FdEng Peirianneg Ddiwydiannol
Manylion cwrs
- Blwyddyn mynediad 2023, 2024
- Hyd y cwrs 2 BL (rhan-amser)
- Tariff UCAS 48-72
- Lleoliad Wrecsam

Course Highlights
Wedi’i achredu’n llawn gan y
y Bwrdd Achredu Peirianneg (EAB)
Mae myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr
yn gweithio i gwmnïau sy’n adnabyddus l
Mae’r ffocws ar ddiwydiant a chyd-destun
y cwricwlwm yw’r gweithle
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r cwrs FdEng Peirianneg Ddiwydiannol wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes peirianneg, gan gael ei gynnal yn rhan-amser i gyd-fynd â gwaith cyflogedig. Mae wedi ei ddatblygu gyda chyflogwyr o amrywiaeth o ddiwydiannau ac yn cynnwys nifer o fodiwlau seiliedig ar waith.
Byddwch yn:
- Gweithio gyda thechnoleg safon diwydiant.
- Arbenigo mewn un o dri llwybr: ‘Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu’, ‘Mecanyddol’ neu ‘Trydanol ac Awtomatiaeth’.
- Mwynhau dysgu sy’n ysgogol, yn rhyngweithiol ac yn heriol.
- Ennill dealltwriaeth o dechnolegau newydd a rhai sy’n datblygu, yn ogystal â sylfaen gadarn mewn theori.
- Astudio cwrs ble mae 97% o raddedigion mewn gwaith taledig neu’n astudio 15 mis ar ôl graddio* *dadansoddiad PGW o ddata heb ei gyhoeddi.
Byddwch yn ennill gradd sylfaen mewn dim ond dwy flynedd. Mae yna opsiwn i wneud cwrs blwyddyn ategol (lefel 6) i ennill BEng (Anrh) mewn Peirianneg Ddiwydiannol. Mae hyn yn golygu y bydd y gost gyffredinol yn llai ac y byddwch yn graddio gyda gradd anrhydedd lawn mewn dim ond tair blynedd (mae’r cwrs atodol lefel 6 yn amodol ar gwrdd â gofynion mynediad).


Peirianneg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Prif nodweddion y cwrs
- Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm dysgu penodol, ac mae gan lawer ohonynt gefndir diwydiannol.
- Astudio’n hyblyg wrth gael eich rhydau am ddiwrnod o’r gwaith i gyd-fynd â’ch cyflogaeth (gwiriwch yr argaeledd).
- Cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant a busnesau lleol.
- Buddsoddiad mewn offer gan gwmnïau mawr a chyflenwyr lleol.
- Defnyddio offer safon diwydiant yn ein labordai peirianneg arbenigol
- • Bydd mentor yn ymweld yn rheolaidd â’ch gweithle.
- Mae’r cyrsiau wedi eu hachredu gan y Bwrdd Achredu Peirianneg (Engineering Accreditation Board EAB) – Mae’r Bwrdd Achredu Peirianneg yn cynnwys yr holl Sefydliadau Peirianneg Proffesiynol (PEIs) sydd wedi eu trwyddedu gan y Cyngor Peirianneg i achredu rhaglenni academaidd ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig a Pheiriannydd Corfforedig. Mae’r Cyngor Peirianneg yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer yr EAB.
- Mae 97% o raddedigion y cwrs hwn mewn gwaith taledig neu'n astudio* *arolygwyd graddedigion 15 mis ar ôl graddio, dadansoddiad PGW o ddata heb ei gyhoeddi.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
MODIWLAU CRAIDD
- Technegau Peirianneg Ddadansoddol
- Peirianneg Fecanyddol
- Ymchwiliad a Hyfforddiant seiliedig ar waith*
- Dylunio a CAD
- Rheoli Peirianneg
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
MODIWLAU CRAIDD
- Prosiect Diwydiannol
- Technegau Rheoli Dadansoddol*
- Gweithgynhyrchu Modern a Diwydiant 4.0
Mecanyddol
- Peirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur
- Dylunio Systemau Mecanyddol
- Peirianneg Deunyddiau
Trydanol ac Awtomatiaeth
- Dosbarthu Pŵer a Dylunio Systemau
- Awtomatiaeth Ddiwydiannol a Rheolwyr Rhesymeg Rhaglenadwy (PLC)
- Offeryniaeth a Monitro Cyflwr
Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu
- Awtomatiaeth Ddiwydiannol a Rheolwyr Rhesymeg Rhaglenadwy (PLC)
- Cymhwyso Mecatronig a Systemau Gweithgynhyrchu
- Peirianneg Deunyddiau
*modiwlau seiliedig ar waith
Mae’r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf naill ai modiwlau craidd neu ddewisol. Mae modiwlau wedi eu dynodi’n rhai craidd neu ddewisol yn unol â gofynion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly fe allant newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Ein gofynion cyffredinol yw 48-72 pwynt tariff UCAS, ond ystyrir pob cais yn unigol ac fe wnawn ni ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.
