Modiwlau Craidd

  • Prosiect y Flwyddyn Olaf
  • Peirianneg Broffesiynol

Llwybr Trydanol ac Awtomatiaeth

  • Modelu ac Efelychu Peirianneg Drydanol
  • Offer pŵer a pheiriannau trydanol
  • Systemau Cyfathrebu Diwydiannol

Llwybr Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu

  • Systemau Cynhyrchu a Pheiriannau
  • Gwelliant Parhaus a Darbodus
  • Rheoli’r Gweithlu, Ymgysylltu ac Ymrwymiad

Llwybr Mecanyddol

  • Modelu ac Efelychu Peirianneg Fecanyddol
  • Gwelliant Parhaus a Darbodus
  • Dylunio Cynnyrch

Llwybr Mecatroneg

  • Cymwysiadau Mecatronig
  • Dylunio a Phrofi Trydanol
  • Systemau Cyfathrebu Diwydiannol

Llwybr Rheoli Peirianyddol

  • Cynnal a Chadw a Systemau Diogelwch
  • Gwelliant Parhaus a Darbodus
  • Rheoli’r Gweithlu, Ymgysylltu ac Ymrwymiad 

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ar gyfer y llwybr BEng Peirianneg Ddiwydiannol, rhaid i chi fodloni’r meini prawf mynediad a rhai’r tiwtor derbyn trwy ddangos tystiolaeth ddogfennol bod gennych gymhwyster ar lefel 5 neu uwch mewn disgyblaeth berthnasol a bod gennych y cefndir angenrheidiol, ar ôl cyflawni’r hyn sy’n cyfateb i 240 credyd Addysg Uwch gydag o leiaf 120 credyd ar lefel 5. Gallwch gael mynediad i'r rhaglen os gallwch gyflwyno tystiolaeth eich bod wedi gwneud un o’r canlynol:

  1. Pasio Dip AU mewn disgyblaeth berthnasol.
  2. Pasio FdEng mewn Peirianneg Ddiwydiannol o Brifysgol Wrecsam.
  3. Ennill 240 credyd ar lefelau 4 a 5, gydag o leiaf 120 credyd ar lefel 5, o astudiaethau Addysg Uwch addas a pherthnasol eraill (bydd angen cyfweliad cyn y gwneir cynnig).

A wnewch chi nodi os gwelwch yn dda ar eich ffurflen gais, ar ôl Peirianneg Ddiwydiannol yn y blwch ‘teitl y cwrs’, eich llwybr dewisol, e.e. BEng Peirianneg Ddiwydiannol (Mecatroneg).

Gall myfyrwyr sydd yn cyflwyno tystiolaeth eu bod wedi pasio’r FdEng mewn Peirianneg Ddiwydiannol ym Mhrifysgol Wrecsam gael mynediad penodol i’r rhaglen yma.

 

Addysgu ac Asesu

Byddwch yn cymryd rhan mewn gwaith labordy a dysgu seiliedig ar waith yn eich gweithle. Mae arddangosiadau tiwtorial a gwaith ymarferol a asesir hefyd yn rhan o’r cwrs.

DYSGU AC ADDYSGU

Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.

O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyrwyr oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol cydnabyddedig.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau deallusol ac ymarferol i gwrdd â’r anghenion i’r dyfodol mewn amgylchedd technoleg a busnes sydd yn prysur newid. Yn ogystal â pharhau gyda’ch datblygiad proffesiynol mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel peiriannydd proffesiynol mewn diwydiant, mewn rolau megis:

  • Peiriannydd dylunio
  • Peiriannydd meddalwedd awtomatiaeth
  • Peiriannydd profi a graddnodi
  • Peiriannydd comisiynu
  • Peiriannydd deunyddiau
  • Rheoli ansawdd
  • Rheoli cynnal a chadw
  • Rheoli Cynhyrchu
  • Peiriannydd dylunio systemau mecatronig
  • Rôl rheoli yn y diwydiant
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

 

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.