Bydd cymhwyster academaidd mewn peirianneg ar Lefel 3 e.e. BTEC Diploma Cenedlaethol Estynedig PPP yn rhoi 48 pwynt tariff UCAS. Gall HNC mewn maes perthnasol eich galluogi i ymuno ag 2il flwyddyn y cwrs drwy Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) neu Gydnabyddiaeth o Ddysgu Drwy Brofiad Blaenorol (RPEL).
A wnewch chi nodi ar eich ffurflen gais eich llwybr dewisol ar ôl Peirianneg Ddiwydiannol ar gyfer maes teitl y Cwrs, e.e. FdEng Peirianneg Ddiwydiannol (Mecanyddol).
Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi eu cyflogi mewn rôl/swydd briodol mewn diwydiant. Bydd cyngor a chanllaw i ymgeiswyr ynglŷn â’u profiad priodol a’u cefndir diwydiannol yn cael ei gynnig gan y tiwtor derbyn. Bydd profiad personol yn cael ei ystyried hyd yn oed os nad oes gan yr ymgeisydd unrhyw gymwysterau addysg ffurfiol.
Addysgu ac Asesu
Bydd y radd Sylfaen hon nid yn unig yn canolbwyntio ar yr agweddau damcaniaethol traddodiadol hynny sy’n gysylltiedig â pheirianneg, ond hefyd yn rhoi sylw i dechnolegau newydd a’r rhai sy’n datblygu ac sydd yn hanfodol i gynnal effeithlonrwydd mewn marchnad fyd-eang gystadleuol. Byddwch yn cymryd rhan mewn gwaith labordy ymarferol a dysgu seiliedig ar waith yn eich gweithle. Mae arddangosiadau tiwtorial a gwaith ymarferol a asesir hefyd yn rhan o’r cwrs.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.
O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyrwyr oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol cydnabyddedig.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau deallusol ac ymarferol i gwrdd â’r anghenion i’r dyfodol mewn amgylchedd technoleg a busnes sydd yn prysur newid. Yn ogystal â pharhau gyda’ch datblygiad proffesiynol mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel peiriannydd proffesiynol mewn diwydiant, mewn rolau megis:
- Peiriannydd dylunio
- Peiriannydd meddalwedd awtomatiaeth
- Peiriannydd profi a graddnodi
- Peiriannydd comisiynu
- Peiriannydd deunyddiau
- Rheoli ansawdd
- Rheoli cynnal a chadw
- Rheoli Cynhyrchu
- Peiriannydd dylunio systemau mecatronig
- Rôl rheoli yn y diwydiant
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn. Ffioedd dysgu israddedig rhan amser £4,500 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.
Yn amodol ar ail-achredu
Rhaid adnewyddu achrediad/cydnabyddiaeth allanol gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (CPSRh) o dro i dro ar gyfer cyrsiau sy’n bodoli eisoes. Mae’r manylion ar y wefan yn seiliedig ar achrediad fersiwn flaenorol neu gyfredol y cwrs, a gwneir y diweddariadau a ragwelir cyn gynted ag y gwyddom amdanynt.
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau sydd yn dal i fod ‘yn amodol ar ail-achredu’ yn cael eu hachredu yn ôl y disgwyl, fodd bynnag, ni warantir hyn, ac os na chaiff yr achrediad ei gymeradwyo yn ôl y disgwyl, neu ei newid neu ei ohirio’n sylweddol, cewch eich hysbysu gan y Brifysgol.